Gelli-gaer

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gelli-gaer

003 Y Tir Comin Amgaeeding Gorllewinoln


Aerial view of Gelligaer

HLCA 003 Y Tir Comin Amgaeeding Gorllewinol

Ffordd Rufeinig; ffiniau caeau pendant; heneb angladdol gynhanesyddol; archeoleg ganoloesol greiriol bwysig; clostir. Nôl i'r map


Cefndir hanesyddol

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol y Tir Comin Amgaeëdig Gorllewinol yn cynnwys ardal o borfa amgaeëdig wedi'i gwella, a fyddai wedi bod yn fynydd-dir agored gynt. Mae'r ardal gyfan yn graddol godi o anheddiad Gelli-gaer tua'r gogledd mewn cyfres o lwyfandiroedd grisiog, y mae eu llethrau gorllewinol wedi'u rhicio gan bedwar cwm - sef Cwm Nant Llwynog, Cwm Nant Wen, Cwm Nant y Garth a Chwm Nant Ddu.

Nodweddir yr ardal hon gan dirwedd ar ffurf llwyfandir o fryniau isel lle y ceir porfa amgaeëdig a phatrwm anheddu o ffermydd wedi'u gwasgaru yma ac acw. I'r de fe'i rhennir gan linell y ffordd Rufeinig, a adwaenir fel Heol Adam, sy'n rhedeg tua'r gogledd o'r ceyrydd yn Gelli-gaer. Mae'r enw lle Adam yn dra amlwg yn y rhan hon o'r ardal gymeriad - 'Penheol Adam', 'Tir Adam Uchaf', 'Tir Adam Isaf'. Fodd bynnag, nid yw tarddiad yr enw personol hwn yn hysbys, er yr awgrymir ei fod yn tarddu o'r enw biblaidd - Adam - sef y dyn cyntaf - sy'n ychwanegu llên gwerin a hygrededd at henaint mawr y ffordd. Ceir rhai aneddiadau hirgul gwasgaredig ar hyd Heol Adam, a ymestynnid ymhellach pe caent eu mewnlenwi â thai yn y dyfodol.

Trwy'r ardal drwyddi draw clostiroedd hirsgwar bach i ganolig eu maint yw'r caeau at ei gilydd, a chanddynt ffiniau ag ochrau syth fel arfer. Yn y rhan ddeheuol mae'r ffiniau hyn yn cynnwys cloddiau, wedi'u leinio rywsut-rywfodd â thywodfaen Pennant, sy'n cynnal coed a llwyni bach, sef celyn, drain gwynion ac ynn. Ymhellach i'r gogledd, yn agosach at y tir comin agored, mae ffiniau'r caeau hefyd yn cynnwys waliau sych mawr ac mae yna dystiolaeth o ddatblygiad gofodol a chronolegol y ddau fath hyn o ffin cae - o'r math yn cynnwys clawdd yn y de i waliau sych yn bennaf yn y gogledd. Dengys y caeau yn y rhan ddeheuol ychydig o arwydd o gyn-amaethu grwn a rhych.

Yn archeolegol ychydig a wyddom am ran ddeheuol yr ardal hon, lle y gall gweithgareddau amaethyddol fod wedi dinistrio llawer o'r dystiolaeth. Mae Maen Catwg, y garreg gefn-nod fawr o'r Oes Efydd yn eithriad nodedig ac yn nodwedd amlwg yn y dirwedd.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodwedd amlycaf yr ardal hon o dir comin agored, yn archeolegol, yn ddiwylliannol ac yn weledol, yw olion Capel Gwladys, sy'n dyddio o ddechrau'r Oesoedd Canol yn ôl pob tebyg. Mae nifer o wersylloedd ymafer Rhufeinig yn ychwanegu diddordeb milwrol at yr ardal ac maent yn cysylltu â'r ceyrydd yn Anheddiad Hanesyddol Gelli-gaer (HLCA 001) i'r de. Darganfu gwaith maes dirwedd hanesyddol greiriol helaeth o gryn bwysigrwydd, yn enwedig am y gellir ei chysylltu â maenor ddemên Eglwyswladus y ceir cyfeiriadau ati mewn dogfennau.