Treftadaeth Arfordirol

Cymerwch ran

Beth am adael sylw ar blog Arfordir

Beth am ymuno â'r grŵp 'Arfordir' ar Flickr

Cymerwch ran – Mae ar 'Arfordir' eich Angen Chi!

Mae angen gwirfoddolwyr ar y prosiect Arfordir i gymryd rhan yn y gwaith o ofalu am dreftadaeth arfordirol eu hardal, i ddysgu am yr archaeoleg, sut i adnabod safleoedd newydd a chofnodi'r newidiadau sy'n digwydd iddynt.

Mae'r arfordir yn amgylchedd sy'n newid yn barhaus, a'r bobl sydd yno amlaf, sy'n ei adnabod orau, yw'r rhai gorau i fedru gweld y newidiadau.

Rhoddir hyfforddiant, cymorth a chyngor i wirfoddolwyr, a fydd yn gweithio ochr yn ochr ag archaeolegwyr proffesiynol. Byddant yn derbyn y sgiliau a'r offer sydd eu hangen arnynt i gymryd rôl weithgar yn y gwaith o gofnodi safleoedd archaeolegol.

Rydym yn chwilio am bobl sy'n byw'n agos at yr arfordir neu sy'n ymweld yn gyson ac sy'n dymuno ein cynorthwyo i gael gwybod rhagor am dreftadaeth arfordirol Cymru. Dim ond awr neu ddwy fydd eu hangen yn awr ac yn y man, a'r gallu i ymweld â lle sawl tro er mwyn cofnodi newidiadau i gyflwr safle.

Byddwch yn derbyn hyfforddiant, pecynnau gwybodaeth a rhywfaint o offer i'w fenthyg, yn ogystal â chymorth a chyngor gan bobl broffesiynol. Bydd yr holl wybodaeth a ddaw o'r prosiect yn ein cynorthwyo ni i ychwanegu at ein dealltwriaeth o'r darlun mawr; beth yw ein treftadaeth arfordirol, a sut y mae'n newid.

Trefnir y prosiect gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent, dan nawdd Cadw. Mae

Ymddiriedolaeth Archaeolegol ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn rhedeg prosiectau cyfatebol ar hyd arfordiroedd de orllewin a gogledd orllewin Cymru.

Os hoffech chi gymryd rhan, neu os ydych yn perthyn i grŵp neu gymdeithas a hoffai fod yn rhan o'r prosiect, cysylltwch â ni, rydym bob amser yn hapus i gael sgwrs.

Cyn hir trefnir nifer o weithgareddau a digwyddiadau hyfforddi, a byddant yn cael eu rhoi ar y wefan. Byddant ar gael am ddim ond dylid cadw lle ymlaen llaw. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalen Cysylltu â Ni