The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Cwm Clydach

Prosesau Hanesyddol Blaenafon, Themâu a Chefndir

Cyflwyniad

Mae Cwm Clydach, ceunant dwfn sy'n torri ymyl ogledd-ddwyreiniol Maes Glo De Cymru, rhwng Mynydd Llangatwg ac ucheldiroedd Gogledd Gwent, yn darparu coridor llwybr naturiol. Oherwydd amodau daearegol yr ardal, ynghyd â'r adnodd pwer a ddarperir gan afon Clydach, bu pobl yn defnyddio'r ardal o'r cyfnod cynhanesyddol o leiaf fel y tystia Craig-y-Gaer, caer yn dyddio o'r Oes Haearn. Mae pwysigrwydd yr ardal i'w briodoli'n bennaf i'r Oes ddiwydiannol; mae'r pwysigrwydd hwn yn seiliedig ar amrywiaeth ddwys o safleoedd diwydiannol pwysig a systemau trafnidiaeth olynol, sy'n cynrychioli microcosm cryno ac integredig o orffennol diwydiannol Cymru.

Credir bod argaeledd coetir trwchus yn darparu adnodd o bren a golosg ar gyfer tanio ffwrneisi yn ystyriaeth bwysig o ran denu diwydiant cynnar i'r ceunant. Roedd geomorffoleg yr ardal, natur serth y tir yn fanteisiol i ddiwydiannau gweithio haearn a llosgi calch cynnar, am ei bod yn galluogi ffwrneisi chwyth ac odynau calch i gael eu lleoli'n strategol i mewn i lethrau'r cwm i hwyluso llenwi deunyddiau i fyny'r llethr a'u tynnu allan i lawr y llethr. Ystyrir ei bod yn debyg i'r ardal hon gael ei defnyddio at ddibenion diwydiannol, yn arbennig gweithio haearn, yn ystod y cyfnod canoloesol, er nad oes unrhyw dystiolaeth ddogfennol i ategu hynny. Dengys dogfennau i'r ardal ddechrau cael ei datblygu o ddifrif at ddibenion diwydiannol o ddiwedd yr 16eg ganrif, pan sefydlodd y teulu Hanbury o Bont-y-pwl ffwrnais a gefail Llanelli ar lan ogleddol yr afon. Arweiniodd y cynnydd cyflym yng nghynhyrchiant glo a golosg erbyn yr 17eg ganrif at sefydlu'r anheddiad diwydiannol yng Ngheunant Clydach. Mae Clydach House, a leolir gerllaw ac a adeiladwyd yn 1693 gan Francis Lewis, clerc i'r ffwrnais, yn arddangos yn rhodresgar arfbais ei deulu uwchben y brif fynedfa i'r eiddo. Mewn mannau eraill yn y cwm, ac mewn cyferbyniad cymdeithasol, ceir olion gweladwy'r tai gweithwyr gynt, gan gynnwys y terasau o dai gweithwyr haearn yn Ne Clydach. Gwasanaethai'r mwyafrif o systemau cysylltiadau'r ardal y diwydiannau a ddatblygodd yn y ceunant yn bennaf, y mae tystiolaeth ddogfennol hanesyddol yn nodi iddynt gael eu cyflwyno i'r ardal gyntaf yn ystod yr 17eg ganrif.

Fodd bynnag, Gwaith Haearn Clydach, a adeiladwyd rywbryd cyn 1795, ar ôl i gôc gael ei gyflwyno fel y tanwydd ar gyfer ffwrneisi chwyth yn ystod ail hanner y 18fed ganrif, oedd y pwysicaf o'r gweithfeydd haearn a adeiladwyd yn y ceunant. Ymddengys mai'r gwaith hwn a ddylanwadodd fwyaf ar ddatblygiad diwydiannol a chymdeithasol yr ardal. Nid yw'n syndod i weithgarwch adeiladu aneddiadau ddechrau cynyddu o ddifrif ar ddiwedd y 18fed, a gwelwyd cynnydd sylweddol mewn gweithgarwch adeiladu tai yn ystod ail chwarter y 19eg ganrif. Mae safle'r gwaith, a gyrhaeddir dros bont o haearn bwrw (Smart's Bridge - dyddiedig 1824), yn cynnwys dwy ffwrnais fawr o waith cerrig, ynghyd â sylfeini eu tai bwrw, cromen ac adeiladau cysylltiedig eraill. Parhaodd y gwaith i gynhyrchu haearn tan tua 1860, pan oedd wedi datblygu'n ganolbwynt i weithgarwch yn y ceunant. Yn ystod ei flynyddoedd cynnar, roedd cysylltiad agos rhwng y gwaith a'r teulu Frere, a ddaeth yn enwog am reswm gwahanol pan benodwyd Syr Bartle Frere, a aned yn 1815 yn Clydach House, yn Uchel Gomisiynydd De Affrica, a helpodd i ddechrau Rhyfel y Zwlw yn ddiarwybod.

Erbyn diwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif roedd cloddio cerrig a gweithgynhyrchu calch at ddibenion amaethyddol a dibenion adeiladu wedi disodli gweithio haearn fel y prif ddiwydiant yn y ceunant. Dechreuodd y gwaith calch cyntaf, sef Blackrock, gynhyrchu yn 1795; yn ystod y ganrif nesaf dechreuwyd cynhyrchu calch mewn nifer fawr o chwareli eraill. Cyflenwai Chwarel Llanelli Waith Haearn Clydach â chalchfaen, ac ar ôl hynny calch ar gyfer amaethyddiaeth a morter adeiladu. Caeodd o'r diwedd yn 1962. Adeiladwyd Gwaith Calch Clydach sydd wedi goroesi yn 1877 i ddarparu calch i adeiladu'r draphont reilffordd gerllaw. Mae ei odynau mawr, a chanddynt fwâu tynnu dwbl ar gyfer pob siafft, yn enghreifftiau arbennig o ardderchog sydd wedi goroesi.

Chwaraeodd llinellau cysylltiadau rôl sylfaenol yn natblygiad diwydiannol y ceunant hefyd. Dechreuodd systemau trafnidiaeth diwydiannol gyda llwybrau ceffylau pwn, fe'u disodlwyd gan reilffyrdd a thramffyrdd yn y 1790au. Adeiladwyd y rhain, a gâi eu tynnu gan geffylau i ddechrau, i gysylltu mwyngloddiau a chwareli â gweithfeydd a oedd yn datblygu. Datblygiad hollbwysig yn rhwydwaith cysylltiadau'r ardal a alluogwyd gan Ddeddf Seneddol dyddiedig 1793 oedd adeiladu Camlas Brycheiniog a'r Fenni, ynghyd â system dramffyrdd gysylltiol, y rhedai ei llinell gyntaf drwy'r ceunant. Mae'r gamlas yn croesi llawr y ceunant ger Gilwern ar arglawdd pridd enfawr, 25m o uchder, ac mae'r afon yn llifo mewn twnnel ar waelod y clawdd. Agorodd y gamlas rhwng Gilwern ac Aberhonddu yn 1801, ond ni wnaed y cysylltiad terfynol â Phont-y-moel i'r de tan 1812. Datblygwyd tramffyrdd ac incleins ychwanegol yn y ceunant yn ystod y 19eg ganrif i wasanaethu mwyngloddiau a chwareli penodol, ac o ganlyniad erbyn hyn mae gan yr ardal y rhwydwaith dwysaf o lwybrau tramffordd cynnar sydd wedi goroesi unrhyw le yng Nghymru. Ychwanegwyd rheilffordd untrac Merthyr, Tredegar a'r Fenni at y rhain yn 1862 (fe'i hymgorfforwyd yn ddiweddarach yn Rheilffordd Llundain a'r Gogledd-orllewin yn 1866 ac fe'i trowyd yn system ddeudrac un mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach). Goresgynnwyd tirffurf serth y ceunant, a oedd yn her beirianyddol, gan ddefnyddio cyfres o dwneli, cloddiadau a thraphontydd trawiadol. Mae'r llwybr, a ddatgymalwyd bellach, yn dal i fod yn nodwedd linellol amlwg a thrawiadol, y gellir ei gweld o ochr ddeheuol y ceunant. Ffordd bresennol Blaenau'r Cymoedd, sef ffordd yr A465(T), a adeiladwyd yn y 1960au, yw'r fwyaf mewn cyfres o systemau ffyrdd sydd wedi croesi'r ceunant, o'r 18fed ganrif, fel llwybrau cysylltu pwysig.

Er bod gweithgarwch cloddio mwynau a chalchfaen wedi dod i ben yn y ceunant, mae'r hen gymunedau sefydledig yn dal i ffynnu. Mae'r ardal yn llawn olion sy'n gysylltiedig â hen ddiwydiannau a systemau cysylltiadau, yn ogystal â thystiolaeth o amodau cymdeithasol, gan gynnwys nid yn unig tai, ond hefyd capeli a thafarnau sydd wedi goroesi.

Yn ôl i'r brig

Themâu a Phrosesau Tirwedd Cynddiwydiannol

Y Dirwedd Ddaearegol, Naturiol, a'r Cefndir Gweinyddol

Lleolir ardal tirwedd hanesyddol Cwm Clydach, sydd ag arwynebedd o tua 509 ha, ar ymyl ddwyreiniol y Blaenau neu ranbarth ucheldirol Gwent. Ffurfiwyd topograffi Ceunant Clydach gan weithrediad afon Clydach, sydd wedi creu cwm serth, wedi'i yrru drwy ymyl Maes Glo De Cymru rhwng Ucheldiroedd Gogledd Gwent a Mynydd Llangatwg i'r gogledd, ac mae'n gweithredu fel llwybr cysylltiadau naturiol rhwng yr ardaloedd ucheldirol i'r gorllewin sy'n llawn adnoddau mwynau, a'r iseldiroedd bras, drwy Ddyffryn Wysg, i'r dwyrain.

Mae prif ran yr ardal yn ffurfio llawr y cwm a'r llethrau isaf, ac mae gwaelod y cwm yn codi o uchder o tua 90m DO yng Ngilwern yn y dwyrain i uchder o 350m DO ym Mrynmawr yn y gorllewin. Mae ucheldiroedd agored Mynydd Llangatwg (Mynydd Pen-cyrn 529 DO) yn codi i'r gogledd o'r ceunant, ac yn ffurfio ymyl ddwyreiniol yr ardal ceir llethrau adferedig Twyn-blaen-nant a Bryn Llanelli, esgair wastad sy'n codi i dros 450m DO a Bryn Gilwern (441m DO).

Mae llethrau isaf cwm culrych iawn afon Clydach yn fwy serth, mae ôl gweithgarwch cloddio i'w weld arnynt mewn nifer o fannau, maent wedi'u creithio gan lwybrau cysylltiadau ac fe'u nodweddir gan Goetir Hynafol trwchus a adfywiwyd. Uwchlaw'r llethrau hyn i'r de, nodweddir y dirwedd gan esgeiriau gwastad, y cyfeiriwyd atynt uchod, sy'n cyffinio â phrif esgeiriau'r Blaenau sy'n ymestyn tua'r de (ee Mynydd-y-coety a Mynydd-y-Garn-fawr).

Mae daeareg solet yr ardal, a ddatgelir gan weithrediad sgwrio afon Clydach, yn cynnwys tywodfaen Carbonifferaidd yn bennaf a nodweddir gan dywodfeini a grutiau ffelsbathig a micaol enfawr trwchus. Ceir Haenau Glo, Grut Melinfaen a Chalchfaen Carbonifferaidd hefyd. Mae Daeareg yn perthyn i'r cyfnod Defonaidd, hy Hen Dywodfaen Coch, yn nodweddiadol o'r ardal i'r gogledd ac i'r dwyrain. Newidiwyd topograffi tirwedd yr ardal yn ystod y cyfnod Pleistosenaidd, tua 18,000 o flynyddoedd yn ôl, gan y broses rewlifo i greu'r dirwedd sydd gennym heddiw. Bannau Sir Gaerfyrddin a Bannau Brycheiniog oedd y prif fan casglu rhewlifol yn Ne Cymru, ac wyneb gogledd y mynyddoedd hyn oedd tarddiad nifer fawr o rewlifau peiran. Newidiodd y broses rewlifo gymoedd yr ardal, gan gynnwys cwm Clydach. Mae daeareg ddrifft yr ardal at ei gilydd yn brin ac mae'n cynnwys mathau sialaidd llwyd, gwael o bridd.

Er bod rhywfaint o waith dadansoddi paill wedi'i wneud ar safleoedd archeolegol yn yr ardal, mae'r gwaith hwn wedi canolbwyntio ar ddadansoddi deunydd yn gysylltiedig â'r Oes Efydd, a chyfnodau diweddarach. O ganlyniad, prin yw'r dystiolaeth leol o'r amgylchiadau amgylcheddol cynharach ac yn wir yn union wedi Oes yr Iâ. Cymerir yn ganiataol, wrth i'r hinsawdd wella'n raddol yn dilyn y rhewlifiant olaf, i goetir brodorol trwchus raddol ymestyn dros yr ardal. Mae dyn wedi cael effaith aruthrol ar y coetir hwn; ac awgrymir bod pobl wedi bod yn graddol gymynu'r coed ers y cyfnod Neolithig o leiaf, rhywbeth a ategir gan ddarganfyddiadau ar ffurf bwyeill yn dyddio o'r cyfnod ac yn deillio o bob rhan o'r ardal. Dengys gwaith dadansoddi paill a wnaed yn yr ardal fod yr ardal ar y pryd yn cynnwys rhostir wedi'i orchuddio â choed - coed derw yn bennaf. Mae tystiolaeth yn awgrymu erbyn diwedd yr Oes Efydd, fod ardaloedd ucheldirol Blaenau Gwent, yn debyg i'r mwyafrif o'r ucheldiroedd, wedi'u gorchuddio â gorfawn (Caseldine 1990).

Mae'n debyg bod coetir ar y llethrau llai serth uwch, gan gynnwys llwyfandiroedd esgeiriau Bryn Llanelli a Mynydd Llangatwg, wedi'i glirio ar raddfa fawr o gyfnod cynnar; o leiaf erbyn dechrau'r Oes Efydd, yng ngoleuni'r crynoadau o nodweddion angladdol a defodol, carneddau yn bennaf, ychydig y tu hwnt i ffiniau'r dirwedd hanesyddol. Ataliwyd y coetir rhag aildyfu gan y defnydd sefydledig a pharhaus a wneid o'r tir at ddibenion magu stoc (gwartheg) yn ystod y cyfnod cynhanesyddol diweddarach; mae'r clostiroedd 'caerog' a geir ar hyd cyrion y llwyfandiroedd ucheldirol, megis y gwersyll ar Graig-y-gaer (HLCA 004b) a Thwyn-y-Dinas (HLCA 006), yn dystiolaeth o hyn.

Dangosir y Coetiroedd Hynafol gan ffynonellau cartograffig; sef mapiau Arolwg Ordnans o 1814, 1838 ac argraffiad 1af mapiau 6 " AO 1891. Mae'n amlwg erbyn y cyfnod ôl-ganoloesol bod dyn wedi cael effaith aruthrol ar y coed a dyfid yn yr ardal a bod coetir wedi goroesi mewn lleoliadau cyfyngedig, canlyniad uniongyrchol yr angen am olosg ar gyfer y ffwrneisi yn yr ardal yn yr 17eg ganrif a'r 18fed ganrif.

Erbyn heddiw mae llawer o'r coetir hwn wedi aildyfu ac mae llethrau isaf y cwm, yn arbennig HLCA 004a, bellach wedi'u gorchuddio â choetir helaeth.

Roedd yr ardal, a leolid y tu mewn i ffin ddeheuol Ystradryw a Thalgarth yn ystod y cyfnod canoloesol, hefyd yn rhan o Arglwyddiaeth Crucywel. Roedd y rhan fwyaf ohoni wedi'i lleoli y tu mewn i blwyf ôl-ganoloesol Llanelli ac roedd ardal fach wedi'i lleoli ychydig y tu mewn i Langatwg. Mae'r rhan fwyaf o ffin ddeheuol yr ardal yn cyffinio â ffin ogleddol y Fenni (Gwent Uwch-Coed) a Llan-ffwyst.

Yn ôl i'r brig

Tirweddau amaethyddol

Byddai amaethyddiaeth draddodiadol ardal Cwm Clydach wedi bod yn seiliedig ar system o ffermio cymysg. Fodd bynnag, yr elfen fugeiliol, magu da byw, fu'r brif nodwedd yn y Blaenau bob amser. Mae'r farn archeolegol gyfredol yn adlewyrchu hyn; yn yr ardal hon mae'n debyg y byddai clostiroedd cynhanesyddol Twyn-y-Dinas a Chraig-y-gaer wedi chwarae rôl bwysig.

At ei gilydd mae'r tir amgaeëdig sydd wedi goroesi yn ardal Cwm Clydach yn cynnwys tirwedd ddatblygedig yn bennaf a nodweddir gan glytwaith o gaeau afreolaidd o faint bach i ganolig, fel y dangosir ar argraffiad 1af mapiau AO, a'r llethrau mwy serth a arferai fod wedi'u gorchuddio â choetir trwchus Mae ffiniau sy'n nodi terfynau gweithgarwch tresmasu ac amgáu ar y llethrau ar ddiwedd y cyfnod canoloesol a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol yn cynnwys cerrig sych yn bennaf, er bod cloddiau a chloddiau â gwrychoedd a gwrychoedd hefyd i'w cael ar y tir is tuag at ymyl ddwyreiniol y dirwedd. Sefydlwyd y mwyafrif o'r systemau caeau yn yr ardal erbyn y 18fed ganrif, os nad ynghynt ac arhosodd y systemau caeau hyn yn ddigyfnewid yn ystod y cyfnod hyd at 1891 ar wahân i fân ychwanegiadau a rhywfaint o weithgarwch ad-drefnu (argraffiad 1af map 6 modfedd AO).

Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol roedd perchenogaeth tir yr ardal wedi'i rhannu i raddau helaeth rhwng Dugiaid Cendl, y teulu Capel Hanbury o Bont-y-pwl, a Chwmni Haearn Clydach.

Er mai bugeiliol oedd yr amaethyddiaeth yn bennaf, llwyddwyd i gynnal cynhyrchiant cyfyngedig ond digonol o gynnyrch âr, sef ceirch, barlys a gwenith yn bennaf ynghyd â'r cnydau gwraidd traddodiadol yr ychwanegwyd tatws atynt yn ddiweddarach. Anaml y câi'r llwyfandir uchel ei hun ei ffermio, ac wedyn dim ond yn ystod cyfnodau o galedi eithafol. Câi grawn ei gynhyrchu ar derasau ar lethrau cymoedd, lle'r oedd y ffermydd fel arfer wedi'u lleoli, tra câi ceirch eu tyfu yn aml yn y cymoedd.

Ymddengys i ffermio fel y'i harferid mewn rhan helaeth o'r ardal barhau yn ôl y dulliau traddodiadol tan ddechrau'r 19eg ganrif o leiaf; y math arferol o aradr yn yr ucheldiroedd yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif oedd yr haearn gwthio cyntefig. Prif ddull cludo amaethyddol y cyfnod oedd y ceffyl pwn, neu geir llusg, slediau cyntefig a ddefnyddid ar fynyddoedd. Ymddengys nad effeithiwyd fawr ddim ar ddaliadau amaethyddol tlotach ar dir uchel yn ogystal â thyddynnod y gweithwyr ar hyd cyrion deheuol (HLCA 005 a HLCA 006) a gorllewinol yr ardal tirwedd hanesyddol gan y gwelliannau a gyflwynwyd i amaethyddiaeth o'r broses ddiwydiannu.

Ymddengys fod cyflwr amaethyddiaeth ar y ffermydd mwy o faint yn yr ardaloedd is ar ymyl ddwyreiniol yr ardal tirwedd hanesyddol wedi gwella yn sgîl diwydiannu'r cwm, ac mae'r dirwedd yn adlewyrchu hyn: adeiladwyd adeiladau fferm 'diwydiannol' mawr ar nifer o ffermydd ar gyrion yr ardal yn ystod y 19eg ganrif, ee Pant-y-Beilau and Maesygwartha (HLCA 009). Gwelir un o effeithiau eraill y broses ddiwydiannu yn y gwaith a wnaed i ad-drefnu'r patrwm afreolaidd cynharach o gaeau llai o faint yn glostiroedd a daliadau rheolaidd mwy o faint, lle y mae'r cwm yn ymuno â thiroedd ffrwythlon helaethach Dyffryn Wysg (HLCA 009).

Meithrinodd amaethyddiaeth amrywiaeth o grefftau, busnesau a diwydiannau ar raddfa fach, sy'n nodweddiadol o gymuned wledig hunangynhwysol a diarffordd, yn cynnwys gofaint, seiri maen, llifwyr, cowperiaid, gweithgynhyrchwyr gwlân, gwehyddion, teilwriaid, towyr, cryddion a llosgwyr golosg Roedd pobl wedi bod yn gweithgynhyrchu calch at ddibenion amaethyddol ar raddfa fach yn yr ardal ers y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar o leiaf; diwydiannwyd y broses hon yn ddiweddarach gyda dyfodiad y diwydiant haearn (ymdrinnir â hyn yn fanylach isod).

Yn ôl i'r brig

Tirweddau Anheddu Cynddiwydiannol a Thraddodiadau Adeiladu

Cynrychiolir y dystiolaeth gynharaf o anheddu dynol yn ardal y Blaenau gan gasgliad cymysg bach o offer fflint yn dyddio o'r cyfnod Mesolithig (10000-4400CC), y cyfnod Neolithig (4400-2300CC), a dechrau'r Oes Efydd (2300-800CC), a ddarganfuwyd hyd yma y tu hwnt i ffiniau'r dirwedd hanesyddol. Daw ychydig o dystiolaeth Neolithig, ar ffurf darganfyddiadau prin o fwyeill, o'r ardal gyffredinol (GGAT 66: Arolwg Litheg 2000), er yr ystyrir bod y dystiolaeth hon o weithgarwch dynol yn cynrychioli gwersylloedd hela ucheldirol dros dro, lle roedd grwpiau o helwyr-gasglwyr yn byw fel rhan o batrwm ymfudo tymhorol rhwng yr iseldiroedd arfordirol ac ucheldir y Blaenau.

Mae cryn dipyn o dystiolaeth o weithgarwch gerllaw ardal tirwedd hanesyddol Mynydd Llangatwg, a'r esgeiriau yn union i'r de ohoni, yn ystod yr Oes Efydd; fodd bynnag mae'r gweithgarwch hwn yn ymwneud yn bennaf â henebion angladdol ar dir uchel. Mae ein gwybodaeth am leoliad aneddiadau yn seiliedig i raddau helaeth ar ddarganfyddiadau gwasgaredig ar ffurf offer fflint, ac mae'r dosbarthiad yn debyg i gyfnodau cynharach. Mae effaith gweithgarwch dynol ar lystyfiant naturiol yr ardal yn glir yn ôl gwaith dadansoddi paill a wnaed yn yr ardal; mae'r gweithgarwch hwn ar ei anterth ar ddiwedd yr Oes Efydd, ac nid yw'n syndod efallai fod effaith fawr gyntaf gweithgarwch anheddu dynol ar amgylchedd ffisegol yr ardal yn dyddio o'r cyfnod hwn ac o'r cyfnod dilynol, sef yr Oes Haearn.

Er bod safleoedd anheddu/amaethyddol/amddiffynnol yn dyddio o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol i'w gweld yn yr ardal, mae'r dystiolaeth sydd ar gael am ddatblygiad aneddiadau yn ystod y cyfnod cynhanesyddol diweddar, y cyfnod Brythonaidd-Rufeinig, a'r cyfnod canoloesol cynnaf i raddau helaeth heb ei phrofi. Nodweddion anheddu/amaethyddol cynhanesyddol creiriol a chanddynt elfen amddiffynnol yw olion mwyaf gweladwy'r ardal. Dyma'r bryngeyrydd yn dyddio o'r Oes Haearn, a saif mewn lleoliadau trawiadol, ac sy'n amddiffyn y llwybr naturiol i fyny'r ceunant: Craig-y-gaer (PRN 92499g) a Thwyn-y-Dinas (PRN 02474g).

Nid oes fawr ddim tystiolaeth o aneddiadau canoloesolyn yr ardal, er ei bod yn debyg i'r broses dresmasu ar y mynydd agored ddechrau yn ystod hanner olaf y cyfnod canoloesol ac i'r ffermydd ôl-ganoloesol diweddarach gael eu sefydlu yn wreiddiol yn ystod y cyfnod canoloesol. Mae'n bosibl bod y rhain yn hafodydd, anheddau dros dro yr oedd pobl yn byw ynddynt yn dymhorol, sy'n gysylltiedig ag arferion ffermio ymfudol a welir mewn mannau eraill yn ucheldir Cymru.

Arferai'r dirwedd anheddu ôl-ganoloesol, cynddiwydiannol gynnwys ffermydd gwasgaredig wedi'u gosod o fewn eu daliadau amaethyddol eu hunain, a oedd wedi'u gwasgaru'n aml, fel y dangosir gan dystiolaeth mapiau ystâd yn dyddio o'r 18fed ganrif. Er bod adeiladau yn dyddio o'r cyfnod cynddiwydiannol wedi goroesi, newidiwyd y mwyafrif ohonynt i wahanol raddau ac, wedi'u cuddio gan nodweddion anheddu o darddiad diwydiannol, nid hwy yw'r elfen adeiledig amlycaf yn y dirwedd mwyach.

I'r cyfnod diwydiannol (gweler adran 6.5 isod) y mae'r aneddiadau yn yr ardal yn perthyn yn nodweddiadol; ac fe'u nodweddir i raddau helaeth gan ddatblygiadau hirgul (ee HLCAs 001, 002, a 003) a phatrymau o fath 'sgwatwyr' gwasgaredig (gweler HLCA006). Sefydlwyd yr aneddiadau diweddarach yn aml o amgylch y dirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol gynharach, ar dir comin neu dir diffaith yn aml, ac fel arfer ar gyrion y tir amgaeëdig, y parhawyd i'w ffermio. Mae'r anheddiad diwydiannol cynharach yn aml yn gysylltiedig â lleiniau o dir neu randiroedd; mae'r patrwm a geir o ganlyniad fel arfer yn cynnwys tyddynnod (HLCAs 006 a 005).

Yn ôl i'r brige

Tirweddau Milwrol ac Amddiffynnol Cynddiwydiannol, a Thirweddau Parcdir a Thirweddau Pictiwrésg

Er bod agweddau amddiffynnol ar nifer o'r tirweddau o fewn y Dirwedd Hanesyddol, neu'n wir agweddau milwrol/amddiffynnol ar safleoedd o fewn yr Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Hanesyddol, nid yw'r rhain ar y cyfan yn brif nodweddion. Efallai nad oedd rôl y clostiroedd neu 'fryngeyrydd' a geir yn yr ardal yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar megis Twyn-y-Dinas (HLCA 006) a Thwyn-y-gaer (HLCA 004b) yn un hollol amddiffynnol neu filwrol. Erbyn hyn ystyrir efallai ei bod yn well meddwl amdanynt fel safleoedd a oedd yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth fugeiliol ar dir uchel, rheoli da byw a rheoli pori ar dir uchel. Efallai iddynt gael eu defnyddio at ddibenion amddiffynnol hefyd ond mae yr un mor debygol bod materion eraill yn gysylltiedig â hwy, yn cynnwys statws, a swyddogaeth 'weinyddol', a bod y safleoedd hyn yn nodi trefn gymdeithasol ac yn wir efallai iddynt weithredu fel aneddiadau yr oedd pobl yn byw ynddynt yn dymhorol.

Lleolir yr unig barcdir neu dirwedd bictiwrésg yn yr ardal yn HLCA 009, ac mae ar ffurf y tiroedd a'r gerddi sy'n gysylltiedig â fila Pant-y-Beiliau sy'n dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif; yma ystyrir bod parcdir yn nodwedd eilradd.

Yn ôl i'r brig

Themâu a Phrosesau'r Dirwedd Ddiwydiannol

Prosesau Diwydiannol a Diwydiannau Cloddiol

Fel y nodwyd uchod, mae'n debyg bod rhyw fath o weithgarwch diwydiannol yn cael ei gyflawni yn yr ardal o'r cyfnod cynhanesyddol, fodd bynnag mae'r dystiolaeth uniongyrchol gyntaf yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar pan wireddwyd potensial yr ardal ar gyfer cynhyrchu haearn yn llwyr.

Ffwrnais Chwyth Llanelli oedd y gwaith haearn cyntaf a gofnodwyd yn yr ardal (HLCA 001); ystyrir mai'r ffwrnais gynnar hon a losgai olosg i'r de-orllewin o Clydach House yw'r un a sefydlwyd gan y teulu Hanbury ar ddiwedd yr 17eg ganrif. Mae prif elfennau'r safle yn cynnwys banc llenwi yn Sale Yard, y mae ganddo wyneb o gerrig llanw; bonyn y bont lenwi; a banc sylweddol o odynau calch. Lleolir Gefail Llanelli (SO 236140) sy'n dyddio o'r un cyfnod, y gwyddom ei bod yn gweithio rhwng 1697 a 1878, gerllaw i'r dwyrain. Dyma ble y câi'r haearn bwrw a gynhyrchid yng Ngefail Llanelli ei droi'n haearn gyr i ddechrau; nid oes unrhyw olion wedi goroesi ar wyneb y ddaear ar y safle, er bod olion argae cerrig helaeth y pwll, a gyflenwai bwer i'r efail, i'w gweld o hyd (HLCA 001). Roedd gwaith tun cysylltiedig, sef Gwaith Tun Llanelli, yn gweithredu rhwng Forge Row a Gefail Llanelli. Mae enghreifftiau cynnar o dai gweithwyr diwydiannol cysylltiedig hefyd wedi goroesi yn yr ardal (gweler adran 6.6, isod); mae Forge Row y cyfeiriwyd ati uchod yn enghraifft dda, yr adeiladwyd rhan ohoni ar ddechrau'r 18fed (yn ôl goleddf serth y toeon) a rhan ar ddechrau'r 19eg ganrif; mae'n enghraifft brin o res o dai gweithwyr diwydiannol sydd wedi goroesi yng Nghymru. Gerllaw ceir stablau unllawr ar gyfer ceffylau, a fyddai'n gweithio Rheilffordd Clydach a Thramffordd Llam-march. Adeiladwyd Forge House (HLCA 001) fel ty tun neu cafodd ei droi yn dy tun, ac erbyn 1878 cynhwysai'r baeau tunio a ychwanegwyd at y melinau rholio.

Sefydlwyd Gwaith Haearn Clydach (SO 229132; HLCA 003) yn ystod blynyddoedd ffyniannus 1793-5 ar ôl i gynllun ffwrneisi chwyth gael ei wella, a'i gwnaeth yn bosibl i ddefnyddio côc yn lle golosg yn ystod ail hanner y 18eg ganrif. Cyflëir pwysigrwydd gwaith haearn Clydach i ddatblygiad diwydiannol yr ardal gan olion trawiadol ar lannau deheuol afon Clydach, a'r brif nodwedd yw porth bwaog ty llenwi. Daeth y gwaith, a leolir gerllaw'r ffynonellau o fwyn haearn, glo a chalchfaen, yn brif ganolbwynt i lawer o weithgarwch yn y cwm, ac erbyn 1841 roedd wedi ehangu gan gyflogi dros 1,350 o bobl, yr oedd mwy na dwy ran o dair ohonynt wrthi'n cloddio mwyn haearn a glo ymhellach i fyny'r cwm.

Roedd gan y safle, a gloddiwyd yn 1986, ddwy ffwrnais chwyth yn wreiddiol (yn dyddio o 1793 a 1797); ac ychwanegwyd trydedd ffwrnais c. 1826 (nas cloddiwyd), a phedwaredd ffwrnais yn 1842-4. Dangosodd gwaith cloddio fod y leinins anhydrin cylchog a adeiladwyd o frics wedi goroesi hyd at 'foshis' staciau'r ffwrnais, a bod llawer iawn o'r casinau o gerrig nadd wedi'u dwyn. Mae olion eraill ar y safle yn cynnwys ty bwrw, tai llenwi, gan gynnwys wal dalcen uchel un ohonynt sy'n perthyn i'r ffwrnais a adeiladwyd yn 1793, a'r pwll olwyn ar gyfer olwyn ddwr enfawr o haearn bwrw sy'n 42 o droedfeddi (12.8m) ar ei thraws, a yrrai'r silindrau chwythu.

Mae olion cysylltiedig sydd i'w gweld yn yr ardal yn cynnwys ffurfiant plân ar oleddf rheilffordd wedi'i gwrthbwyso (a adeiladwyd cyn 1811), a alluogai haearn crai i gael ei godi i felinau rholio uwch (adeiladwyd melin wlân yn ddiweddarach ar y safle). Mae pont Smart's Bridge a gariai dramffordd yn cysylltu Gwaith Haearn Clydach â Rheilffordd Clydach ar draws afon Clydach hefyd yn bwysig; adeiladwyd y bont yn 1824 o haearn bwrw ac mae ganddi rwyllwaith lansed syml yn sbandreli'r bwa.

Deuai deunyddiau crai ar gyfer Gwaith Haearn Clydach yn rhannol o Gwm Llam-march a Gellifelen (HLCAs 005 a 004a) ac mae prydlesau yn dyddio o'r 18fed ganrif yn awgrymu i'r ardal gael ei defnyddio'n barhaol fel maes mwynau dros gyfnod hir.

Mae cysylltiad agos rhwng y gwaith haearn â'r nifer fawr o chwareli calchfaen a gweithfeydd calch a geir yn yr ardal, sy'n cynnwys Chwarel Llanelli (SO 222124; HLCA 004a), sy'n dal i gynnwys dau bâr o odynau calch, un yn dyddio o 1892 ac odyn galch ddwbl yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif (a adeiladwyd o gerrig ac sy'n cynnwys dysgl llenwi wedi'i leinio â brics a bwâon gollwng).

Efallai fod y dirwedd gloddio fwyaf trawiadol i'w gweld o amgylch Gwaith Calch Clydach (SO 233127) a sefydlwyd yn gymharol ddiweddar, sy'n gysylltiedig â'r angen am forter calch i adeiladu Rheilffordd Merthyr Tudful, Tredegar a'r Fenni a Thraphont Nant Dyar. Mae'r gwaith hwn yn dal i gynnwys pâr o odynau calch ac olion eraill, (c. 1862) a banc diweddarach (a adeiladwyd c. 1877), a oedd yn cael ei ddefnyddio yn ôl pob tebyg pan gafodd y llinellau rheilffordd eu dyblu. Y gwaith pwysig arall oedd Gwaith Calch Black Rock (HLCA 004b), uwchlaw'r anheddiad yn Cheltenham, safle arall lle y mae odynau calch o gerrig wedi goroesi. Roedd y gweithfeydd hyn yn weithredol o 1794 - 1908.

Mae busnesau diwydiannol eraill yn cynnwys melino a gynrychiolir gan Felin Wlân Dan-y-Bont, strwythur trillawr cul, paentiedig a adeiladwyd ar ddechrau'r 19eg ganrif o gerrig llanw; ymestynnwyd y felin, yr oedd ganddi chwe bae yn wreiddiol, drwy ychwanegu tri bai arall yn ei phen deheuol (HLCA 008).

Yn ôl i'r brig

Trafnidiaeth a Chysylltiadau

Mae'r dirwedd i'r gogledd o Waith Haearn Blaenafon yn cynnwys un o gofebau hanesyddol mwyaf gwerthfawr yr ardal. Mae'n bosibl o fewn yr ardal hon feithrin dealltwriaeth o'r modd y cafwyd yr holl ddeunyddiau crai yr oedd eu hangen i wneud haearn - sef glo, mwyn haearn, clai tân a chalchfaen. Ar yr olwg gyntaf ymddengys fod yr ardaloedd o amgylch Garn-yr-erw, Pwll-Du a Phen-ffordd-goch yn hollol ddi-drefn, nad ydynt yn ddim amgenach na thomenni sbwriel wedi'u gosod yma ac acw (ee Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Hanesyddol 006, 008, 009, 010, 011). Fodd bynnag, o edrych arnynt yn fanylach amlygir tystiolaeth o'r cyfnodau cynharaf o weithgarwch cloddio a chwarelu yn yr ardal, perthnasau gam wrth gam, a phatrymau o weithgarwch cloddio mwynau dros sawl cenhedlaeth. Canfuwyd glo, clai tân a nodiwlau mwyn haearn gyda'i gilydd yng nghystradau glo dyffryn Afon Llwyd ac ar ben y mynydd (ee Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Hanesyddol 003, 005, 006, 008, 009, 010, a 020). Daethpwyd â chalchfaen o'r darren ar ochr ogleddol Pwll-Du a'r Blorens (HLCA011 yn bennaf).

Mae un o'r ardaloedd o weithfeydd cloddio haenau glo sydd wedi'i chadw orau, sef honno ym Mhen-ffordd-goch, yn Heneb Gofrestredig sy'n ymestyn dros ardal ag arwynebedd o 40 hectar (HLCA009). Mae llawer o dystiolaeth o weithgarwch hysio neu sgwrio, y broses o gronni dwr gan ddefnyddio argaeau a'i ryddhau wedyn i ddatguddio gwythiennau trwy gael gwared â gorlwyth, neu i olchi pentyrrau o fwyn o fynedfeydd. Mae'n debyg bod y gweithgarwch hwn yn cael ei gyflawni cyn yr ail ganrif ar bymtheg ac iddo ehangu yn ystod dau ddegawd cyntaf Gwaith Haearn Blaenafon. Fodd bynnag, gwyddom i weithgarwch sgwrio ddod i ben erbyn 1817 pan adeiladwyd y gronfa ddwr gerllaw, gan ddyddio'r nodweddion sydd wedi goroesi yn bendant i gyfnod cyn y dyddiad hwnnw. Mae un sgwrfa benodol a gofnodwyd yn dilyn brigiad deheuol yr haenau glo i'r de-ddwyrain o'r ffordd i Lanelen trwy Gefn-y-lan i Ffordd y Fenni. Ceir olion pyllau ym mhen y sgwrfa hon, ac ar hyd-ddi o'r naill ben i'r llall fe'i cyflenwid â dwr o fwyngloddiau mynedfa. Mae'n debyg iddi gael ei defnyddio dros gyfnod hir ar gyfer golchi mwyn o lefelydd. Dengys tystiolaeth mapiau yn dyddio o tua 1812 nifer fawr o fynedfeydd, neu fwyngloddiau llorweddol ym mynd i mewn i'r llethrau yn yr ardal hon, yr enwyd llawer ohonynt ar ôl mwyngloddwyr unigol. Mae'r unigoliaeth hon yn nodweddiadol o ddatblygiad gweithgarwch cloddio glo a haearn ledled De Cymru. I'r de o Ben-ffordd-goch ceir nifer fawr o byllau cloch, enghreifftiau o'r math mwyaf cyntefig o fwynglawdd siafft, y mae'r dystiolaeth sy'n goroesi ohono fel arfer ar ffurf pant siâp soser, sy'n nodi safle'r siafft, yng nghanol y sbwriel a arllwyswyd o'i amgylch. Mae olion pyllau hysio, ffrydiau a'i cyflenwai â dwr, tomenni siâp troed brân o ddeunyddiau gwastraff, mynedfeydd sydd wedi cwympo i weithfeydd cloddio, gwrthgloddiau rheilffyrdd cyntefig a adawyd, pantiau yn nodi bod systemau mwyngloddio piler a ffos lo i'w cael oddi tano, a safle peiriant pwyso hefyd i'w gweld yn yr ardal.

Dengys nifer o safleoedd cloddio glo a haearn ledled yr ardal y dull gweithio a'r amgylchiadau gwaith mewn gweithfeydd mwyngloddio brig, mynedfeydd a mwyngloddiau siafft cyntefig. Mae'n debyg i weithgarwch cloddio brigiadau ar yr wyneb a'r defnydd o byllau cloch barhau tan y 1860au pan ysgrifennodd AJ Munby, y sylwebydd ar Ferched sy'n Gweithio, am y merched cadarn a diofn a fu'n gweithio yn y mwyngloddiau mynydd hynny'. O'r mwyngloddiau mynedfa yn dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a gymerodd eu henwau o'r mwyngloddwyr a fu'n eu gweithio, lefel Aaron Brute rhwng y Ffwrneisi a Forgeside (HLCA003), sy'n Heneb Gofrestredig, yw'r un yr ydym yn gwybod fwyaf amdani a'r un hawsaf i'w hadnabod. Gwyddom fod y fynedfa i'r lefel wedi goroesi, ac yn agos ati saif pont haearn yn dyddio o'r cyfnod cyn 1832 a gariai'r rheilffordd gyntefig a arweiniai o'r mwynglawdd i'r Gwaith Haearn. Cydnabuwyd pwysigrwydd y nifer fawr o bontydd yn dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a gariai reilffyrdd cyntefig yn Ne Cymru yn astudiaeth TICCIH/ICOMOS o bontydd a olygwyd gan bennaeth y Cofnod Peirianneg Americanaidd Hanesyddol ac a gyhoeddwyd ym 1996. Roedd lefel Aaron Brute yn nodweddiadol o lawer o weithfeydd cloddio ym Mlaenafon, ond gwyddom ychydig yn fwy am Aaron Brute nag am y mwyafrif o fwyngloddwyr. Saer maen a chontractwr adeiladau ydoedd, a phregethwr yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd. Cloddiodd y lefel rywbryd rhwng 1812 a'i farwolaeth ym 1818, ac adeiladodd hefyd dai ar hyd Brute's Road, ar ei dir rhyddfraint ei hun. Roedd y lefel wedi gorffen cynhyrchu mwyn haearn erbyn 1843.

Mae olion wedi goroesi o'r mwynglawdd siafft cynharaf ym Mlaenafon, sef Engine Pit yn dyddio o tua 1806, a gofrestrwyd yn ddiweddar fel heneb (HLCA0021). Mae olion sylweddol Hill's Pits yng Ngarn-yr-erw (HLCA009), a gloddiwyd rhwng 1839 a 1844 i ddarparu glo a mwyn haearn ar gyfer y Gwaith Haearn ac a weithiwyd tan 1893, yn darparu tystiolaeth o dechnoleg mwyngloddio ddiweddarach, fwy datblygedig. Y cofadail eithriadol yw'r simnai gerrig, sydd wedi goroesi hyd at uchder o 6m ac a wasanaethai foeleri'r peiriant dirwyn. O bob tu iddi ceir olion y ty injan a lleiniau o dir yn gysylltiedig â bythynnod y glowyr. Mae cyfadail Hill's Pits hefyd yn cynnwys ffrâm haearn bwrw peiriant brecio inclein rheilffordd gyntefig, a adeiladwyd tua'r adeg y daeth y gwaith glo yn weithredol, fel rhan o lwybr a ddefnyddid i gludo glo i Waith Haearn Blaenafon. Mae olion sylweddol yn gysylltiedig â'r offer brecio. Roedd y math hwn o inclein yn gyffredin yn Nyffrynnoedd De Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond dyma'r unig enghraifft yn y rhanbarth sydd wedi cadw rhannau o'i systemau dirwyn a brecio llorweddol.

Mae'r ardal i'r gogledd o'r Gwaith Haearn hefyd yn darparu tystiolaeth o'r modd y cafwyd calchfaen, a ddefnyddid fel toddydd yn y broses gwneud haearn. Roedd y prif chwareli ym Mhwll-Du ym mlaen Cwm Llanwenarth, ac yn y Tyla i'r gorllewin. Roedd chwareli cynharach, llai o faint eraill ar y Blorens hefyd (HLCA011). Roedd chwarel Pwll Du ar waith yn ei ffurf bresennol fwy neu lai erbyn 1819, ac fe'i cadwyd mewn cyflwr eithriadol o dda. Ei phrif gofadail diwydiannol yw siafft system lifft cydbwyso dwr, y câi wagenni wedi'u llwytho â chalchfaen eu codi trwyddi i reilffordd gyntefig ar lefel uwch. Mae twnnel llorweddol yn cysylltu'r siafft â llawr y chwarel, ac mae tystiolaeth wedi goroesi o system o gyrsiau dwr a chronfeydd dwr, a gyflenwai'r offer codi â dwr. Cyflenwid calchfaen o chwarel Pwll-Du i odynau calch ar hyd Camlas Brycheiniog a'r Fenni yn ogystal ag i'r gwaith haearn. Mae arwyddion terfyn o haearn bwrw i'w gweld o hyd ar lawr y chwarel. Daeth gweithgarwch cloddio calchfaen i ben cyn 1860 ac mae ffurf y chwarel, ei rheilffyrdd a'i thomenni, yn adlewyrchu'r defnydd a wnaed ohono ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae chwarel Pwll-Du yn Heneb Gofrestredig. Ar ben hynny mae gan chwareli'r Tyla a'r Blorens olion helaeth a deongliadol yn gysylltiedig â gweithgarwch chwarelu yn dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae'r llethrau agored yn darparu llawer o dystiolaeth arall o'r gorffennol diwydiannol. Ceir ty powdwr hirsgwar yn dyddio o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, lle y câi ffrwydron i'w defnyddio mewn chwareli a mwyngloddiau eu storio. Ar ben y mynydd ceir carreg wedi'i marcio â 'B' ac 'M' ar y ffin rhwng Sir Frycheiniog a Sir Fynwy, a oedd yn arwydd hanfodol bwysig yn nodi terfynau prydles Gwaith Haearn Blaenafon. Ceir hefyd olion sefydliadau gwneud brics ar y llethr uwchben Blaenafon, yn ogystal â nifer ddi-rif o bethau sy'n dwyn i gof gynhyrchion y gwneuthurwyr brics ar ffurf y brics tân y ffwrneisi chwyth, waliau'r bythynnod a'r adeiladau cyhoeddus, a'r waliau terfyn a adeiladwyd o frics di-siâp a deunydd gwastraff arall. Gwneud brics oedd y brif gyflogaeth ar gyfer merched ifanc ym Mlaenafon yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mewn rhannau o'r dirwedd, yn arbennig gerllaw Pwll-Du, gorchuddir y gweithfeydd cloddio yn dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan domenni gwastraff o weithfeydd cloddio glo ar yr wyneb yn dyddio o'r 1940au. Nid oes unrhyw enghreifftiau o weithgarwch cloddio glo brig gan ddefnyddio offer symud pridd ar raddfa fawr ym Mhrydain cyn yr Ail Ryfel Byd, er ei fod yn gyffredin yn yr Almaen ac Unol Daleithiau America, ac er y defnyddid dulliau tebyg ar gyfer cloddio mwyn haearn mewn llawer o leoedd yng Nghanolbarth Lloegr. Dechreuodd gweithgarwch mwyngloddio ar yr wyneb ym mis Tachwedd 1941, gan ddefnyddio peiriannau o Unol Daleithiau America a rhai a oedd wedi'u dwyn i Dde Cymru o Banama. Cynhyrchwyd 1.3 miliwn o dunelli o lo ym 1942, a chododd cynhyrchiant i uchafbwynt o 8.65 miliwn o dunelli ym 1944. Cyfatebai hyn i bron 5% o gyfanswm cynhyrchiant glo ym Mhrydain, ac ystyrid iddo chwarae 'rhan hanfodol bwysig o ran mantoli'r gyllideb lo genedlaethol yn ystod blynyddoedd olaf y rhyfel' am iddo ganiatáu cyflenwi glo ager hanfodol yn gyflym gan wneud iawn am y cynhyrchiant a gollwyd yn y mathau hynny o lo yn ystod y 1920au a'r 1930au. Cynorthwywyd datblygiad cynnar gweithgarwch mwyngloddio brig gan filwyr byddin Canada a oedd wedi lleoli ym Mhrydain a ddarparai ddriliau diemwnt a'r arbenigedd yr oedd ei angen i'w gweithio. Mae'n arwyddocaol y gelwir rhai o'r dyddodion gwastraff ym Mhwll-Du yn 'Domenni Canada'. Cofnodwyd gweithrediadau mwyngloddio brig ym Mlaenafon yn drawiadol ym 1943 trwy gyfrwng cyfres o baentiadau a lluniau gan Graham Sutherland yn ei rôl fel Arlunydd Rhyfel swyddogol. Nid adferwyd y tir yr effeithiwyd arno gan weithgarwch mwyngloddio brig yn y 1940au erioed, am y byddai wedi cael ei weithio ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ac mae'r ffosydd syml a'r tomenni eu hunain yn dystiolaeth o'r cyfnod penodol hwnnw yn hanes Prydain. Credir mai'r rhain yw'r unig weithfeydd mwyngloddio brig cynnar sydd wedi goroesi heb eu hadfer, sy'n ei gwneud yn bosibl i ni ddeall y broses o symud gorlwyth a'r cyferbyniad o ran maint â gweithfeydd cynharach.

Mae'r ardal i'r gogledd o Waith Haearn Blaenafon yn cynnwys tirwedd o waith datblygu dilyffethair, lle y defnyddiai dynion a merched offer llaw syml i grafu o'r ddaear y deunyddiau, a gâi eu bwydo i'r ffwrneisi. Mae tirwedd Blaenafon yn gofeb i gyfnod penodol o hanes dynol; a thirwedd ydyw y mae llawer i'w dysgu ohoni, sy'n arbennig o berthnasol efallai yn y gwledydd hynny sy'n mynd trwy broses ddiwydiannu ar raddfa fawr. Gallwn ddefnyddio'r ardal i ail-greu profiadau cyfnodau cyntaf gweithgarwch gwneud haearn ar raddfa fawr. Gallwn edmygu craffter dychmygus yr entrepreneuriaid ym Mlaenafon, a chydymdeimlo â dioddefaint a stoiciaeth eu cyflogeion.

Yn ôl i'r brig

Systemau Trafnidiaeth: Camlesi a Rheilffyrdd Cyntefig

Y rhwydweithiau cysylltiadau cynharaf y gwyddom amdanynt yn yr ardal yw'r cefn-ffyrdd, a groesai fassif ucheldirol y Blaenau, fodd bynnag y llwybrau diwydiannol diweddarach yw nodweddion cysylltiadau pwysicaf Tirwedd Hanesyddol Cwm Clydach heddiw.

Mae'r rhwydwaith o isffyrdd, llwybrau a throedffyrdd sy'n arwain dros lethrau'r cymoedd i'r ucheldiroedd yn dyddio'n rhannol o'r cyfnod cynddiwydiannol, ac fe'u dangosir ar argraffiad 1af map AO, y Map Degwm ar gyfer Llanelli a mapiau ystad cynharach. Ymddengys i lawer o lwybrau cysylltiadau ddatblygu i gysylltu safleoedd cynhanesyddol, canoloesol cynnar a chanoloesol diweddarach, megis y canolfannau eglwysig canoloesol cynnar yn Llanelli a Llangatwg yn ogystal â chanolfannau gweinyddol dinesig. Daeth y rhwydwaith hwn yn fwy cymhleth erbyn y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, i wasanaethu'r daliadau rhydd-ddaliadol a lesddaliadol yn yr ardal, a sefydlwyd o'r cyfnod canoloesol diweddar (diwedd y 14eg ganrif); mae'n debyg i'r rhwydwaith hwn gael ei ymestyn ymhellach yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar gyda thwf diwydiant. Mae nifer o'r isffyrdd yn y dirwedd heddiw yn cynrychioli hen lwybrau ceffylau pwn y rhoddwyd metlin arnynt a hyd yn oed rheilffyrdd/tramffyrdd a dynnid gan geffylau.

Yn ei hanfod mae Ceunant Clydach (5.6m o hyd) yn dirwedd greiriol yn dyddio o'r Chwyldro Diwydiannol. Mae olion nifer o weithfeydd haearn yn elfennau nodweddiadol o'r dirwedd yn ogystal â'r llwybrau trafnidiaeth, a'u gwasanaethai a'r gweithfeydd haearn eraill ar y tir uchel i'r gorllewin. Darparai'r ceunant goridor naturiol o'r Blaenau a'r gweithfeydd haearn ar hyd Blaenau'r Cymoedd i lawr i Aberhonddu a Chamlas y Fenni. O ddiwedd y 18fed ganrif/dechrau'r 19eg ganrif adeiladwyd rheilffyrdd a weithid gan bedwar ceffyl; croesai'r rhain lethrau serth y ceunant ac fe'u hystyrir yn gampweithiau pwysig o beirianneg ddiwydiannol ac maent wedi goroesi ar y cyfan fel isffyrdd neu ffurfiannau terasau ar ochrau bryniau. Adeiladwyd y ffordd dyrpeg o Ferthyr Tudful i Gofilon drwy'r ceunant yn 1812-13 ac yn 1862 adeiladwyd llinellau Rheilffordd Merthyr Tudful, Tredegar a'r Fenni, rheilffordd a yrrid gan ager, drwy'r cwm, yn rhannol gan ddefnyddio llinell Tramffordd gynnar. Y datblygiad olaf oedd ffordd Blaenau'r Cymoedd (A465) yn y 1960au, sydd wrthi'n cael ei lledu.

Yn ystod 1793-4 adeiladwyd Rheilffordd Clydach (John Dadford oedd y peiriannydd) fel rheilffordd a dynnid gan geffylau. Cysylltai'r rheilffordd hon (un o elfennau pwysig HLCA 004a) Bwll Glo Waun yng Nghendl a Gefail Llangrwyne ar afon Wysg. Mae'r bont un bwa a adeiladwyd o gerrig llanw patrymog gerllaw Maesygwartha (SO 230138) yn nodwedd bwysig yn gysylltiedig â'r rheilffordd sydd wedi goroesi, a saif mewn lleoliad trawiadol uwchlaw rhaeadr. Roedd brawd John Dadford, Thomas Dadford, yn gyfrifol am adeiladu Rheilffordd Llam-march (HLCA 004a), yn yr un flwyddyn, i gysylltu Gwaith Haearn Clydach (HLCA 003) â'i fwyngloddiau glo a mwyn haearn yn Gellifelen a Llam-march (HLCA 005). Mae'r ffurfiant terasog y tu ôl i Bwll-du yn nodi llinell Ffordd Gerrig Blaenafon, a agorwyd yn 1799; rhoddwyd y gorau i ddefnyddio'r llinell hon ar ôl i hanner isaf camlas Brycheiniog a'r Fenni (HLCA 008) gael ei adeiladu yn 1809-12 a rheilffordd Llam-march gael ei hymestyn (fe'i hadeiladwyd yn 1809; HLCA 004a). Mae nodweddion sydd wedi goroesi yn cynnwys pontydd un bwa a adeiladwyd o gerrig yn SO 233 137 ac SO 225 176, sef Tramffordd a Dyfrbont Llam-march dyddiedig 1811, a gariai ddwr hefyd o afon Clydach i Felin Rolio Gwaith Haearn Clydach (HLCA 003) drwy ffrwd.

Mae llwybrau trafnidiaeth eraill (hefyd o fewn HLCA 004a) yn cynnwys Tramffordd Gofilon neu Dramffordd Bailey dyddiedig 1821 (Crawshay Bailey oedd y peiriannydd), sy'n croesi llethrau de-ddwyreiniol Ceunant Clydach ar ffurfiant terasog i lawr y llethr o Reilffordd Llam-march ac yn rhedeg yn gyfochrog â hi. Adeiladwyd y dramffordd hon i gysylltu Gwaith Haearn Bailey yn Nant-y-glo â Chamlas Sir Fynwy. Gyferbyn ar y tir uchel i'r gogledd o'r ceunant, ar bob ochr i Fynydd Llangatwg, ceir ail dramffordd J ac C Bailey, a ddechreuwyd yn 1828 ac a gwblhawyd yn 1830 (HLCA 004b).

Yr ychwanegiad cledrog olaf i'r llwybrau trafnidiaeth yn yr ardal, a adeiladwyd rhwng 1860 a 1862, oedd Rheilffordd Merthyr Tudful, Tredegar a'r Fenni); mae'r llinell nas defnyddir bellach, a drowyd yn llinell ddwbl rhwng 1866-77, yn cael ei chario ar gloddiadau dwfn a therasau drwy'r ceunant lle y ceir traphontydd, dau dwnnel, a waliau cynhaliol uchel, i gyd wedi'u hadeiladu o gerrig ag wyneb o graig. Mae Traphont Nant Dyar (rhestredig), gerllaw adeilad Gorsaf Clydach sydd wedi goroesi, yn arbennig o drawiadol.

Nodweddir pen dwyreiniol y dirwedd hanesyddol yn bennaf gan nodweddion sy'n gysylltiedig â Chamlas Brycheiniog a'r Fenni a Gilwern, yr anheddiad a ddatblygodd i wasanaethu cyffordd rhwydwaith rheilffyrdd diwydiannol yr ardal a'r gamlas. Adeiladodd y peiriannydd Thomas Dadford yr ieuaf Gamlas Brycheiniog a'r Fenni o Gilwern i Gofilon rhwng 1802 a 1805. Mae olion pwysig sy'n gysylltiedig â'r Gamlas yn cynnwys yr arglawdd cofrestredig a rhestredig (SO 244144), un o'r gwrthgloddiau camlas mwyaf yng Nghymru (HLCA 008), sy'n cario'r gamlas a dyfrbont dros afon Clydach a Thramffordd Clydach. Mae olion eraill sy'n gysylltiedig â'r gamlas yn cynnwys y warysau rheilffordd a adeiladwyd i'r pwrpas cyntaf yn y byd, Auckland House erbyn hyn (a adeiladwyd yn 1819-1820; SO 242146), a ddefnyddiwyd yn wreiddiol fel warysau ar gyfer haearn cadw Bailey a Brewer o weithfeydd haearn Nant-y-glo, Coalbrookvale a Chendl. Gerllaw ceir bloc o odynau calch o gerrig llanw, y credir ei fod yn dyddio o'r un cyfnod â glanfa Llanelli (c1817).

Mae nodweddion cysylltiadau eraill yn cynnwys pontydd ffordd, ee y bont ag un bwa cylchrannol i lawr yr afon o Ddyfrbont Gilwern, a gariai'r ffordd drwy'r Cwm dros afon Clydach (HLCA 008). Mae nodweddion tirwedd nodweddiadol yn cynnwys incleins a wasanaethai chwareli calchfaen yr ardal, megis y rhai yn Blackrock (HLCA 004b) ac yng Ngilwern (HLCA 007), a gwaith haearn megis planau ar oleddf y rheilffordd wedi'i gwrthbwyso, a adeiladwyd yn 1811 i wasanaethu Gwaith Haearn Clydach.

Yn ôl i'r brig

Patrymau Anheddu Diwydiannol a Thraddodiadau Adeiladu (gan gynnwys cyfraniad gan Judith Alfrey)

Mae'r ardal yn cynnwys nifer o wahanol fathau o aneddiadau, er y nodweddir y mwyafrif ohonynt gan rywfaint o anffurfioldeb - yn achos yr aneddiadau hanesyddol, mae gwaith cynllunio yn amlwg dim ond i'r graddau y mae llawer o'r terasau o dai yn cynrychioli datblygiad unedig, sy'n cynnwys rhesi bach o anheddau sydd bron yn union yr un fath. Mae hyn yn wahanol i broses fwy ychwanegol lle y mae tai a adeiladwyd yn unigol yn sefyll yn ymyl ei gilydd. Collwyd undod y terasau mewn llawer o achosion o ganlyniad i newidiadau olynol, ar arbennig ar ddiwedd yr 20fed ganrif. Er bod hon yn broses hanesyddol ddiddorol ynddi'i hun (ac yma fel mannau eraill mae gryfaf yn yr ardaloedd mwyaf anghysbell a ddatblygwyd yn y ffordd fwyaf digynllun, ee New Rank, HLCA 006), byddai'n ddymunol diogelu'r cymeriad unedig hwn, ble bynnag y mae wedi goroesi.

Dim ond mewn datblygiadau yn dyddio o'r ugeinfed ganrif (a'r unfed ganrif ar hugain) y gwelir gwaith cynllunio y tu hwnt i lefel y teras gyntaf. Ceir o leiaf ddwy ystâd tai cyngor (a adeiladwyd ar ôl y rhyfel) yng Nghlydach - y mae un ohonynt yn cynnwys grwp bach o dai parod 'Swedaidd' (Park Crescent). Mewnforiwyd y rhain, y bwriadwyd iddynt fod yn anheddau parhaol, gan lywodraeth Prydain o c1934, ac fe'u codwyd mewn ardaloedd gwledig yn bennaf. Mae'n debyg bod yr ystâd arall yn dyddio o ddechrau'r 1950au. Ceir ystadau tai cyngor eraill ym Mryn Llanelli. Ceir hefyd ystâd hapfasnachol fach a adeiladwyd c1970 yng Nghlydach, a rhai eraill yng Ngilwern. Ceir clofannau cynlluniedig o'r unfed ganrif ar hugain ym Maesygwartha. Gyda'i gilydd mae'r rhain yn olrhain, ar raddfa fach, hanes modern o ddarpariaeth tai.

Mae crynhoad o derasau, yn rhoi i Glydach (HLCA 003) gymeriad cnewyllol pendant, er ei bod yn werth nodi bod tai a adeiladwyd yn unigol i'w cael yma hefyd. Ar ochr ogleddol y Ceunant, mae gan gymunedau Darren-Ddu a Cheltenham (HLCA 002) gymeriad llinellol cryf. Mae unedau o ddatblygiadau yn tueddu i fod yn fach (tai unigol neu resi byr o dai), felly y ffordd sy'n rhoi siâp i'r anheddiad yma.

Yn ardal Bryn Llanelli (HLCA 006), ymddengys fod y patrwm anheddu yn llawer mwy damweiniol, sy'n awgrymu efallai i'r aneddiadau gael eu sefydlu drwy weithgarwch tresmasu, neu drwy ddatblygiadau tra anffurfiol ar leiniau bach o dir. Gall The Lodge fod yn fwthyn sgwatwyr cynnar. Mae rhywfaint o dystiolaeth bod y broses hon o adeiladu terasau wedi'i chynllunio, ond nid oes unrhyw ymdeimlad o waith cynllunio cyffredinol tan ddatblygiadau tai cyhoeddus yn yr ugeinfed ganrif.

Mae Dan-y-Bont yn anheddiad bach nodedig (fe'i cynhwysir yma fel rhan o Gilwern HLCA 008) sy'n gysylltiedig â'r hen felin wlân, er bod Rock Cottage, y prif dy yn rhestredig, nid oes gennym unrhyw wybodaeth am sut na phryd y'i sefydlwyd na'i hanes.

Cronoleg Adeiladu: ar wahân i ddatblygiadau yn yr ugeinfed ganrif (y mae'n amlwg eu bod yn cael cryn effaith ar yr ardal), nodweddir y cymeriad hanesyddol i raddau helaeth iawn gan ddatblygiadau yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ceir rhai olion economi amaethyddol gynharach (y ty hir posibl yn Gellifelen (HLCA 006) a'r fferm gyferbyn â Fferm Penrhiw), ond mae'n debyg bod y nifer fach o ffermydd eraill yn ymwneud yn agosach â'r broses ddiwydiannu ac iddynt gael eu sefydlu neu eu hailwampio yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae gan fferm Beiliau ffermdy yn dyddio o'r 17eg ganrif (Pant-y-beiliau; HLCA 009), ond adeiladau allan eithriadol o fawr yn dyddio o'r 19eg ganrif; Mae Fferm Penrhiw yn dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg; Mae'n werth nodi wrth fynd heibio bod y ffermdy hwn, er ei fod ar raddfa fwy, yn debyg o ran ei gynllun a'i adeiladwaith i'r bythynnod diwydiannol. Dim ond Clydach House (1693) sy'n tystio i'r cyfnod diwydiannu cynnar (HLCA 001). Ceir hefyd pâr o fythynnod diwydiannol cynnar iawn (6-7 Forge Row; HLCA 001), sy'n rhestredig. Gall fod un neu ddau fwthyn yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif (ee Weavers, Clydach), ond ymddengys fod y cyfnod adeiladu cyson cynharaf yn digwydd tua c1820-30, pan adeiladwyd terasau hir o dai yng Nghlydach (HLCA 003). Ymddengys fod y dystiolaeth o fapiau a archwiliwyd yn ystod yr astudiaeth bresennol at ei gilydd yn cadarnhau bod y cyfnodau adeiladu cyson cynharaf yn perthyn i ddechrau'r 19eg ganrif, ac mai'r patrwm amaethyddol gwasgaredig cynharach a oedd fwyaf cyffredin hyd at ail hanner y 18fed ganrif. Yn anffodus, nid yw'r dystiolaeth gartograffig yn darparu sail dda ar ei phen ei hun ar gyfer gwneud astudiaeth gronolegol fanwl gywir o ddatblygiad aneddiadau'r ardal, ac mae angen astudiaeth fanwl arall o'r ffynonellau dogfennol a ffisegol. Fodd bynnag, yn gyffredinol, gellir ystyried bod dyddiadau adeiladu capeli yn adlewyrchu cyfnodau o dwf aneddiadau - mae'r capeli hynny yn ardal Cheltenham/Darren-Ddu (HLCA 002) yn dyddio o 1828 a 1829, mae Bethlehem yn dyddio o 1830 (Mae'r Capel Wesleaidd a Bethlehem yn rhestredig). Efallai i'r gweithgarwch adeiladu barhau'n ddi-dor, fwy neu lai, ar ôl hynny, gan barhau i ddefnyddio ffurfiau a sefydlwyd ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond mae tystiolaeth bendant o gyfnod pwysig arall pan welwyd buddsoddi mewn adeiladu tua diwedd y ganrif. Ar ôl hynny, prin fu'r datblygiadau newydd tan c1940-50, ac roeddynt ar raddfa fach, a chafwyd proses barhaol o ddatblygu ar ôl hynny.

Mae hefyd yn werth nodi maint y newidiadau a wnaed i adeiladau yn ystod yr ugeinfed ganrif ac yn ddiweddarach; y canlyniad yw mai prin yw'r adeiladau sydd wedi cadw eu cymeriad gwreiddiol yn gyfan gwbl. Mae angen cydnabod hyn fel rhan o hanes parhaol o addasu a newid sy'n nodweddiadol o gymunedau diwydiannol ar y ffin, ond er mwyn llwyddo i gadw cymeriad hanesyddol, mae'n bwysig ei fod yn cael ei reoli'n llymach.

Mathau o Adeiladau a hierarchaeth gymdeithasol adeiladu: yr argraff gyffredin yw un o gymuned eithaf cydryw, lle y mae'r rhan fwyaf o'r tai yn cydymffurfio â graddfa ac arddull tebyg. Er efallai bod amrywiadau bach mewn maint yn gymdeithasol bwysig, nid oes fawr ddim teimlad o gymdeithas dra haenedig yma. Mae Clydach House (HLCA 001) yn nodi 'pen uchaf' graddfa bensaernïol-gymdeithasol, ac yn yr un modd, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Clydach Villa, a Rock Cottage, Dan-y-Bont (HLCA 008). Mae'n amlwg nad oes fawr ddim tai 'dosbarth canol' (un eithriad yw'r ty sydd ynghlwm wrth y felin yn Dan-y-Bont (HLCA 008, a'r tai pâr talcendo yn Cheltenham - mae'r rhain wedi'u rhestru fel 'House next to Oak House, Main Road, Cheltenham; HLCA 002).

Mathau a Thechnegau: mae bron pob un o'r terasau diwydiannol yn cynnwys tai deulawr dwy uned a chanddynt fynedfa ganolog a simneiau yn y talcen. Ymddengys iddynt gael eu hadeiladu fel arfer o gerrig llanw dibatrwm bras yn wreiddiol (er bod rhai eithriadau o dai wedi'u hadeiladu o flociau o gerrig tra phatrymog) ac fe'u nodweddir gan doeon llechi isel eu goleddf. Mae'n bosibl i'r ffordd hon o gynllunio tai ddatblygu o'r bwthyn bach a elwir yn 'Weavers'; mae gan yr adeilad hwn, sydd wedi'i wyngalchu, do mwy serth a llawr uchaf is, ond mae'n debyg o ran ei gynllun i'r terasau. Ceir amrywiadau lleol yn y math o gerrig o ddefnyddiwyd, a defnyddiwyd mwy o dywodfaen coch ar ochr ogleddol y ceunant, a cheir ambell enghraifft o adeiladau lle y defnyddiwyd y math hwn o garreg at ddibenion addurniadol. Mae gan rai tai orffeniad wedi'i wyngalchu o hyd, ond nid yw'n glir bellach pa mor gyffredin oedd hyn (roedd y ty a restrir fel y ty drws nesaf i Oak House, y brif Ffordd, Cheltenham (HLCA 002) wedi'i rhannol wyngalchu pan y'i rhestrwyd - fe'i tynnwyd erbyn hyn). Pa undod bynnag y gall y defnydd cyffredin o ddeunyddiau fod wedi'i roi i'r ardal ar un adeg; erydwyd yr undod hwn gan ddefnydd helaeth o rendr yn ystod yr ugeinfed ganrif a gwaith adnewyddu diweddarach. Byddai'n braf pe câi'r defnydd o rendr ei atal er mwyn cadw (neu adfer hyd yn oed) cyfanrwydd rhai o'r terasau. (Enghreifftiau da yng Nghlydach (HLCA 003) ei hun, a Waunllapria (HLCA 006), er enghraifft).

Mae gan y bythynnod cynharaf addurniadau o gerrig nadd (capan ffenestri a drysau, ac weithiau conglfeini ongl). Yn ddiweddarach, defnyddiwyd brics ar gyfer addurniadau, i ddechrau brics llwydfelen ag ysmotiau arbennig, ac yn ddiweddarach byth (c1900?) brics melyn caled.

Roedd gan bron pob un o'r tai yn y terasau cynnar ffenestri a drysau ar un ochr yn unig (mae'r rhesi o dai ar ogwydd yng Nghlydach, HLCA 003), yn ddiddorol am eu bod wedi'u cyfeirio'n wahanol ac mae wyneb blaen y tai ac wedyn eu cefn yn wynebu'r ffordd bob yn ail, ee Bath Row). Mae hyn yn nodi cymeriad cynhenid pendant, a welir hefyd mewn anghysonderau o ran cymesuredd. Mae tai diweddarach yn llawer mwy rheolaidd ac uwch, a rywbryd neu'i gilydd, dechreuwyd adeiladu tai deulawr. Efallai fod rhywfaint o arbrofi wedi digwydd â ffurfiau anarferol o adeiladu, megis rhesi o dai cefngefn (Clydach, gerllaw'r dafarn; a'r rhesi o dai dau dalcen ym Mryn Llanelli, HLCA 006), ac ar lethrau serth, efallai i'r dull adeiladu ty dros ben ty gael ei ddefnyddio (yn arbennig yn HLCA 002). Mae'r tai ymyl ffordd ar ochr ogleddol y ceunant yn nodedig, a cheir mynediad iddynt ar y lefel uchaf. Prin yw'r enghreifftiau o adeiladau amlwg 'boneddigaidd' a gomisiynwyd, er bod Gorsaf Clydach yn eithriad (HLCA 003): mae gan yr adeilad hwn gymeriad pensaernïol pendant (gothig), ac mae wedi'i adeiladu o waith maen llaw. Enghraifft arall yw'r Mans yng Nghapel Bethlehem (HLCA 009), sy'n gwneud defnydd addurniadol o gerrig adeiladu lleol.

Materion rheoli: mae'r Rhestr statudol o Adeiladau Hanesyddol yn eithaf da o ran strwythurau diwydiannol, ac mae'n nodi pwysigrwydd rhwydweithiau trafnidiaeth yn yr ardal yn arbennig, a hefyd pwysigrwydd gweithgarwch cloddio cerrig a gweithfeydd calch. Mae'n darparu darlun llawer llai cymhleth o batrymau adeiladu ac anheddu cynhenid yn yr ardal. Er enghraifft, nid yw'r un o'r tai diwydiannol a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi'i restru, er ei bod yn amlwg y bydd yn dra dymunol eu diogelu. Mae hyn yn enghraifft glir o faes lle y gall gwaith yn seiliedig ar gymeriad wneud cyfraniad pwysig at waith cynllunio cadwraeth.

Yn ôl i'r brig