Treftadaeth Arfordirol

flickr

Beth am ymuno â'r grŵp 'Arfordir' ar Flickr

Dilynwch ni:

Beth am adael sylw ar blog Arfordir

Croeso i'r wefan Treftadaeth Arfordirol

Nod y prosiect 'Arfordir' yw cofnodi, deall a monitro newidiadau i dreftadaeth arfordirol Cymru.

Bydd grwpiau o wirfoddolwyr lleol yn dod ynghyd, a chyda chefnogaeth gan archaeolegwyr proffesiynol, byddant yn adnabod ac yn cofnodi safleoedd archaeolegol ar hyd yr arfordir, ac yn arbennig felly unrhyw newidiadau a welir yn digwydd iddynt.

Bu'r arfordir a'r môr yn bwysig i bobl Cymru erioed, a chawsant ddylanwad mawr ar y dirwedd, agweddau pobl, eu bywoliaeth a'u hunaniaeth. Adlewyrchir hyn yn y cyfoeth o safleoedd archaeolegol yn yr ardal arfordirol, ond mae llawer o'r safleoedd hyn mewn perygl yn sgil erydiad arfordirol, newid yn lefel y môr a bygythiadau eraill.

Cynnwys y Cyhoedd

Mae'r tudalennau hyn ar y we wedi'u creu er mwyn rhoi gwybodaeth i chi am Brosiect Treftadaeth Arfordirol Arfordir. Ein nod yw cynnwys elfen gref o archaeoleg gyhoeddus yn y prosiect, a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau hynny. Bydd gwirfoddolwyr sy'n gweithio ar y prosiect yn cael cyfle i'w lleisiau gael eu clywed mewn gwahanol ddulliau- testun neu weledol