Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


044 Chwareli Chastell Morlais


HLCA 044 Chwareli Castell Morlais Tirwedd gloddiol ddiwydiannol: chwareli calchfaen trawiadol mawr yn gysylltiedig â Gwaith Haearn Penydarren a Dowlais, yn gysylltiedig â choridor tramffyrdd.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

(Foto : GGAT Merthyr 044)

Ardal gymeriad Chwareli Castell Morlais: tirwedd helaeth o chwareli calchfaen.

Crynodeb

Tirwedd gloddiol ddiwydiannol yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif a nodweddir gan chwareli calchfaen a thomenni cysylltiedig, odyn galch, a'r tramffyrdd a gysylltai'r chwareli â Gweithfeydd Haearn Penydarren a Plymouth.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Chwareli Castell Morlais yn cynnwys tirwedd gloddiol ddramatig a phwysig yn seiliedig ar y chwareli a ddyddiai o ddechrau'r 19eg ganrif ac a gysylltir â Gweithfeydd Haearn Penydarren a Dowlais, ar dir a gymerwyd ar brydles gan Iarll Plymouth o 1763. Dengys prydlesau fod rhan o'r ardal wedi'i phrydlesu i Gwmni Haearn Dowlais (Isaac Wilkinson a John Guest) o 1763/65, tra dengys prydlesau dyddiedig 1810 a 1819 y cysylltiad a fu rhwng Cwmni Haearn Plymouth (y teulu Hill) a'r ardal.

Ym 1793, adeiladwyd Tramffordd Morlais yn gwasanaethu Gweithfeydd Haearn Penydarren, Dowlais a Plymouth (Goitre Lane). Dengys tystiolaeth gartograffig yn dyddio o 1814 a 1826 y gwaith calch i'r gorllewin o Gastell Morlais wedi'i gysylltu gan Dramffordd Morlais. Rhwng 1814 a 1826 cysylltai lôn yr ardal ddwyreiniol a gynhwysai'r chwareli â'r Pant a Gwaith Haearn Dowlais. Dangosai map a oedd wedi'i atodi i brydles ddyddiedig 1848 fod yr ardal i bob pwrpas yn ymrannu'n dair rhwng gweithfeydd haearn Dowlais i'r dwyrain, Penydarren i'r de-orllewin a Plymouth i'r gogledd-orllewin. Ar ben hynny nodai'r cynllun linell y Dramffordd i Chwareli Plymouth (Gwaith Duffryn) a Phenydarren (Goitre Lane) a Rheilffordd Dowlais. Dengys map degwm 1850 fod yr ardal gyfan yn eiddo i Robert Henry Clive a'i fod wedi'i phrydlesu i Gwmni Haearn Dowlais bryd hynny.

Mae mapiau'r AO dyddiedig 1875 hyd 1915 yn dilyn datblygiad diweddarach y chwareli, gan nodi'r modd y datblygodd gwahanol wynebau chwarel dros amser a'r systemau tramffyrdd cysylltiedig; mae nodweddion yn cynnwys gefeiliau gofaint ac odyn galch. Erbyn 1915 roedd y chwareli i'r gorllewin ac i'r gogledd yn segur, tra bod yr un i'r dwyrain wedi'i hymestyn i'r de-orllewin, ac at ei gilydd roedd wedi cadw ei system dramffyrdd.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk