Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


053 Y Graig, Y Gurnos


HLCA 053 Y Graig, Y Gurnos Ardal agored fach o goetir prysglog a thir pori; rhwydwaith o lonydd.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 

(Foto : GGAT Merthyr 053)

Ardal gymeriad Y Graig, Y Gurnos: tirwedd agored o dir pori a choetir prysglog.

Crynodeb

Tirwedd agored greiriol fach o dir pori a choetir prysglog, a arferai fod yn rhan o Fferm y Gurnos.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Y Graig, y Gurnos yn cynnwys darn o dir sydd wedi goroesi a gysylltir â Fferm y Gurnos i'r de o Ffordd Blaenau'r Cymoedd. Fe'i dangosir fel planhigfa o goed ffynidwydd a chaeau eraill ar fap degwm 1850, rhan o ystâd David Edwards, a brydleswyd i William Crawshay (gweler HLCA 052). Dengys tystiolaeth gartograffig (1875) fod yr ardal yn cynnwys rhwydwaith o lonydd yn arwain i Ddyffryn Taf Fechan a Chwarel a gwaith calch y Gurnos (gweler HLCA 012), a nifer fach o fân nodweddion cloddiol, a all fod yn byllau gro.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk