Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


071 Upper Collier's Row


HLCA 071 Upper Collier's Row Anheddiad diwydiannol o bwys cenedlaethol: rhes unigol o dai diwydiannol cynnar a chaeau cysylltiedig.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 

(Foto : GGAT Merthyr 071)

Ardal gymeriad Upper Collier's Row: anheddiad bach o dai diwydiannol cynnar sydd mewn cyflwr da.

Crynodeb

Anheddiad bach ond o bwys cenedlaethol sy'n cynnwys tai diwydiannol (rhestredig Gradd II) a chaeau/rhandiroedd cysylltiedig yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif hyd ddechrau'r 19eg ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Upper Colliers' Row yn enghraifft gymharol brin a diddorol o anheddiad gweithwyr diwydiannol yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif/dechrau'r 19eg ganrif. Prif nodwedd yr anheddiad, a ddangosir ar luniau tirfesurwyr dyddiedig 1814 a 1826, ac a nodir ar fapiau 6 modfedd yr AO a gyhoeddwyd ar ôl hynny (1875-1915), yw rhes unigol o fythynnod glowyr a chanddynt un ystafell ar y llawr gwaelod ac un ystafell uwch ei phen, yr ychwanegwyd to 'sleid cathod' atynt yn y cefn, yr ehangwyd y mwyafrif ohonynt trwy greu un bwthyn o ddau. Mae gan y rhes gyrn simnai cerrig sylweddol ac mae wedi cadw llawer o'i chymeriad sy'n perthyn i'r 19eg ganrif gyda mân newidiadau a wnaed yn yr 20fed ganrif; Rhif 8 yn arbennig. Darparai'r rhes, rhan o Ystâd Dynevor yn ystod y 19eg ganrif, lety ar gyfer glowyr a weithiai ym mwyngloddiau Cyfarthfa ac roedd mewn lleoliad cyfleus gerllaw basn Camlas Cyfarthfa yn Llwyncelyn a Thramffordd Cyfarthfa (a Rheilffordd Pwll Cwm ar ôl hynny). Mae'r tai diwydiannol yn gysylltiedig â chaeau neu randiroedd afreolaidd eu siâp mewn ardal gyfagos i'r de sydd ar wahân.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk