Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


041 Tir Comin Merthyr Tudful, Gogledd


HLCA 041 Tir Comin Merthyr Tudful, Gogledd Tir comin, nodweddion rheoli dwr (System Draenio Rhydd Dowlais a Chorfforaeth Merthyr Tudful); tirwedd gloddiol ddiwydiannol ddinod.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 

 

(Foto : GGAT Merthyr 041)

Ardal gymeriad Tir Comin Merthyr Tudful, Gogledd: ardal o dir comin yn cynnwys nodweddion rheoli dwr diwydiannol.

Crynodeb

Ardal o dir comin yn cynnwys nodweddion rheoli dwr arferol, gan gynnwys rhan o System Draenio Rhydd Dowlais yn dyddio o'r 19eg ganrif sy'n gysylltiedig â Gwaith Haearn Dowlais a Gwaith Haearn Ivor a sefydlwyd yn ddiweddarach; mae elfennau unigol yn cynnwys y Saints Pond a'r Pitwellt Pond a nifer fawr o nodweddion cysylltiedig.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Tir Comin Merthyr Tudful Gogledd yn cynnwys ardal a arferai fod yn borfa fynydd agored, rhan o Dir Comin helaeth Merthyr Tudful i'r dwyrain o Chwareli Twynau-gwynion a'u rheilffordd galchfaen gysylltiedig. Mae nodweddion yr ardal yn ymestyn y tu hwnt i ffin ddwyreiniol Merthyr Tudful a'r dirwedd hanesyddol. Defnyddiwyd cefn deuddwr yr ardal a ddyrennir gan wahanol ddyfrffosydd naturiol megis Nantmorlais a Thorgwyn, ers hynny at ddibenion rheoli dwr: mae'r ardal yn cynnwys rhan fwyaf gogleddol System Draenio Rhydd Dowlais, system o gronfeydd dwr a ffrydiau, a ddatblygodd dros gyfnod o 70 o flynyddoedd i wasanaethu Gwaith Haearn Dowlais a'i weithfeydd cloddio cysylltiedig.

Mae'r ardal yn cynnwys Pitwellt Pond, a ddangosir ar fap degwm 1850, y gwyddom ei fod wedi'i gwblhau erbyn 1862. Y gronfa ddwr arall yn yr ardal yw Saints Pond, a oedd wedi'i ychwanegu erbyn 1891. Dangosir Pitweld (Pitwellt) Pond wedi'i ddraenio ac yn 'segur' ar fap AO 1919, ond nodir ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn dogfennau yn ymwneud â Gwaith Haearn Dowlais dyddiedig 1920.

Yn ogystal â'r nodweddion diwydiannol hyn, mae gan yr ardal gronfa ddwr a adeiladwyd gan Gorfforaeth Merthyr Tudful tua 1902 fel rhan o welliannau glanweithdra; mae nodweddion eraill yn cynnwys chwareli cerrig yn bennaf.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk