Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


073 Mynydd Aberdâr


HLCA 073 Mynydd Aberdâr Tir pori ucheldirol amgaeëdig; caeau rheolaidd wedi'u rhannu gan ffensys pyst a gwifrau; tirwedd grefyddol, angladdol a defodol.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 

(Foto : GGAT Merthyr 073)

Ardal gymeriad Mynydd Aberdâr: tirwedd o ucheldir amgaeëdig.

Crynodeb

Tirwedd ucheldirol amgaeëdig a nodweddir gan henebion angladdol yn dyddio o'r Oes Efydd a mastiau cyfathrebu modern.

Cefndir Hanesyddol

Lleolir ardal dirwedd hanesyddol Mynydd Aberdâr ar gwr gogledd-orllewinol Tirwedd Hanesyddol Merthyr Tudful, lle y mae'n codi i esgair Mynydd Aberdâr. Er bod y rhan fwyaf o'r ardal yn dir agored, mae'n amlygu patrwm amrywiol a chymhleth o ran y defnydd a wnaed o'r tir yn y gorffennol. Ar hyd y copa ceir cyfres o Garneddau yn dyddio o'r Oes Efydd, ond nid oes unrhyw dystiolaeth o weithgarwch cynnar. Ar ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, roedd rhan helaeth o'r llethrau is wedi'i hamgáu, ac mae rhannau o'r maeslun a ddeilliodd o hynny wedi goroesi, yn arbennig i'r gogledd o'r A465.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk