Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


024 Rhondda Fach:
Ochrau Caeëdig Gorllewinol y Cwm


HLCA 024 Rhondda Fach: Ochrau Caeëdig Gorllewinol y Cwm
Tirwedd angladdol cynhanesyddol; tirwedd amaethyddol greiriol a addaswyd i raddau gan ddatblygiadau diwydiannol; ffiniau caeau amlwg; tystiolaeth a ddogfennwyd o arferion amaethyddol ac anheddu canoloesol/ôl-ganoloesol; anheddu ucheldirol canoloesol; ffermdai ucheldirol ôl-ganoloesol (tai hirion); tirwedd ddiwydiannol yn gysylltiedig ac echdynnu mwynau, glo yn bennaf; coetir hynafol a choedwigaeth fodern.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA024)

Llethrau caeëdig Mynydd Ty'n-tyle, golygfa o'r dwyrain.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol y Rhondda Fach: Ochrau Caeëdig Gorllewinol y Cwm yn cynnwys nodweddion a darganfyddiadau yn dyddio o'r Oes Efydd (2300-800CC), henebion angladdol fel arfer, megis y crug crwn/carnedd(au) ar Darren Maerdy a bwyell efydd a ddarganfuwyd gerllaw. Mae nifer o nodweddion aneddiadau canoloesol hefyd wedi goroesi yn yr ardal, megis safleoedd tai llwyfan nodweddiadol Twyn Disgwylfa a Chraig Rhondda-fach. Mae'r Map degwm (Ystradyfodwg 1844) yn nodi nifer o enwau caeau Coedcae, sy'n arwydd o weithgarwch clirio coetir ar raddfa fawr yn y cyfnod ôl-ganoloesol, neu o leiaf fod cyrion y coetir yn cael eu cau a'u defnyddio yn ystod y cyfnod hwn.

Dengys argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO (1884, a fapiwyd ym 1875) yr ardal heb unrhyw ddatblygiadau diwydiannol, fel yr ymddengys fwy neu lai ar y Map degwm cynharach o Blwyf Ystradyfodwg (1844). Yn ystod y cyfnod hwn nodweddir y dirwedd gan gymysgedd o borfeydd mynydd garw a'r llethrau isaf mwy serth i'r de-ddwyrain o'r ardal sydd wedi'u gorchuddio â phrysgwydd. Y ddwy brif ardal goediog yw Coed Cynllwyn (uwchlaw'r ardal a ddatblygwyd yn ddiweddarach fel Tylorstown), Coed Maerdy, a Choed Rhondda-fach (uwchlaw Llyn y Forwyn, Glynrhedynog). Perthynai parseli o dir pori wedi'i wella amgaeëdig a oedd wedi'u canoli o amgylch ffermydd y Maerdy, Rhondda Fach a Dyffryn (Sarfwch) i wahanol ystadau, ac yn bennaf cynhwysent gaeau afreolaidd bach a chanolig eu maint; erbyn hyn mae'r caeau hyn at ei gilydd wedi'u lleoli y tu allan i'r HLCA bresennol, wedi'u llyncu gan ddatblygiadau trefol a diwydiannol yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif.

Chwareli yw nodweddion diwydiannol amlycaf yr ardal. Fe'u dangosir ar 2il argraffiad map yr AO dyddiedig 1900 ac roeddynt yn gysylltiedig â'r gwaith a wnaed wrth adeiladu aneddiadau diwydiannol Glynrhedynog, y Maerdy a Tylorstown gerllaw.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk