Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


017 Ynys-hir


HLCA 017 Ynys-hir
Yr anheddiad glofaol cyntaf yn y Rhondda Fach; anheddiad glofaol cam 1, 2 a 3, a ddechreuodd fel rhesi unigol nodweddiadol yn ystod y cam cyntaf, ond nodweddir y cymeriad presennol gan waith ehangu tua diwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif a chan y patrwm llinellol; mae'r datblygiadau'n gysylltiedig â ffyniant y pyllau glo cysylltiedig; cymeriad preswyl yn bennaf, stoc tai sy'n dyddio'n bennaf o'r 1870au ymlaen; mân ddatblygiadau masnachol.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA017)

Golygfa o'r awyr o Ynys-hir o'r de ddwyrain.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Ynys-hir yn cynnwys anheddiad glofaol cynharaf Cwm Rhondda Fach. Adeiladwyd yr anheddiad gwreiddiol ar lan orllewinol Afon Rhondda Fach ar ddolydd a choetir isel fferm Ynys-hir, a oedd bryd hynny yn eiddo i Edward Williams (Map degwm Ystradyfodwg 1844), a thyfodd yn ddiweddarach i'r dwyrain o'r afon a thir ffermydd Maendy a Phen-rhiw (rhan o ystad y Parch. George Thomas, Map degwm Llanwynno 1841). Datblygodd yr anheddiad i ddechrau fel gwasgariad o resi unigol yn seiliedig ar y fenter lofaol gynharaf o bwys yn yr ardal, sef Pwll Glo Ynys-hir, a agorwyd ym 1845 gan y Mri Shepard ac Evans, yn masnachu fel yr Ynys-hir Coal Company. Fe'i prynwyd gan Francis Crawshay ym 1856 ac fe'i hymestynnwyd i gyflenwi ei Waith Tun yn Nhrefforest. Fe'i gwerthwyd ar ôl hynny i Thomas Jones o Maendy House, Ynys-hir ym 1873 ac o dan enw Jones Navigational Colliery fe'i gwnaed yn ddyfnach i weithio haen y Rhondda No. 2 (caeodd y pwll glo yn y diwedd ym 1909 am nad oedd yn gwneud elw). Erbyn 1875 cynhwysai'r anheddiad nifer o fythynnod, a ddatblygodd yn Wind Street yn ddiweddarach, i'r de-orllewin o'r pwll glo a'i ffyrnau golosg, a Thy Danygraig. Ar safle Pwll Glo'r Standard a agorwyd ym 1874 gan William James Thomas a Daniel Thomas o Ddinas, roedd dwy siafft, ffordd aer a glo a thramffordd yn cysylltu â Rheilffordd y Taff Vale, tra ymddengys fod rhes unigol wrthi'n cael ei hadeiladu i'r de. Mae nodweddion eraill yn cynnwys ffrwd melin ac odyn galch (Argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1884, a fapiwyd ym 1875).

Datblygodd yr ardal o amgylch yr anheddiad gwreiddiol hwn yn gyflym ac erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd wedi'i ddisodli. Llwyddiant pyllau Ynys-hir a Standard oedd y prif reswm am hyn ac erbyn 1898 roedd y rhan fwyaf o Ynys-hir i'r gorllewin o'r afon, wedi'i sefydlu, â'i batrwm grid llinellol wedi'i osod ar wasgariad digynllun yr anheddiad cynharach. Bryd hynny ymestynnai'r anheddiad o James Terrace a Gwesty'r Eagle yn y de, Rheilffordd y Taff Vale i'r dwyrain, Gaynor Place a Grey Road i'r gorllewin, mor bell i'r gogledd â Phwll Glo'r Standard, Incline Row a Danygraig Terrace; cynhwysai'r ardal y myrdd arferol o gapeli anghydffurfiol, gan gynnwys Capel Bethany, (capel cynnar o'r math a nodweddir gan ffasâd hirfur), a Chapel Moriah, sef Capel y Methodistiaid Calfinaidd (a ailwampiwyd ym 1909-1910 gan RS Griffiths) y ddau ar Ynyshir Road, yn ogystal ag ysgolion a thafarn. Gerllaw'r Standard saif Ty Brynawel, a adeiladwyd gan WJ Thomas, lle y goruchwyliai'r gwaith bob dydd o redeg ei bwll glo. I'r dwyrain o Reilffordd y Taff Vale gerllaw Ty Maendy, mae Eglwys y Santes Ann (1885-6 EM Bruce Vaughan yn yr arddull Seisnig Gynnar), a gorsaf Ynys-hir i'w gweld, tra ceir nifer o fythynnod i'r dwyrain o'r afon ar Heol Llanwynno (2il argraffiad map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1901, a ddiwygiwyd ym 1898). Ar ôl hynny digwyddodd y gwaith datblygu mwyaf i'r dwyrain o Reilffordd y Taff Vale hyd at yr afon a thu hwnt; adeiladwyd Church Terrace, Cross Street, John Street, Standard Terrace, Station Street, William Street ac Ynys Street i'r gorllewin o'r afon, tra amlinellai terasau hir Standard View a Heath Terrace y llethr i'r dwyrain. I'r gorllewin bu'r broses ehangu yn llai dramatig, ond fe'i rheolid yn yr un modd gan lethrau serth y tir a oedd ar gael (h.y. fel yn Gaynor Avenue ac Upper Gaynor Place) a chynhwysai ysgol fawr ar Haig Road (Argraffiad 1921 map 6 modfedd yr AO, a ddiwygiwyd ym 1914-15). Mae Neuadd y Glowyr Ynys-hir yn dyddio o'r cyfnod hwn; fe'i hadeiladwyd ym 1905-06 yn ôl cynlluniau gan E Williams, Caerdydd, ac fe'i hailwampiwyd tua 1930. Y newidiadau eraill sy'n haeddu sylw yw i Bwll Glo Lady Lewis agor ym 1904 o dan berchenogaeth Lewis Merthyr Consolidated Collieries Ltd a Phwll Glo Ynys-hir gau ym 1909. Datblygodd y cyntaf yn gyflym ac erbyn 1913 cyflogai 1,228 o ddynion (Carpenter 2000).

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk