Adnoddau
Wedi i chi benderfynu ar yr ardal y byddwch yn canolbwyntio arni, byddwch yn derbyn copïau o ddata'r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol gan gydlynydd Arfordir, ond byddwch hefyd yn gallu defnyddio'r safle newydd Archwilio porth sy'n eich galluogi i ddefnyddio Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol y pedair ymddiriedolaeth archaeolegol yng Nghymru. Ewch i Archwilio
Bydd cydlynydd Arfordir yn gallu darparu popeth y mae ei angen arnoch ar y dechrau yn eich pecynnau gwybodaeth a chofnodi, ond os bydd angen copïau ychwanegol o unrhyw beth arnoch, ffurflenni cofnodi er enghraifft, gallwch eu lawrlwytho isod.