Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


051 Chwarel Vaynor


HLCA 051 Chwarel Vaynor Tirwedd gloddiol fodern: chwarel gerrig weithredol fawr; safle tramffordd ddiwydiannol, odynau calch; crefyddol, angladdol a defodol: safle carreg arysgrifedig Rufeinig.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 

(Foto : GGAT Merthyr 051)

Ardal gymeriad Chwarel Vaynor: chwarel gerrig weithredol fawr.

Crynodeb

Chwarel gerrig weithredol fawr, a arferai gynnwys odynau calch a thramffordd ddiwydiannol yn dyddio o ddechrau'r 20fed ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Chwarel Vaynor yn cynnwys chwarel gerrig weithredol, a sefydlwyd yn ystod y 1870au i ddarparu calchfaen ar gyfer Gwaith Haearn Cyfartha a oedd yn eiddo i Crawshay. Mae'r gwaith presennol wedi ehangu'n gyflym ers cael ei ailagor o dan AW Lewis, ac erbyn hyn mae'r ardal yn cynnwys casgliad o adeiladau a strwythurau chwarel modern, megis cludyddion a hopranau.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk