Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


047 Dowlais Top


HLCA 047 Dowlais Top Ardal ddiwydiannol adferedig, ardal a ailddatblygwyd yn ddiweddar i'w defnyddio at ddibenion masnachol, adwerthol a diwydiannol ysgafn, safle tirwedd gloddiol ddiwydiannol: chwareli a thomenni sbwriel, coridor rheilffyrdd: Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr Tudful (gan gynnwys Gorsaf Dowlais Top) a chilffyrdd yn gysylltiedig Rheilffordd Cwmni Haearn Dowlais.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 

(Foto : GGAT Merthyr 047)

Ardal gymeriad Dowlais Top: tir diwydiannol adferedig a ailddatblygwyd i'w ddefnyddio at ddibenion masnachol, adwerthol a diwydiannol ysgafn.

Crynodeb

Ardal o dir diwydiannol a adferwyd yn bennaf, a ailddatblygwyd bellach i'w ddefnyddio at ddibenion masnachol, adwerthol a diwydiannol ysgafn.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Dowlais Top yn cynnwys cyn-dirweddau diwydiannol yn gysylltiedig â Gwaith Haearn Dowlais. Cynhwysai'r ardal i'r gogledd weithfeydd cloddio helaeth, a fodolai ym 1814 a 1826 ac a oedd wedi'u cysylltu â Dowlais a Dowlais Top gan ffordd halio neu dramffordd. Y gweithfeydd hyn, a ddarlunnir ar fapiau diweddarach fel chwareli â nifer fawr o domenni llinellol a chlustog, oedd olion mwyngloddiau cynharach ar yr wyneb neu weithfeydd stripio lleiniau, a lefelydd a weithid yn ôl pob tebyg o anheddiad Penygarnddu gerllaw (HLCA 035) a Dowlais Top. Byddai'r gweithfeydd, yn debyg i'r rhai i'r de (Ffos-y-fran HLCA 039) wedi bod yn segur i raddau helaeth erbyn y 1860au, a chadarnheir hynny gan y ffaith yr ymddengys na ddarlunnir unrhyw dramffyrdd cledrog cysylltiedig ar fapiau 6 modfedd yr AO dyddiedig 1875. Âi llwybrau rheilffyrdd a thramffyrdd trwy'r ardal: sef Tramffordd Twynau Gwynion ('Tramway' mewn tystiolaeth ddogfennol) ddyddiedig 1805 i Waith Haearn Dowlais, ar ôl hynny Rheilffordd Galchfaen Rhymni ddyddiedig tua 1864, a Rheilffordd B&M (Cangen Casnewydd) ddyddiedig tua 1860-1865, a agorwyd ym 1863. Roedd gan yr olaf orsaf yn Dowlais Top, a nodir ar argraffiad 1af, 2il argraffiad a 3ydd argraffiad mapiau 6 modfedd yr AO (1875-1915); mae'r orsaf hon yn dal i fodoli heddiw. Dangoswyd odyn yn yr ardal gerllaw Tramffordd Twynau Gwynion ym 1826, yr ymddengys ei bod yn dal i fodoli ym 1875 fel odyn galch gerllaw Rheilffordd Galchfaen Rhymni. Bodolai ffrydiau yn gysylltiedig â system Draenio Rhydd Dowlais (gweler ardal gyfagos 5) yn yr ardal ar un adeg hefyd.

Mae'r ardal i'r de yn cynnwys ardal o dir diwydiannol a adferwyd i'r de o Dowlais Top sy'n gyn-goridor rheilffordd yn bennaf a gysylltir â Rheilffordd Cwmni Haearn Dowlais, a arferai gynnwys llinellau a chilffyrdd yn yr ardal i'r gogledd-ddwyrain o fanc llenwi a ffwrneisi chwyth Gwaith Haearn Dowlais. Gwasanaethai'r llinellau Weithfeydd Dowlais ac Ivor a'u tomenni cysylltiedig, ac iard gols Dowlais. Nodweddir yr ardal heddiw gan dirwedd adloniadol yn cynnwys cyfleusterau chwaraeon, meysydd pêl-droed a hyd yn ddiweddar dirwedd fasnachol a ddarperid gan safle Bwyty MacDonalds a ddymchwelwyd yn ddiweddar, un o'r rhai cyntaf yn yr ardal.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk