Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


040 Incline Top


HLCA 040 Incline Top Coridor trafnidiaeth, diwydiannol; anheddiad diwydiannol ar ben inclein,' tirwedd adferedig a nodweddid gynt gan nodweddion cloddiol diwydiannol a nodweddion rheoli dwr

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 

(Foto : GGAT Merthyr 040)

Ardal gymeriad Incline Top: llwybr Inclein Penydarren a Rheilffordd Dowlais.

Crynodeb

Coridor trafnidiaeth ddiwydiannol pwysig, a nodweddir gan lwybr Inclein Penydarren a Rheilffordd Dowlais. Mae ffyrdd newydd yn yr ardal sy'n gwasanaethu ystadau diwydiannol yr ardal yn bennaf yn parhau nodweddion y coridor trafnidiaeth. Mae anheddiad Incline Top yn cynnwys tai diwydiannol cynnar yn ogystal â'r ystad ddiwydiannol ddiweddar sy'n fwy amlwg erbyn hyn.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Incline Top yn cynnwys coridor trafnidiaeth ddiwydiannol, a gysylltir â Gweithfeydd Haearn Penydarren a Dowlais. Dengys tystiolaeth gartograffig fod rhwydwaith o lonydd, platffyrdd a neu dramffyrdd yn bodoli erbyn 1814, ac fe'i dangosir yn fanylach ar lun tirfesurwr yr AO dyddiedig 1826, yn cysylltu Gwaith Haearn Penydarren a Gwaith Glo Pencoedcae, trwy Bantyffin. Cynhwysai'r rhan fwyaf o'r ardal dir Cwmni Haearn Penydarren erbyn Degwm 1850, ac roedd rhan ohoni i'r gorllewin wedi'i chymryd ar brydles gan William Thomas. Roedd Inclein Penydarren yn Incline Top yn bodoli erbyn 1850 ac roedd y dramffordd a gysylltai Byllau Glo Penydarren a Chwmbargod o leiaf yn rhannol yn ei lle erbyn 1850, a rhedai o Incline Top hyd at y gyffordd yn Mountain Hare.

Ym 1851, roedd Cwmni Haearn Dowlais wedi agor ei reilffordd o Ddowlais i Orsaf Derfynol Dyffryn Taf a'r cilffyrdd oddi ar Plymouth Street. Nododd map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1875 y system dramffyrdd ar ei hanterth; gan gynnwys tramffyrdd Penydarren ac inclein ychwanegol i'r gogledd o Bradley Row a thþ injan. Dangoswyd Rheilffordd Dowlais â'i thþ injan ar inclein hefyd; rhedai'r llinell hon i'r de ac i'r de-orllewin trwy'r ardal o Ddowlais i'w chyffordd â Rheilffordd Dyffryn Taf. Gwasanaethai nifer fawr o dramffyrdd eraill wahanol byllau glo a lefelydd yr ardal a chefn gwlad gerllaw.

Nid oedd Cangen Igam-ogam (Cangen Gwaith Dur Dowlais yn ddiweddarach) Rheilffordd y GWR a Rhymni a oedd yn cael ei hadeiladu ym 1875, wedi treiddio i'r ardal eto, erbyn 1898 roedd yr olaf wedi'i chwblhau. Ar wahân i fân olion nid oedd y rhan fwyaf o system dramffyrdd Penydarren yn yr ardal yn cael ei defnyddio erbyn 1898 ac roedd wedi'i chodi.

Erbyn 1850, cynhwysai Incline Top anheddiad o bedair rhes ar wahân ac iardiau llinellol cysylltiedig (gan gynnwys Bradley Row), ym mhen uchaf Inclein Penydarren, o'r ddwy res fach wreiddiol o fythynnod a nodwyd ym 1814. Rhwng 1875 a 1898 adeiladwyd Ystafell genhadol gerllaw bwthyn a fodolai ym 1875 wrth ymyl Tramffordd Penydarren, nid oes fawr ddim newidiadau i'w gweld ar ôl hynny. Dymchwelwyd Bradley Row bellach a dim ond rhan o un o'r cyn-resi sydd wedi'i newid gryn dipyn sydd ar ôl i'r gogledd o lwybr yr inclein yn ogystal â bwthyn ar wahân gerllaw, a fodolai ym 1850.

Arferai'r ardal fod yn ardal gloddiol ddiwydiannol yn cynnwys nifer fawr o byllau glo a haearnfaen a lefelydd. Yn ogystal â rhwydwaith trafnidiaeth yr ardal, roedd nodweddion diwydiannol eraill megis lefelydd glo (haearnfaen a glo), ffyrdd aer a thai injan i'w cael yn y dirwedd erbyn 1875. Hefyd yn eu lle roedd nodweddion rheoli dŵr megis y gronfa ddŵr i'r gogledd-orllewin o Mountain Hare, nad oeddynt yn cael eu defnyddio erbyn 1898. Cynhwysai cyn-nodweddion eraill gronfeydd dŵr a ffrydiau, rhan o system rheoli dŵr lawer mwy helaeth (System Draenio Rhydd Dowlais), yr ymddengys ei bod wedi cyflenwi'r dŵr yn y fan hon i systemau cydbwyso dŵr y pyllau lleol ac yn ôl pob tebyg y peiriannau a oedd yn gysylltiedig â'r gwahanol incleins (gweler Ardaloedd HLCA 039 a 031).

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk