Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


033 Rhondda Fawr: Ochrau Caeëdig y Cwm
(Cwm Lan - Nant-y-Gwiddon)


HLCA 033 Rhondda Fawr: Ochrau Caeëdig y Cwm (Cwm Lan - Nant-y-Gwiddon)
Tirwedd amaethyddol ganoloesol/ôl-ganoloeso/ôl-ganoloesol, greiriol yn bennaf; ffiniau caeau amlwg; tirwedd ac anheddu angladdol cynhanesyddol; amaethu ac anheddu canoloesol ucheldirol; amaethu a ffermdai ôl-ganoloesol (tai hirion yn bennaf, yn nodweddiadol o'r rhanbarth); tystiolaeth ddogfennol o arferion ac anheddu canoloesol/ôl-ganoloesol; tirwedd ddiwydiannol helaeth gyda nodweddion yn dyddio o gyfnodau cynnar y broses o echdynnu mwynau.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA033)

Tirwedd a fu gynt yn gaeëdig ar lethrau Mynydd y Gelli a Mynydd Llwynypia.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol y Rhondda Fawr: Ochrau Caeëdig y Cwm (Cwm Lan - Nant-y-Gwiddon) yn estyniad ar wahân o HLCA 029 y Rhondda Fawr: Ochrau Caeëdig y Cwm. Ar wahân i amaethyddiaeth, mae tystiolaeth bod y tir wedi'i ddefnyddio at ddibenion diwydiannol, yn arbennig ar hyd ffin ddwyreiniol is yr ardal; safleoedd cloddio glo yw'r rhain gan mwyaf, megis Lefelau Bwllfa, Pwll Glo Dwyreiniol Bwllfa, Pwll Glo Maendy a'i dy injan (argraffiad 1af 1884), Pwll Glo Ton Pentre a Phwll Glo'r Gelli.

Mae darganfyddiadau o'r ardal yn cynnwys bwyell garreg o'r Oes Neolithig a blaen saeth o'r Oes Efydd o Fynydd y Gelli a chelc o gelfi efydd o'r chwarel yn y Gelli. Mae'r ardal yn cynnwys enghreifftiau pwysig o henebion angladdol yn dyddio o'r Oes Efydd, ac mae'r maes carneddau ar Fynydd y Gelli (SAM Gm 354), sy'n cynnwys carneddau cylch ac ymyl mwy o faint, yn arbennig o ddiddorol. Ceir henebion angladdol eraill a charreg ar ei gorwedd yn yr ardal. Lleolir clwstwr arall o henebion angladdol yn rhan ogleddol yr ardal. Mae'r rhain yn cynnwys carnedd gylch a ysbeiliwyd i'r gogledd-orllewin o Darren Felen-uchaf, tair carnedd ar Fynydd Maendy ac un arall i'r de-orllewin o Wersyll Maendy. Cloddiwyd Gwersyll Maendy ym 1901 a darganfuwyd cyllell efydd wedi'i ddifrodi, crochenwaith, gan gynnwys teilchion wrn lludw a fflintiau. Wedi'i wasgaru ym mhen esgair Gwersyll Maendy ceir maes carneddau, yn cynnwys naw twmpath bach, a charnedd fwy o faint; o fewn y grŵp hwn ceir yr hyn all fod yn dwmpath coginio, neu'n dwmpath llosg (Arch. Camb. 1902, tud. 258), sydd hefyd yn dyddio o'r Oes Efydd. Mae tystiolaeth o anheddu cynhanesyddol yn yr ardal yn cynnwys olion tai crwn yn dyddio o ddiwedd yr Oes Haearn/y cyfnod Rhufeinig-Brydeinig yn Hendre'r Gelli. Darganfuwyd crochenwaith yn dyddio o'r 2il ganrif a'r 3ydd ganrif yn y tai crwn hyn sy'n dangos bod pobl wedi parhau i'w defnyddio i mewn i'r cyfnod Rhufeinig; ceir llu o nodweddion eraill, gan gynnwys systemau caeau, yn yr ardal hefyd.

Mae'r ddau gwt llwyfan gwahanol ar Fynydd y Gelli, a'r ty llwyfan mawr yng Nghwm Lan, a leolir ar lethrau gogledd-ddwyreiniol Mynydd Ton yn arwydd o anheddu parhaol o fewn yr ucheldiroedd i mewn i'r cyfnod canoloesol.

Plannwyd rhai coedwigoedd yn ystod y cyfnod modern o fewn ffiniau'r HLCA, sy'n cynnwys rhannau bach o goetir hynafol sydd wedi goroesi; mae enwau caeau Coedcae a'r ffaith y ceir llwyfannau llosgi golosg yn yr ardal, megis yr un ar Fynydd Bwllfa, yn tystio i'r ffaith bod yr ardal wedi'i gorchuddio â llawer mwy o goed yn y dyddiau gynt. Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol roedd ffermdai'r ardal fel arfer ar batrwm y ty hir, e.e. fferm y Gelli (grwp yr aelwyd-gyntedd; tai hir, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru).

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk