Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


013 Treherbert


HLCA 013 Treherbert
Anheddiad glofaol cam cyntaf a adeiladwyd ar yr Ystad yn ôl cynllun gydag ychwanegiadau cymharol fach yn ystod yr ail a'r trydydd cam; tai nodweddiadol yn parhau ac eiddo masnachol wedi'i addasu etc; adeiladau diddorol yn dyddio o'r 19eg ganrif, ee Ysgol Genedlaethol ac Ysgoldy, elusendai a Stryd Dumfries a chapeli niferus; ychwanegiad pentref gardd a thai cyngor cynnar; cynllun patrwm grid; canolfan fasnachol gymharol ddatblygedig.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA013)

Treherbert: Elusendai St Mary, Bute Street.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Treherbert yn cynnwys craidd anheddiad diwydiannol yn dyddio o'r 1850au, pan adeiladodd Ystad Bute 50-60 o dai ar ôl i siafft gael ei agor yng Nghwmsaerbren gan Bwll Glo Bute Merthyr ym 1855 (Fisk 1996). At ei gilydd ni ddarparodd perchenogion yr ystad dai diwydiannol yn y maes glo ac felly mae Treherbert yn eithriad prin. Codwyd yr anheddiad yn wreiddiol ar dir ffermydd Cwmsaerbren a Thonllwyd a oedd yn eiddo i Ystad Bute ac fe'u hymestynnwyd ar ôl hynny i dir cyfagos a oedd hefyd yn eiddo i Ystad Bute, sef Tynewydd, a fferm Ynysfeio, y dangosir ei fod yn perthyn i Griffith Llywellyn ar Fap Degwm 1844. Mae cynllun helaeth yr anheddiad trefol yn dyddio o'r 1850au, sef ei strydoedd llydan, syth a'r patrwm grid, yn dangos y diddordeb a oedd gan yr ystad ym materion cynllunio a dylunio ar ôl Deddf Iechyd 1848. Cyflogai Ystad Bute, fel Ystad Crawshay Bailey, arolygwyr i oruchwylio a monitro'r gwaith o gynllunio tir adeiladu a datblygiadau tai (Fisk 1996). Mae aneddiadau dibynnol Penyrenglyn ac Ynyswen, er eu bod yn ceisio efelychu cynllun mwy helaeth Treherbert ei hun, yn adlewyrchiad gwael ohono. Datblygodd y ddau anheddiad hyn mewn ffordd fwy tameidiog dros amser ac mae eu cynllun yn llai helaeth ac yn llai rheolaidd. Mae'n debyg y gellir olrhain y broses ddatblygu ddigynllun hon yn ôl i'r ffaith bod yr ardal gymharol fach hon yn eiddo i nifer o berchenogion, am ei bod o dan bedair ystad wahanol (Bute; Dunraven; William Morgan; a Griffith Llywellyn).

Mae stoc tai Treherbert ar y cyfan yn cynnwys y teras deulawr llinellol, sydd yn aml yn cynnwys uned fwy o faint yn y naill ben neu'r llall i'r teras neu yn y ddau ben, fel arfer Tafarn neu Westy, ond weithiau uned â swyddogaeth fasnachol arall; mae'r terasau at ei gilydd yn dai ag un ffrynt, er y ceir rhai enghreifftiau o dai â ffrynt dwbl. Mae'r adeiladau i gyd wedi'u hadeiladu o'r tywodfaen Pennant lleol. Mae Elusendai St Mary (sydd â manylion Gothig Tuduraidd) a'r bloc ym mhen gogleddol Dumfries Street, sydd â chynllun cymesur, a bloc canolog ac esgyll bargodol, yn haeddu sylw arbennig.

Dangosir craidd Treherbert bron yn gyflawn ar argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1884 (a fapiwyd ym 1875), gyda'i batrwm grid sefydledig. Erbyn y cyfnod hwn yn ei datblygiad, tua 1871, byddai'r anheddiad, sef strydoedd Bute a Dumfries yn bennaf, wedi bod yn un preswyl gan fwyaf. Mae'r elfen fasnachol fwyaf blaenllaw y gellir ei gweld heddiw, ar hyd ochr orllewinol Bute Street, yn dyddio o ran olaf y 19eg ganrif pan addaswyd y terasau preswyl. Mae terfyn gogleddol yr anheddiad yn cynnwys grwp o derasau llinellol a leolir gerllaw'r gyn-dramffordd a arweiniai at Bwll Glo Rhondda Merthyr. Roedd gan yr anheddiad, a wasanaethid gan orsaf ar Reilffordd y Taff Vale, o leiaf bedwar capel, yr oedd gan un ohonynt, sef Capel Libanus, fynwent, eglwys, sef eglwys y Santes Fair (sydd wedi'i dymchwel bellach), gorsaf heddlu a neuadd gyhoeddus. Ymhlith y pyllau glo yn yr ardal roedd Pwll Glo'r Bute neu Bwll Glo Rhondda Merthyr (a agorwyd ym 1855), Pwll Glo Lady Margaret (a agorwyd ym 1877) a Phwll Glo Tynewydd gerllaw (a unwyd yn ddiweddarach â Phwll Glo Rhondda Merthyr), a Phwll Glo'r Bute, a leolid i'r gorllewin o Reilffordd y Taff Vale. Dangosir melin lifio yn Nhreherbert hefyd ar argraffiad 1af map yr AO.

Yn Nhreherbert gwnaed mân ychwanegiadau at batrwm cynharach y strydoedd, gan gynnwys rhagor o derasau gerllaw'r orsaf ac ar gyrion deheuol yr anheddiad (Mount Libanus) erbyn diwedd y 19eg ganrif ac arolwg 2il argraffiad map 6 modfedd yr AO (1897-1898, a gyhoeddwyd ym 1900). Hefyd yn ystod y cyfnod hwn darparwyd ysgol ar Church Street, yr Ysgol Genedlaethol a'r Ysgoldy cysylltiedig, gerddi rhandir ym mhen gorllewinol Dumfries Street a chae pêl-droed. Mewn cyferbyniad, fodd bynnag, â gwelliannau cyffredinol a oedd yn cael eu gwneud, roedd pobl yn dal i fyw yn y cytiau pren, e.e. Upper Bute Huts, math o annedd dros dro a gysylltir fel arfer â'r cyfnod anheddu wrth agor y siafftau, hyd yn oed mor ddiweddar â 1879, fel y dengys adroddiadau yn nodi eu cyflwr afiach. Dengys argraffiad 1921 o fap 6 modfedd yr AO, a ddiwygiwyd ym 1914, fod rhagor o dai ac ysgolion wedi'u darparu, yn yr ardal i'r gorllewin o Afon Rhondda a hefyd yn dringo'r llethr uwchlaw Dumfries Street.

Datblygodd Penyrenglyn ac Ynyswen, fel y nodwyd uchod mewn modd llai rheolaidd na Threherbert ei hun. Erbyn 1875 roedd patrwm grid datblygol yn ei le ym Mhenyrenglyn, gan gynnwys George Street; cynhwysai'r anheddiad yr ysgolion, y tafarndai a'r gwestai arferol; tra roedd y cynllun yn seiliedig ar y grid gyda thai teras yn wynebu'r strydoedd cefn a redai o'r gogledd i'r de yn ogystal â'r brif ffordd drwodd a redai o'r dwyrain i'r gorllewin, mewn cyferbyniad â chynllun grid symlach Treherbert lle y rhedai terasau llinellol byr yn gyfochrog â Bute Street, sef y brif stryd o'r dwyrain i'r gorllewin. Roedd pwll glo pwysig Ynysfeio (a agorwyd gan James Thomas o Ynys-hir a'i Bartneriaid ar ôl 1854) a'r dramffordd i chwarel Ynysfeio hefyd ar waith bryd hynny, er bod Ynyswen yn dal heb ei datblygu ar wahân i bwll glo bach Ynyswen a'r Crown Inn (Argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO 1884, a fapiwyd ym 1875). Nid oedd Penyrenglyn wedi newid fawr ddim erbyn diwedd y 19eg ganrif (1897-98), ar wahân i neuadd ymarfer a adeiladwyd yno, tra roedd mân ddatblygiadau wedi digwydd gerllaw Pwll Glo Ynyswen (Pwll Glo Crown Level), gan gynnwys Maes-y-Ffrwd Terrace (ac Ysgol Sul) ac i'r gogledd o Ynyswen Road, ysgol a thai teras (2il argraffiad 1900, a ddiwygiwyd ym 1897-98). Ni ddengys argraffiad 1921 (a ddiwygiwyd ym 1914) fawr ddim datblygiadau ychwanegol ar gyfer Penyrenglyn ar wahân i derasau ychwanegol uwchlaw'r anheddiad gan gynnwys Herbert Terrace ac Ynysfeio Avenue, y gwaith ehangu a wnaed ar y pwll glo a'r ysgolion a adeiladwyd uwchlaw Charles Street. Fodd bynnag, dyma pryd y datblygodd Ynyswen gyda datblygiadau llinellol ar hyd Ynyswen Road ynghyd â datblygiadau i'r gogledd, gan gynnwys Kenry Street, Dunraven Street ac Adare Street; adeiladwyd dau gapel yn yr anheddiad (gan gynnwys Capel Ainon a adeiladwyd yn yr arddull glasurol gan y Bedyddwyr Cymreig ym 1899), ysgol fabanod, neuadd a Gwaith Nwy bryd hynny. Rhoddwyd enw ar Bwll Glo (neu slant) Nant Ddyrys hefyd am y tro cyntaf.

Ychwanegiad diweddar at yr anheddiad oedd 'pentref gardd' Fernhill a oedd yn llai o faint nag y bwriadwyd; cynhwysai'r 'pentref gardd' hwn 14 o dai a adeiladwyd gan gymdeithas gwasanaeth cyhoeddus a sefydlwyd gan gwmni'r pwll glo lleol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac erbyn diwedd 1921 roedd rhai o'r tai cyngor cyntaf yn y Rhondda wedi'u hadeiladu, yn breifat, yn Eileen Place, Treherbert.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk