Dolenni Addysgol
Mudiad annibynnol yw Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed sy'n ymroddedig i amddiffyn, archwilio, cofnodi a hyrwyddo'r amgylchedd hanesyddol. Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed sy'n cydlynu Arfordir ar hyd arfordir Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion. www.dyfedarchaeology.org.uk
Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ym 1974 yn elusen addysgiadol i hysbysu'r cyhoedd am faterion archaeolegol, i ymateb i'r bygythiadau cynyddol i archaeoleg yr ardal, ac i addysgu yn yr ystyr ehangaf. Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn cydlynu Arfordir yn rhan ogleddol Bae Ceredigion, Llŷn ac arfordir Sir Fôn. www.heneb.co.uk
Archwilio yw'r system mynediad ar-lein i Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol (HER) Cymru. Datblygwyd y system trwy bartneriaeth rhwng y pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru er mwyn galluogi rhagor o'r cyhoedd i fedru defnyddio'r adnodd gwerthfawr hwn. www.archwilio.org.uk
Cadw sy'n gyfrifol am ddiogelu amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae hynny'n cynnwys adeiladau hanesyddol, henebion, parciau, gerddi a thirweddau hanesyddol, ac archaeoleg danddwr. Yn adain o Lywodraeth y Cynulliad, maent yn warcheidwaid ar filoedd o safleoedd ar draws y wlad, gan ddarparu mynediad iddynt a hyrwyddo dysgu a chysylltiadau cymunedol. www.cadw.wales.gov.uk
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw'r corff ymchwilio a'r archif genedlaethol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. Y Comisiwn sy'n bennaf gyfrifol am sicrhau bod treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru yn cael ei chofnodi'n awdurdodol a'i deall yn iawn, gan geisio hyrwyddo gwerthfawrogiad o'r dreftadaeth hon yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. http://www.rcahmw.gov.uk
Coflein yw cronfa ddata ar lein Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (NMRW) a gedwir gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae Coflein yn galluogi pobl i gyrchu manylion miloedd lawer o safleoedd archaeolegol, cofebion, adeiladau a safleoedd arforol yng Nghymru. www.coflein.gov.uk
Mae prosiect Shorewatch yn dod ag unigolion a grwpiau o gymunedau lleol at ei gilydd er mwyn arbed gwybodaeth am safleoedd archaeolegol gwerthfawr yn yr Alban cyn iddynt gael eu colli i erydiad. www.shorewatch.co.uk
Nod y Thames Discovery Programme Programme' yw cyfleu dealltwriaeth a mwynhad gwybodus o hanes afon Tafwys i gynulleidfa mor eang â phosib. Caiff y prosiect uchelgeisiol hwn ei letya gan Bartneriaeth Aber Tafwys, yn Athrofa Amgylcheddol UCL, a'r 'Thames Explorer Trust' gyda chymorth hael Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae'r partneriaid eraill yn cynnwys Amgueddfa Llundain, English Heritage ac Athrofa Archaeolegol UCL. www.thamesdiscovery.org
Comisiynwyd arolwg asesu'r Severn Estuary Rapid Coastal Zone gan English Heritage ac mae'n edrych yn bennaf ar barth rhynglanwol Aber Hafren o Gore Point, Bae Porlock i Ddinas Caerloyw. Mae'r gwaith prosiect yn cael ei wneud gan staff Cyngor Swydd Gaerloyw a Chyngor Gwlad yr Haf. www.gloucestershire.gov.uk
Cynllun gwirfoddol yw'r Cynllun Henebion Cludadwy sy'n cofnodi gwrthrychau archaeolegol sy'n cael eu darganfod gan aelodau o'r cyhoedd yng Nghymru a Lloegr. Bob blwyddyn darganfyddir miloedd o wrthrychau, llawer ohonynt gan ddefnyddwyr darganfyddion metel, ond hefyd gan bobl sydd allan yn cerdded, yn garddio neu'n cyflawni eu gwaith beunyddiol. Mae darganfyddiadau o'r fath yn ffynhonnell bwysig o ran deall ein gorffennol. www.finds.org.uk
Mae'rGymdeithas Archaeoleg Forol yn gorff anllywodraethol a ffurfiwyd i hybu diddordeb yn ein treftadaeth ddiwylliannol danddwr. Ei nod yw diogelu ein treftadaeth archaeolegol yn yr amgylchedd morol, gan weithredu fel ffocws ar gyfer ein harchaeoleg arfordirol a morol. www.nasportsmouth.org.uk