Treftadaeth Arfordirol

Eleni yr ardal dan sylw fydd arfordir Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe mor bell i'r dwyrain ag aber afon Tawe. Bydd y safleoedd dan sylw yn cynnwys safleoedd rhynglanwol ar dywod a mwd y blaendraeth, yn ogystal â safleoedd sydd o ryw fymryn yn fewndirol ond sy'n dal mewn perygl yn sgil erydiad arfordirol a bygythiadau eraill.

Y Prosiect

Mae'r arfordir yn amgylchedd dynamig sy'n newid yn barhaus o ganlyniad i effeithiau erydiad, defnydd o dir a newid yn yr hinsawdd, sydd yn eu tro yn gallu datgelu neu guddio safleoedd o ddiddordeb archaeolegol, ond sydd hefyd yn gallu eu niweidio a hyd yn oed eu dinistrio. Gall llongddrylliadau a gladdwyd yn y tywod gael eu datgelu o ganlyniad i storm arw yn y gaeaf, gall erydu twyni tywod a chlogwyni ddatgelu strwythurau sydd wedi'u claddu, neu hyd yn oed aneddiadau cyfan, neu gladdedigaethau, ac mae'r holl weithredoedd hyn, yn ogystal â'r ffaith bod lefel y môr yn codi a chynnydd yn y perygl o dywydd eithafol yn medru achosi difrod i safleoedd rydym yn gwybod amdanynt, a hefyd i'r rhai newydd rydym yn gobeithio eu darganfod.

Mae'r newid parhaus hwn yn un sydd â goblygiadau mawr i'r amgylchedd hanesyddol a'r dreftadaeth arfordirol, ac mae'r prosiect hwn yn ymdrin â natur ddynamig yr arfordir; ei nod yw monitro cyflwr ac effaith erydiad ar dreftadaeth arfordirol yr ardal, a chynnwys y gymuned leol yn y gwaith.

Y bobl sy'n adnabod yr arfordir orau yw'r rhai sydd yno amlaf. Bydd trigolion lleol ac ymwelwyr cyson yn gweld newidiadau yn well na rhywun nad yw'n ymweld ond bob rhyw flwyddyn neu ddwy.

Nod y prosiect yw recriwtio gwirfoddolwyr lleol a'u dwyn at ei gilydd i gofnodi a monitro treftadaeth arfordirol eu hardal. Byddant yn derbyn hyfforddiant a chymorth gan archaeolegwyr proffesiynol, a fydd yn eu mentora, gan gynnig hyfforddiant a chyngor yn ogystal.

Wedi i'r gwirfoddolwyr ddysgu sut i adnabod a chofnodi safleoedd, byddant yn derbyn ffurflenni ac offer cofnodi, er mwyn gallu dychwelyd eu canlyniadau i gydlynydd Arfordir, i'w cynnwys yn y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol. Nod y prosiect yw addasu i amodau ac anghenion cyfnewidiol dros amser, ac wrth i'r hyn y mae safle yn ei wynebu gael ei amlygu, gellir ymgymryd â gwahanol strategaethau, arolwg llawn neu gloddiad prawf o bosib.

Bydd yr holl wybodaeth a gynhyrchir gan y prosiect yn ychwanegu at ein gwybodaeth am arfordir yr ardal, gan ein cynorthwyo ni i ddatblygu darlun llawn o dreftadaeth arfordirol Cymru.