Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


036 Cilelái a Rhiwgarn


HLCA 036 Cilelái a Rhiwgarn
Tirwedd amaethyddol greiriol; ffiniau amlwg; tresmasu canoloesol; anheddu canoloesol posibl a nodweddion amaethyddol cysylltiedig.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA036)

Lloc ôl-ganoloesol islaw fferm Cilely.

Cefndir Hanesyddol

Lleolir ardal tirwedd hanesyddol Cilelái a Rhiwgarn at ei gilydd y tu allan i Dirwedd Hanesyddol Arbennig y Rhondda ac mae'n cynnwys ardal o ucheldir amgaeëdig ar lethrau gorllewinol Mynydd-y-Glyn. Canolbwynt yr ardal yw fferm wag Rhiwgarn, a cheir caeau afreolaidd bach creiriol fwy neu lai o bobtu iddi, sy'n cynrychioli ardal y tresmaswyd arni yn ystod y cyfnod canoloesol neu ar ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae'n debyg bod yr ardal yn rhan anghysbell o safle'r anheddiad canoloesol posibl a leolir ymhellach i'r de, y tu allan i Dirwedd Hanesyddol Arbennig y Rhondda yn ST 0259 8973.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk