Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


019 Pont-y-gwaith, Tylortown a Stanleytown


HLCA 019 Pont-y-gwaith, Tylorstown a Stanleytown
Ardal anheddu glofaol cyfansawdd yn cynnwys tri anheddiad 'pen pwll' ail gam cysylltiedig a oedd yn gysylltiedig â dwy/tair glofa; aneddiadau preswyl gyda stoc tai sy'n dyddio'n bennaf o'r 1880au ymlaen, gan gynnwys tai a godwyd gan y lofa, heb lawer o amrywiaeth swyddogaethol/morffolegol a datblygiadau masnachol.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA019)

Stanleytown, golygfa i'r dwyrain o safle uwchlaw Tylorstown.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Pont-y-gwaith, Tylorstown a Stanleytown yn cynnwys tri anheddiad, a ddatblygodd i wasanaethu pyllau glo'r Mid-fach, fel y gelwir yr ardal. Lleolir yr ardal hon ar y naill ochr a'r llall i Afon Rhondda Fach ac mae ei ffin yn rhedeg rhwng plwyfi Ystradyfodwg a Llanwynno. Cyn hynny cynhwysai'r ardal dir isel a oedd yn eiddo i bedair ystad gan gynnwys ffermydd Cynllwyn-du, Cefn Llechau-isaf (Cefn Lleche), Cefn Llechau-uchaf (Cefn Lleche Uchaf), Hendre Faelog, Penyrheol Llechau (Penheol Lleche) a Phenrhys-isaf (Penrhys issaf). Tyfodd tri anheddiad Pont-y-gwaith, Tylorstown a Stanleytown o amgylch y pwll glo cyntaf a sefydlwyd yn yr ardal. Agorwyd un siafft ym 1858 gan Thomas Wayne, yn dwyn yr enw swyddogol Cynllwyn-du (a elwid yn Bwll Waynes yn lleol), ac fe'i hailenwyd yn ddiweddarach yn Bwll Glo Pont-y-gwaith. Sefydlwyd Pwll Glo Penrhys ym 1872, pan agorwyd dwy siafft gan Alfred Tylor (yr enwyd Tylorstown ar ei ôl). Prynwyd y pwll glo hwn a phwll glo Pont-y-gwaith gan David Davies a'i Gwmni; y cyntaf ym 1894 a'r ail ym 1896 ac fe'u hailenwyd yn Byllau Glo Rhif 6, 7 (Penrhys) ac 8 (Pont-y-gwaith). Lladdwyd 57 o lowyr mewn ffrwydrad ar 27 Ionawr 1896. Agorwyd pwll arall ym 1901 a gosodwyd trydan yn y pyllau glo hyn ynghyd â phyllau glo cyfagos yng Nglynrhedynog ym 1908. Yn eu hanterth cyflogai'r pyllau glo tua 3,000 o ddynion a bechgyn. Fodd bynnag fe'u caewyd yn y diwedd oherwydd problemau daearegol, proses a ddechreuodd gyda Rhif 6 a 7 ym 1936, ac a orffennodd ym 1960 pan gaewyd y pyllau a oedd ar ôl, er i gynhyrchiant gynyddu am gyfnod byr. Ym 1981 adferwyd y safle yn ôl cynllun yn costio £1.2 miliwn (Carpenter 2000).

Dengys argraffiad 1af map yr AO y bont, pont groca yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif, a Thafarn ym Mhont-y-gwaith, Hen ffwrnais, gerllaw lôn a Rheilffordd y Taff Vale, i'r de o bont Pont-y-gwaith (a roddodd yr enw i'r bont ac yn y pen draw yr anheddiad), Pwll Glo Pont-y-Gwaith (Cynllwyn-du), Pwll Glo Pendyrys, yr oedd gan y ddau ohonynt dai injan a siafftau a rhes bosibl o fythynnod i'r gogledd-orllewin ac odyn galch (Argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1884, a fapiwyd ym 1875). Ymddengys yr aneddiadau glofaol yn gyntaf ar 2il argraffiad map yr AO: dangosir ffurf linellol Pont-y-gwaith, gan gynnwys strydoedd Brewery, Deri, Madeline, a Llywelyn, a leolir ar y llethrau sy'n wynebu'r dwyrain i'r gorllewin o'r afon, Bryn Terrace, Pleasant View a Brondeg Street yng Nghwm Waun-newydd a rhai datblygiadau strimynnog h.y. Furnace Road a Margaret Street. Mae'r anheddiad yn cynnwys eglwys, sef Eglwys y Drindod Sanctaidd (EM Bruce Vaughan, 1882-3), swyddfa bost, gwesty, capeli a gorsaf Pont-y-gwaith ar Reilffordd y Taff Vale. Gyferbyn, ar ochr ddwyreiniol y cwm ceir tai terasog llinellol Stanleytown. Codwyd wyth deg o'r tai hyn gan Glwb Adeiladu Stanley ym 1895, yn ôl cynlluniau'r pensaer TR Phillips o Bontypridd (Newman 1995), ac maent yn cynnwys Upper Terrace, Middle Terrace (sef tai a adeiladwyd gan y pwll glo, gan gynnwys 10 ar Middle Terrace a adeiladwyd gan David Davies a'i fab) a Lower Terrace. Mae Tylorstown i'r gogledd yn arddangos cynllun grid llinellol a chynhwysai bryd hynny Arran Terrace, Bribed Road, Bryn Eulogy Terrace, Dolce Terrace, East Street, Edmonds Street, a Gwernllwyn Terrace. Roedd yr anheddiad yn cynnwys eglwys, ficerdy, capeli ac ysgol, tra lleolid Pwll Glo Pendyrys i'r gogledd, gyda'i dþ injan, ei storfa a'i gronfa ddŵr (2il argraffiad map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1900, a ddiwygiwyd ym 1897-98). Mae'r fynwent, ger Penrhys yn dyddio o'r cyfnod hwn ac adeiladwyd ei gapel ym 1884, gan WH Jenkins a TR Phillips.

Erbyn cyhoeddi argraffiad 1921 roedd pont newydd wedi'i hadeiladu dros Reilffordd y Taff Vale yn cysylltu Brewery Street a Margaret Street. Roedd Pont-y-gwaith yn cynnwys stryd newydd, sef Tanybryn Street, ac roedd Madeline Street wedi'i chwblhau a therasau ychwanegol wedi'u hadeiladu yng Nghwm Waun-newydd, gan gynnwys Woodland Road; roedd Witherdene Road a Llanwonno Road wedi'u hychwanegu tua phen deheuol Stanleytown; tra roedd strydoedd ychwanegol wedi'u hadeiladu yn Tylorstown gan gynnwys Parry Street, Brynhyfryd Street, Charles Street a Vivian Street. Roedd terasau ychwanegol yn rhedeg ar draws y llethrau uwchlaw East Road, gan gynnwys Church Terrace, strydoedd Donald, Eric a Keith ac roedd dwy ysgol newydd wedi'u hadeiladu uwchlaw Arfryn Terrace (argraffiad 1921 map 6 modfedd yr AO, a ddiwygiwyd ym 1914-15). Roedd gorsaf drydan newydd hefyd wedi'i hadeiladu i'r dwyrain o Reilffordd y Taff Vale, gerllaw Pwll Glo Cynllwyn-du; cyflenwai'r orsaf drydan hon y pyllau glo, gan yrru'r holl beiriannau halio, pwmpio, rhidyllu a systemau awyru erbyn diwedd 1908. Erbyn y dyddiad hwn roedd pyllau glo Pendyrys a Chynllwyn-du wedi'u cysylltu â'i gilydd gan dramffordd.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk