Gelli-gaer

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gelli-gaer

002 Tir Comin Agored Capel Gwladysn


Aerial view of Gelligaer

HLCA 002 Tir Comin Agored Capel Gwladysn

Tirwedd amaethyddol greiriol; clostir eglwys ac olion archeolegol cynnar; safleoedd milwrol Rhufeinig. Nôl i'r map


Cefndir hanesyddol

Nodweddir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Tir Comin Agored Capel Gwladys gan ei llwyfandir o fryniau isel a'i therasau llydan o rostir fynyddig agored heb ei gwella, sydd wedi'i gorchuddio mewn rhai mannau â brwyn a rhedyn trwchus. Mae'r tir, lle na cheir unrhyw wrychoedd nac adeiladau cyfannedd, yn graddol ddisgyn o'r gogledd tua'r de-ddwyrain ac yn draenio i Nant Bryncanol. Ar hyn o bryd fe'i defnyddir ar gyfer porfa arw, a borir gan ddefaid a merlod mynydd, a chan y cyhoedd ar gyfer gweithgareddau 'pleser', y mae nifer ohonynt yn fygythiad i adeiladwaith hanesyddol yr ardal.

Ar ochr ogledd-ddwyreiniol yr ardal nodwyd tirwedd archeolegol greiriol o gyn-gaeau âr amgaeëdig gyda grwn a rhych, ceuffyrdd a thystiolaeth o anheddiad yn ystod gwaith maes. Mae'r dystiolaeth ddogfennol a'r olion yn awgrymu dyddiad canoloesol neu ddyddiad ar ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol ar gyfer y gweithgarwch hwn, y gellir ei gysylltu â maenor ddemên Eglwyswladus y ceir cyfeiriadau ati mewn dogfennau. Mae'r enw lle Maerdy sydd ar fferm gerllaw (yn HLCA 004) yn ategu'r farn hon. Mae gwaith cloddio ar raddfa fach yn amlwg yn rhan ogleddol yr ardal hon.

Amherir ar yr ardal gan y graith lydan o borfa werdd wedi'i gwella, a grëwyd pan osodwyd pibell nwy yn y 1980au ac sy'n ymestyn i'r gogledd dros weddill y Tir Comin o gwr gorllewinol yr ardal hon.

Y nodwedd amlycaf, yn weledol ac yn ysbrydol, yn nhirwedd yr ardal hon yw olion safle eglwys Capel Gwladys a'i nodweddion cysylltiedig, a nodir erbyn heddiw gan groes. Cyfeirir at y safle, a leolir yn arwyddocaol gerllaw ffordd Rufeinig, ym Muchedd Gwynllyw Sant o'r 12fed ganrif mewn cyd-destun sy'n awgrymu ei fod yn eithaf hynafol bryd hynny. Mae'r olion yn cynnwys sylfeini'r eglwys hirsgwar sydd o gerrig sych (40' wrth 19'), sy'n cynnwys twr gorllewinol, corff yr eglwys a'r gangell, wedi'u lleoli o fewn clostir. Darganfuwyd croes carreg garw â chroes gylch wedi'i hendorri arno ar y safle ym 1906 ac yn ôl pob tebyg mae'n dyddio o'r 8fed ganrif neu'r 9fed ganrif. Fe'i cedwir yng nghyntedd yr eglwys blwyf ddiweddarach yn Gelli-gaer. Mae'n bosibl bod clostir allanol, sy'n cynnwys wall allanol o gerrig, yn cynnwys yr anheddiad a gysylltir â Chapel Gwladys.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodwedd amlycaf yr ardal hon o dir comin agored, yn archeolegol, yn ddiwylliannol ac yn weledol, yw olion Capel Gwladys, sy'n dyddio o ddechrau'r Oesoedd Canol yn ôl pob tebyg. Mae nifer o wersylloedd ymafer Rhufeinig yn ychwanegu diddordeb milwrol at yr ardal ac maent yn cysylltu â'r ceyrydd yn Anheddiad Hanesyddol Gelli-gaer (HLCA 001) i'r de. Darganfu gwaith maes dirwedd hanesyddol greiriol helaeth o gryn bwysigrwydd, yn enwedig am y gellir ei chysylltu â maenor ddemên Eglwyswladus y ceir cyfeiriadau ati mewn dogfennau.