Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


028 Coridor Rheilffordd Dyffryn Taf


HLCA 028 Coridor Rheilffordd Dyffryn Taf Coridor trafnidiaeth reilffordd; cysylltiadau hanesyddol; nodweddion rheoli dwr.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 

 


(Foto : GGAT Merthyr 028)

Ardal gymeriad Coridor Rheilffordd Dyffryn Taf: coridor trafnidiaeth yn seiliedig ar Reilffordd Dyffryn Taf a adeiladwyd gan Brunel.

Crynodeb

Coridor trafnidiaeth yn seiliedig ar Reilffordd Dyffryn Taf, a adeiladwyd gan Brunel a'r rheilffordd locomotifau gyhoeddus gyntaf i wasanaethu Merthyr Tudful; mae'r ardal hon yn cynnwys gorsaf derfynol rheilffordd Cwm Nedd a rheilffyrdd mwynau. Nodweddir yr ardal gan argloddiau rheilffordd sydd wedi goroesi; mae llinell Dyffryn Taf yn dal i gael ei defnyddio.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Coridor Rheilffordd Dyffryn Taf yn cynnwys y llinell bresennol o Ferthyr Tudful i Gaerdydd, hy cyn-Reilffordd Dyffryn Taf, safle cyn-Orsaf Derfynol Dyffryn Taf i'r de-orllewin o High Street ac adeilad presennol Gorsaf Drenau Merthyr Tudful, a adeiladwyd yn ardal Gorsaf Derfynol Cwm Nedd i'r de o John Street. Cynhwysai'r ardal hefyd Warws Gorsaf Reilffordd Merthyr Tudful, Gorsaf Reilffordd Pentrebach a Phont Dramffordd Abercanaid.

Rheilffordd Dyffryn Taf, a adeiladwyd gan IK Brunel, oedd y rheilffordd locomotifau gyhoeddus gyntaf i wasanaethu Merthyr Tudful. Cefnogid Deddf Seneddol ddyddiedig 1835 yn awdurdodi adeiladu'r llinell gan feistri haearn yr ardal o dan arweiniad Anthony Hill; ym 1841, cwblhawyd a chomisiynwyd y llinell.

Wedi'i denu gan lwyddiant Rheilffordd Taf, a photensial amlwg y gweithfeydd haearn a gweithfeydd glo a phyllau glo lleol, cysylltwyd Rheilffordd Cwm Nedd â'r rhwydwaith ym 1853 ar ôl cwblhau Twnnel Abernant i Ddyffryn Taf ac ymestyn ei llinell i Ferthyr Tudful. Ddwy flynedd yn gynharach, roedd Cwmni Haearn Dowlais wedi agor ei reilffordd o Ddowlais i Orsaf Derfynol Dyffryn Taf a chilffyrdd oddi ar Plymouth Street.

Ym 1877, agorodd y Great Western Railway y llinell leol a elwid y 'Merthyr Curve' law yn llaw â Rheilffordd Dyffryn Taf, gan roi mynediad i'r GWR i Orsaf Derfynol Dyffryn Taf ym Merthyr Tudful.

Roedd Rheilffordd Cwm Nedd wedi cau erbyn canol y 1960au; yr unig linell a oedd yn dal i weithredu oedd llinell unigol Rheilffyrdd Prydain, cyn-linell y TVR a'r GWR, sy'n terfynu bellach ar safle cyn-Orsaf Cwm Nedd.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk