The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam

009 Y Sger


Ty'r Sger.

HLCA 009 Y Sger

Tirwedd amaethyddol ganoloesol/l-ganoloesol; ffiniau caeau pendant; archeoleg greiriol a chladdedig, sy'n cynnwys nodweddion angladdol a defodol yn bennaf; eglwysig: maenor fynachaidd ganoloesol; pensaernaeth frodorol ganoloesol/l-ganoloesol; cysylltiadau hanesyddol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

At ei gilydd mae gan ardal tirwedd hanesyddol y Sger yr un ffiniau daliad l-ganoloesol Ystad Margam sydd wedi'i chanoli ar Dy'r Sger ac sy'n cwmpasu plwyf l-ganoloesol y Sger, y mae rhan ohono bellach yn lleoliad i gwrs golff Porthcawl. Mae tua hanner yr ardal, o amgylch Ty'r Sger, wedi'i dynodi fel ardal cadwraeth tirwedd.

Bu pobl yn byw yn yr ardal ers y cyfnod cynhanesyddol; fel y tystia darganfyddiadau fflint gwasgaredig a grwp o bedwar crug crwn (carneddi) yn dyddio o'r Oes Efydd i'r de-ddwyrain o Dy'r Sger. Cynrychiolir y cyfnod Rhufeinig hefyd gan ddarganfyddiadau, yn dyddio o'r 3-4ydd ganrif, er na nodwyd unrhyw safleoedd sefydlog na chladdedig eto yn yr ardal.

Yn ystod y cyfnod canoloesol ffurfiai'r ardal gnewyllyn maenor fynachaidd y Sger, a oedd yn gysylltiedig 'r Abaty Sistersaidd yng Nghastell-nedd, ac roedd ei chraidd yn y Ty l-ganoloesol diweddarach. Ystyrir bod adeiladwaith llawer o'r ty a'r ysguboriau cysylltiedig yn dyddio o'r cyfnod hwn. Roedd y ty yn adeilad deulawr, hir, cul yn dyddio o'r cyfnod canoloesol a ymestynnai o'r gogledd i'r de ac a drawsnewidiwyd ar ddiwedd yr 16eg ganrif gan y teulu Turberville, teulu a oedd yn enwog am eu safiad reciwsantaidd parhaol yn ystod y Diwygiad, ac y daeth yr eiddo i'w meddiant yn 1561. Mae nodweddion o dywodfaen lleol sy'n dyddio o'r 16eg ganrif ac sy'n nodweddiadol o'r ardal leol i'w gweld o hyd yn y ty. Mae'r rhain yn cynnwys ffenestri myliynog a chroeslathog siamffrau a mowldiau capan, a drysau a lleoedd tn a chanddynt amlinelliad pedwar canol gwastad. Mae nifer fawr o fargodiadau talcennog, y gosodwyd cyrn simnai sgwr arnynt naill ai adeg adeiladu'r ty neu'n ddiweddarach, yn cynnwys grisiau, neu ystafelloedd bach, ac maent yn nodweddion trawiadol. Yn bensaernol cyfunai Ty'r Sger ddwy agwedd ddiddorol; y cymesuredd a osodwyd ar y wyneb blaen sip E, a oedd yn ddatblygiad newydd, a'r penderfyniad i leoli'r neuadd ar y lefel uchaf uwchlaw llawr gwaelod isel nad oedd yn gromennog, sef y dull traddodiadol o adeiladu cestyll.

Mae adeiladau pwysig eraill yn yr ardal gymeriad yn cynnwys y Cartref Gorffwys ac Ymadfer (Rhestredig Gradd II), sy'n nodwedd dra amlwg ar nenlinell Rest Bay ac a adeiladwyd ar ffurf 'chalets' rhwng 1874 a 1877 gan Dr. James Lewis ac a gefnogwyd gan deuluoedd a oedd yn berchen ar dir lleol, diwydianwyr a chan Florence Nightingale. Disodlodd y safle yn Rest Bay, a roddwyd gan y teulu Talbot o Fargam yn 1874, hosbis gynharach a sefydlwyd yn 1862 yn New Road, Porthcawl yn sgil epidemig colera 1849. Rhestrwyd y safle oherwydd ei rl unigryw yn hanes diwydiannol De Cymru fel adeilad lles pwysig a luniwyd ac a gynhaliwyd gan ddyngarwch lleol. Cymerodd tri phensaer pwysig ran yn y gwaith o'i adeiladu: John Pritchard (a oedd yn gyfrifol am adfer Eglwys Mawdlam yn 1878) oedd pensaer y prif adeilad, GF Lambert oedd yn gyfrifol am ychwanegu'r adain chwith a'r twr dwr yn 1891-3, tra ychwanegodd EM Bruce Vaughan yr adain chwaith a'r adain dde yng nghefn yr adeilad yn 1900 a 1909.

Gerllaw ar safle caerog posibl yn dyddio o'r cyfod cynhanesyddol neu ar l hynny, a elwir yn Gastell Morlais (dengys argraffiad cyntaf map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1884 fod strwythur l-ganoloesol ar y safle sy'n 'adfeiliedig'), saif Pafiliwn Clwb Golff Brenhinol Porthcawl, clwb y cwrs golff byd-enwog, y rhoddwyd y teitl Brenhinol iddo gan Edward VII yn 1909.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir y Sger fel tirwedd amaethyddol ganoloesol/l-ganoloesol amrywiol a nodweddir gan gaeau rheolaidd o faint canolig a mawr a lleiniau o gefnen a rhych sydd wedi goroesi (y gellir eu gweld ar ffotograffau a dynnwyd o'r awyr). Mae ffiniau caeau pendant i'w gweld o hyd yn yr ardal, waliau sych yn bennaf sy'n gysylltiedig gwaith a wnaed i ad-drefnu'r dirwedd yn ystod y cyfnod l-ganoloesol cynnar. Fodd bynnag, mae archeoleg greiriol yn dal i fod yn elfen bwysig sy'n cynnwys yn bennaf nodweddion angladdol a defodol cynhanesyddol ac olion o aneddiadau a chaeau canoloesol, tra cynrychiolir archeoleg gladdedig gan olion cnydau/crasu a nifer o ddarganfyddiadau gwasgaredig cynhanesyddol. Mae'r nodweddion eglwysig yn gysylltiedig 'r defnydd blaenorol a wneid o'r ardal fel maenor fynachaidd ganoloesol, wedi'i chanoli ar y Sger. Mae Ty'r Sger, ty bonedd yn dyddio o'r cyfnod l-ganoloesol cynnar, (Adeilad rhestredig gradd II*) a safle maenor fynachaidd, yn nodwedd dirwedd weledol amlwg ac yn enghraifft bwysig o bensaernaeth frodorol ganoloesol/l-ganoloesol. Yn gysylltiedig Thy'r Sger mae Ty'r-ychen, rhes o adeiladau allan ac ysguboriau (Adeilad rhestredig gradd II). Gyda'i gilydd mae gan Dy'r Sger a Thy'r-ychen werth grwp. Mae gan Dy'r Sger, sydd wrthi'n cael ei adnewyddu, a'r ardal o'i amgylch, gysylltiadau hanesyddol rhanbarthol a lleol pwysig.

Nodweddir yr ardal hefyd gan lwybrau cysylltiadau bach, llwybrau troed a llwybrau, sy'n dyddio yn l pob tebyg o'r cyfnod canoloesol/cyfnod l-ganoloesol cynnar.