Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


056 Yr A465(C) Ffordd Blaenau'r Cymoedd


HLCA 056 Yr A465(C) Ffordd Blaenau'r Cymoedd Coridor trafnidiaeth; ffordd a phontydd a adeiladwyd yng nghanol yr 20fed ganrif.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 

(Foto : GGAT Merthyr 056)

Ardal gymeriad Yr A465 (C) Ffordd Blaenau'r Cymoedd: llwybr ffordd brifwythiennol yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif.

Crynodeb

Coridor trafnidiaeth yn cynnwys enghreifftiau pwysig o waith cynllunio pontydd yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol yr A465(C) Ffordd Blaenau'r Cymoedd yn cynnwys y cysylltiad ffordd a adeiladwyd ym 1964. Mae nodweddion pwysig yn cynnwys y tair pont ffordd gyfoes sy'n cario Ffordd yr A465(C) dros afonydd a nentydd, y newidiwyd un ohonynt ers hynny. Adeiladwyd y pontydd ffordd hyn gan Rendel, Palmer a Tritton (Penseiri ymgynghorol Alex Gordon a'i Bartneriaid), o goncrid dur yn ôl cynlluniau gwahanol, dwy â phâr o asennau bwaog parabolig ac un â thri bwa ar gantilifrau o ddau biler. Enillodd y pontydd hyn wobrau dinesig ym 1968.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk