Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


070 Cwm Glo: Coridor Tramffyrdd, Platffyrdd ac Incleins


HLCA 070 Cwm Glo: Coridor Tramffyrdd, Platffyrdd ac Incleins Tirwedd ddiwydiannol o bwys cenedlaethol yn gysylltiedig â Gwaith Haearn Cyfarthfa; coridor trafnidiaeth ddiwydiannol: coridor tramffyrdd, platffyrdd ac incleins; tirwedd gloddiol ddiwydiannol o byllau, siafftiau a lefelydd yn Nyffryn Cwm Glo ac ar hyd Nant Llwyn-yr-Eos; nodweddion rheoli dwr a draenio diwydiannol; anheddiad diwydiannol ac amaethyddol creiriol.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 

(Foto : GGAT Merthyr 070)

Ardal gymeriad Cwm Glo: Coridor Tramffyrdd, Platffyrdd ac Incleins: rhwydwaith helaeth o incleins a lonydd.

Crynodeb

Coridor trafnidiaeth, yn cynnwys rhwydwaith helaeth o incleins a lonydd sy'n cysylltu â'r coridor rheilffyrdd, tramffyrdd a chamlesi. Nodweddir yr ardal hefyd gan nodweddion cloddiol diwydiannol, lefelydd, siafftiau, cloddfeydd a thomenni gwastraff, ynghyd â nodweddion rheoli dŵr. Mae'n ffurfio tirwedd ddiwydiannol o bwys cenedlaethol sy'n gysylltiedig â Gwaith Haearn Cyfarthfa.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Cwm Glo: Coridor Tramffyrdd, Platffyrdd ac Incleins yn cynnwys rhwydwaith o incleins, platffyrdd a thramffyrdd sy'n cysylltu'r gweithfeydd cloddio a'r tomenni helaeth yn Nyffryn Cwm Glo ac ar hyd y llethrau islaw Blaen-canaid â'r coridor rheilffyrdd, tramffyrdd a chamlesi (HLCA 014) i'r dwyrain. Sefydlwyd rhwydwaith trafnidiaeth yr ardal rywbryd cyn 1814, fel y nodir ar luniau Tirfesurwr dyddiedig 1814,a 1826. Darperir mwy o fanylion am y rhwydwaith yn ystod y cyfnod hwn gan argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1875, sy'n nodi yn arbennig y brif dramffordd yn rhedeg o'r gogledd i'r de o Waith Haearn Cyfarthfa trwy byllau glo Coedcae a Chwm-glo i'r chwareli a'r lefel yn Upper Black Pins Level (de), a'r inclein yn rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin o Gwm Glo-Upper Wern i Reilffordd Pwll Glo Cwm. Ar ben hynny dengys map 1875 rwydwaith o dramffyrdd neu ffyrdd halio eilradd yn rhedeg o'r gogledd i'r de gan ddisgyn yn raddol islaw Blaen-canaid, gallai'r nodweddion hyn, na ddangosir fod ganddynt gledrau ym 1875, ddyddio o ddechrau'r 19eg ganrif neu ddiwedd y 18fed ganrif ac ymddengys eu bod yn gysylltiedig â gweithfeydd cloddio cynnar, lefelydd yn bennaf. Y prif ddatblygiadau o ran y rhwydwaith trafnidiaeth ddiwydiannol yn ystod y cyfnod 1875-1898 oedd y penderfyniad i roi'r gorau i ddefnyddio Inclein Cwm-glo pan gaeodd Pwll Glo Cwm-glo, a'r gwaith a wnaed i ddatblygu'r system tramffyrdd ac incleins a wasanaethai Fwynglawdd Drifft Cwmdu. Roedd yr olaf wedi'i gysylltu â Rheilffordd Pwll Glo Cwm, ychydig i'r gogledd o Lower Colliers Row (a fodolai ei hun ym 1875).

Yn ôl tystiolaeth gartograffig, roedd y brif ardal o weithfeydd cloddio cynnar (cyn 1814) ar hyd ochr ddeheuol Dyffryn Cwm-glo wedi'i chanoli ar Gwm-glo-fach, neu'r ardal rhwng Pwll Glo Cwm-glo a Phen-y-coedcae. Dibynnai'r diwydiant cloddio cynnar yn fawr ar weithfeydd cloddio ar yr wyneb a ddefnyddiai gymysgedd o weithgarwch stripio lleiniau, cloddfeydd bas, a lefelydd wedi'u gyrru i mewn i'r llethrau.

Dechreuodd pyllau dwfn yr ardal, megis Pwll Cwm-glo (Pwll Robbins) a Choedcae, gael eu cloddio yn ystod y 1820au a'r 1830au, sef blynyddoedd ffyniannus gweithgarwch cloddio mwyn haearn a glo. Darparai system cydbwyso dwr y prif ddull halio o fewn siafftiau'r cyfnod; mae'n debyg bod nifer o'r cronfeydd dwr yn yr ardal astudiaeth yn nodweddion creiriol sy'n gysylltiedig â'r system hon. Cynhwysai'r rhain Gronfa Ddw r Coedcae a'r ffrwd arllwys, Cronfa Ddwr Gyflenwi Upper Wern, a Chronfa Ddŵr Lower Colliers. Parhawyd i gloddio haearnfaen a glo yn arbennig trwy gydol y 19eg ganrif, gyda lefel y gweithgarwch cloddio yn amrywio yn ôl y galw economaidd. Erbyn diwedd y 1920au, roedd yr ardal at ei gilydd yn wag er yr ymddengys fod cyfnod byr o weithgarwch cloddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Roedd nodweddion anheddu'r ardal, megis y ffermydd amaethyddol/diwydiannol Pen-y-Coedcae a Phencae a rhes ddiwydiannol Lower Colliers' Row a'i rhandiroedd cysylltiedig i gyd yn eu lle erbyn 1814.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk