Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


023 Rhondda Fach:
Ochrau Caeëdig Dwyreiniol y Cwm


HLCA 023 Rhondda Fach: Ochrau Caeëdig Dwyreiniol y Cwm
Tirwedd amaethyddol greiriol a addaswyd i raddau gan ddatblygiadau diwydiannol; ffiniau caeau amlwg; tystiolaeth a ddogfennwyd o arferion amaethyddol ac anheddu canoloesol/ôl-ganoloesol; anheddu ucheldirol ôl-ganoloesol (tai hirion); tirwedd ddiwydiannol yn gysylltiedig ac echdynnu mwynau, glo yn bennaf; coetir hynafol a choedwigaeth fodern.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA023)

Blaenllechau: Fferm ôl-ganoloesol a thai allan.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol y Rhondda Fach: Ochrau Caeëdig Dwyreiniol y Cwm yn cwmpasu'r tirweddau amaethyddol sydd wedi goroesi a gysylltir â'r ffermydd ôl-ganoloesol cynnar i'r dwyrain o Afon Rhondda Fach ac i'r gogledd o Afon Rhondda i'r de o'r Porth. Mae'r caeau ôl-ganoloesol fel y'u nodir gan y dystiolaeth gartograffig, wedi gadael eu hôl ar y ddaear ac maent wedi'u dynodi gan waliau sych.

Nodweddir yr ardal yn arbennig gan ffermydd ôl-ganoloesol sydd wedi goroesi. Maent yn cynnwys Nant Dyris Ycha, Blaenllechau, Tynewydd, Cefn-llechau-uchaf, Penyrheol, Llwyncelyn, Hafod Fach, Hafod Fawr, Hafod Ganol a Hafod Uchaf. Mae Nant Dyris Ycha (Nant Dyrys-uchaf), ty hir sydd wedi'i newid gryn dipyn, yn nodweddiadol o'r math o ffermdy a geid yn y Rhondda yn ystod yr 17eg ganrif a'r 18fed ganrif, sef y ty hir, lle y bu'r ffermwr, ei deulu, gweithwyr fferm a da byw yn byw yn draddodiadol o dan un to. Roedd yr adeiladau hyn fel arfer wedi'u trefnu ar ongl sgwâr i lethr y bryn, a chynhwysent feudy yn y lefel isaf, ac ystafelloedd byw yn y lefel uchaf yn aml gydag aelwyd ganolog rhwng mynedfa gyffredin, trwy'r beudy fel arfer, a rennid gan yr ystafelloedd. Mae Blaenllechau yn dy hir tair uned a chanddo gyntedd, ystafell fewnol wedi'i gwresogi a beudy â chyntedd uchel, yn dyddio o ddechrau'r 17eg ganrif, a newidiwyd ym 1761 (grwp yr aelwyd-gyntedd: yn cynnwys cyntedd uchel, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru). Mae Hafod Fach yn amrywiad ar y math hwn o ffermdy rhanbarthol a oedd yn gyffredin ar un adeg, a nodweddir gan fynedfa uniongyrchol yng nghanol y ty a'r ffaith nad oes unrhyw simnai ganolog (y grwp mynedfa uniongyrchol: ty â simnai yn y pen, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru). Mae'r ffermdy yng Nghefn-llechau-uchaf yn eithriad, am ei fod yn fath amrywiol o dy. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys adeiladau amaethyddol cyfoes, e.e. yr ysgubor â 4 cowlas ym Mlaenllechau sy'n dyddio o'r 18fed ganrif; a'r ysgubor â 4 cowlas sydd â chowlas ychwanegol yn ffurfio sied droliau, a'r beudy yn Hafod Fawr.

Dengys argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO (1884, a fapiwyd ym 1875) fân ddatblygiadau diwydiannol, lefelau glo a lefelau prawf yn bennaf, tra nodweddir y dirwedd gan mwyaf gan glytwaith o gaeau afreolaidd bach a chanolig eu maint. Nid oes fawr ddim newid wedi bod yn y caeau hyn ers y Map degwm cynharach o Blwyf Llanwynno (1841), ac roedd y llethrau isaf, mwy serth at ei gilydd wedi'u gorchuddio â phrysgwydd trwchus. Nodir rhywfaint o weithgarwch cloddio ar 2il argraffiad map yr AO a gyhoeddwyd ym 1900, yn ogystal â lefelau helaeth y National Colliery, Wattstown a'i dramffordd/inclein. Erbyn cyhoeddi'r 3ydd argraffiad roedd chwareli a thramffordd/inclein linellol sylweddol arall yn eu lle uwchlaw Ynys-hir.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk