Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


023 Gweithfeydd Cloddio Clyn-Mil


HLCA 023 Gweithfeydd Cloddio Clyn-Mil Ardal o ucheldir amgaeëdig; olion gweithfeydd cloddio haearnfaen a glo cynnar, gweithfeydd cloddio ar yr wyneb yn bennaf; rhwydwaith tramffyrdd diwydiannol a nodweddion rheoli dwr; Coetir Hynafol; ffiniau caeau wedi'u ffurfio gan waliau sych a chloddiau ac arnynt wrychoedd; cysylltiad agos ag ardaloedd cyfagos.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Foto : GGAT Merthyr 023)

Ardal gymeriad Gweithfeydd Cloddio Clyn-Mil: olion helaeth gweithfeydd cloddio glo a haearn cynnar ar yr wyneb sydd mewn cyflwr da.

Crynodeb

Ardal o ucheldir amgaeëdig a nodweddir yn bennaf gan olion helaeth gweithfeydd cloddio glo a haearnfaen cynnar ar yr wyneb, yn bennaf gweithfeydd a 'gweithfeydd stripio lleiniau' a gysylltir â Gwaith Haearn Plymouth, olion sydd mewn cyflwr da. Ynghyd ag ardal Ffos y Fran gerllaw (HLCA 039), gellir ystyried ei bod o bwys cenedlaethol.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Gweithfeydd Cloddio Clyn-Mil yn ardal sydd wedi goroesi o weithfeydd cloddio haearnfaen helaeth yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif /dechrau'r 19eg ganrif sy'n gysylltiedig ag Anthony Hill a Chwmni Haearn Plymouth; lleolir Waun Level ychydig y tu mewn i gornel dde-orllewinol yr ardal.

Roedd yr ardal yn rhan o lain fawr o ucheldir amgaeëdig a elwid yn Goed Cae; roedd yr ardal fel y mae'r enw yn awgrymu yn drwch o goed, ac mae olion sylweddol Coetir Hynafol i'w gweld heddiw yn hanner deheuol yr ardal. Roedd y cae, a oedd yn rhan o ddaliad Clyn-Mil a berthynai i ystâd Robert Henry Clive, ac a brydleswyd i Anthony Hill ym 1850 yn nodweddiadol o weithgarwch tresmasu ar ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol ar hyd cwr y Tir Comin.

Dangosai tystiolaeth gartograffig ddyddiedig 1813 fod Mwyngloddiau Haearn wedi'u lleoli ychydig i'r gogledd yn ardal Cwmblacks/Pencoedcae. Erbyn 1826, roedd rhwydwaith o dramffyrdd ac incleins, gan gynnwys prif Inclein Coedcae, wedi'i sefydlu ledled yr ardal gan gysylltu Gwaith Haearn Plymouth â gwahanol weithfeydd yn yr ardal a'r tu hwnt iddi. Cynhwysai'r rhain lefelydd haearnfaen a gweithfeydd stripio lleiniau yn yr ardaloedd cyfagos i'r gogledd ac i'r dwyrain, gan gynnwys HLCA 023 ac yn ardal Cwmblacks.

Roedd yr ardal wedi'i chloddio ar raddfa fawr erbyn cyhoeddi map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1875, a nododd o leiaf dair lefel haearnfaen, ymhlith eraill, tomenni 'clustog' bach, odyn, pwll gro, siafft brawf, ffynnon, cronfeydd dwr a ffrydiau, ffordd aer, a gweithfeydd cloddio eraill ar yr wyneb, megis chwareli, neu 'weithfeydd stripio lleiniau' ac (i raddau llai) weithfeydd pyllau glo coron. Nodwyd Inclein Coedcae a gwahanol dramffyrdd a gysylltai gweithfeydd haearnfaen yr ardal â Gwaith Haearn Plymouth ym 1875; gallai nifer fawr o lonydd eraill a nodwyd awgrymu yr arferai rhwydwaith llawer mwy helaeth o dramffyrdd a ffyrdd halio wasanaethu'r ardal. Dangosai'r dystiolaeth gartograffig mai prin na ddaeth gweithgarwch cloddio i ben yn yr ardal rhwng 1875 a 1905, pan gaeodd Gwaith Haearn Plymouth ym 1880 yn ôl pob tebyg.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk