Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


048 Cwm Blacks


HLCA 048 Cwm Blacks Ardal adferedig o weithfeydd cloddio glo yn dyddio o'r 19eg; man gwyrdd trefol; coridor trafnidiaeth modern.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

(Foto : GGAT Merthyr 048)

Ardal gymeriad Cwm Blacks: ardal adferedig o weithfeydd cloddio glo helaeth yn dyddio o'r 19eg ganrif.

Crynodeb

Ardal adferedig o weithfeydd glo helaeth yn dyddio o'r 19eg ganrif a gysylltir â Gwaith Haearn Plymouth. Mae'r ardal yn gweithredu ar hyn o bryd fel coridor trafnidiaeth ar gyfer yr A4060(C).

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Cwm Blacks yn cynnwys ardal adferedig o weithfeydd haearnfaen a glo helaeth yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif/dechrau'r 19eg ganrif a gysylltir ag Anthony Hill a Chwmni Haearn Plymouth.

Dangosai tystiolaeth gartograffig ddyddiedig 1813 fod Mwyngloddiau Haearn wedi'u lleoli ychydig i'r gogledd yn ardal Cwm Blacks/Pencoedcae. Erbyn 1826, roedd rhwydwaith o dramffyrdd ac incleins, gan gynnwys prif System Incleins Clyn Mil/Coedcae, wedi'i sefydlu ledled yr ardal a gysylltai Waith Haearn Plymouth â gwahanol weithfeydd yn yr ardal a'r tu hwnt; cynhwysai'r rhain lefelydd haearnfaen a gweithfeydd stripio lleiniau yng Nghwm Blacks. Roedd yr ardal yn rhan o ddaliad Clyn-Mil o eiddo ystad Robert Henry Clive, a brydleswyd i Anthony Hill ym 1850.

Roedd yr ardal wedi'i chloddio ar raddfa fawr erbyn cyhoeddi map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1875, a ddangosai lefelydd haearnfaen a glo, o leiaf un siafft, gwahanol domenni 'clustog' a llinellol bach, a chronfeydd dwr a ffrydiau wedi'u trefnu ar hyd glan ddwyreiniol Nant Cwm Blacks. Nodwyd Inclein Clyn Mil a gwahanol dramffyrdd yn cysylltu gweithfeydd haearnfaen/glo'r ardal a Gwaith Haearn Plymouth ym 1875 hefyd; gallai tramffyrdd niferus eraill a nodwyd, awgrymu yr arferai rhwydwaith llawer helaethach o dramffyrdd a ffyrdd halio wasanaethu'r ardal. Dangosai'r dystiolaeth gartograffig fod gweithgarwch cloddio bron wedi dod i ben yn yr ardal rhwng 1875 a 1898, pan gaeodd Gwaith Haearn Plymouth ym 1880 yn ôl pob tebyg. Adferwyd yr ardal ar ôl hynny ac adeiladwyd ffyrdd trwyddi yn ystod chwarter olaf yr 20fed ganrif.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk