Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


025 Mynachdy Penrhys


HLCA 025 Mynachdy Penrhys
Tirwedd ucheldirol; ardal graidd i faenor ganoloesol a safle pererindota; arwyddocâd hanesyddol, diwylliannol a chrefyddol; system gaeau ôl-ganoloesol greiriol a ffermdy(ai); prin oedd y dylanwad diwydiannol ar y dirwedd; cysylltiadau cynnar; tystiolaeth ddogfennol; tai cymdeithasol modern, coedwigaeth a hamdden.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA025)

Golygfa o'r awyr o'r ardal gymeriad gyda'r Rhondda Fawr yn y cefndir.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Mynachdy Penrhys yn dirwedd ucheldirol o archeoleg greiriol sy'n arddangos y nodweddion ucheldirol arferol megis henebion angladdol sy'n nodweddiadol o'r Oes Efydd (2300-800CC); lleolir tri safle o'r fath o fewn yr ardal, un ohonynt mewn ardal a elwir yn Erw Beddau, a gloddiwyd ym 1951. Dywedir bod enw'r ardal, sef Penrhys ap Tewdwr, yn deillio yn ôl traddodiad o dorri pen Rhys ap Tewdwr; yn ôl pob sôn yr ardal yw safle brwydr rhwng y tywysog Rhys ap Tewdwr ac Iestyn ap Gwrgant tua 1085-88; mae mynwent Erw Beddau uchod, sy'n dyddio o'r Oes Efydd, wedi ei chysylltu â'r frwydr yn y traddodiad. Dangosir llwybr cefnffordd ucheldirol, y mae ei dyddiad yn anhysbys, yn rhedeg i'r de o'r Gefnffordd fwy enwog ar gofnod cartograffig yr ardal.

Yn ystod y cyfnod canoloesol ymsefydlodd yr ardal fel canolfan pererindota a maenor fynachaidd. Yn ôl traddodiad sefydlwyd sefydliad Ffransisgaidd ar y safle gan Robert y Conswl, er bod yr olion y gellir eu gweld heddiw yn perthyn i'r faenor fynachaidd a gysylltir ag Abaty Sistersaidd Llantarnam. Daeth Penrhys yn enwog am ei ffynnon, sef Ffynnon Fair, sy'n dal i fodoli, capel, cysegrfa a gwesty, ac mae traddodiad bod Edward II wedi chwilio am loches yma ym 1326, cyn iddo gael ei ddal yn y diwedd. O ddechrau'r 14eg ganrif rhoddodd y Sistersiaid y gorau i ffermio defaid a phrydlesu'r tiroedd ym Mynachdy Penrhys, gan rannu'r faenor i greu dros 30 o ddaliadau; ystyrir bod hyn wedi esgor ar gryn weithgarwch i adeiladu ffiniau. Pan ddiddymwyd y mynachlogydd yn yr 16eg ganrif cafwyd gwared ar y cerflun o'r Forwyn Fair yn dilyn gorchymyn Brenhinol 1538, a dymchwelwyd y gysegrfa. Dywedir i'r darnau o bren gael eu defnyddio i adeiladu fferm Ty'n-tyle gerllaw (Davies 1975; Pride 1969; a Williams 1990).

Dengys argraffiad cyntaf map 6 modfedd yr AO graidd y faenor, ffermydd Pen-Rhys-ap-Tewdwr a Phen-Rhys-isaf, yn cynnwys caeau eithaf rheolaidd canolig eu maint yn bennaf. Erbyn y trydydd argraffiad (1921, a ddiwygiwyd 1914-15) yr unig ychwanegiad o bwys at yr ardal oedd ysbyty neilltuo Penrhys.

Mae'r safle pererindota yn dal i gael ei ddefnyddio, gan y Gymuned Babyddol ar raddfa fawr; ym 1953 codwyd cerflun coffa o'r Forwyn Fair gerllaw safle'r capel. Dymchwelwyd ffermdy Penrhys-uchaf, a arferai fod yn dy â mynedfa trwy'r talcen (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru), a chymerwyd ei safle gan ystad o bron mil o dai, a adeiladwyd ym 1966-9 gan Alex Robertson, Peter Francis a'i Bartneriaid. Mae'r ystad yn cynnwys terasau o dai deulawr a thri llawr byr â waliau concrid wedi'u rendro â sment a thoeau un oleddf (Newman 1995). Mae'r ystad dai yn gamamseriad yn hanes y Rhondda; yn agored i'r tywydd ac yn gysylltiedig â phroblemau cymdeithasol, ystyrir bellach bod y datblygiad yn un anaddas.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk