Commercial Archaeology

Contract Services

Projects

A GGAT Archaeologist excavating the remains of a Roman boxtile

Gwasanaethau Masnachol

Mae gan GGAT Projects hanes da o ddarparu gwasanaeth o ansawdd a dyma'r mudiad archaeolegol masnachol mwyaf yng Nghymru. Gallwn gynnig holl sbectrwm y gwasanaethau archaeolegol i'n cleientiaid, sy'n amrywio'n gyffredin o brosiectau domestig bach i ddatblygiadau amlddisgyblaeth mawr sy'n werth miliynau o bunnoedd. Pa un ai ydych chi'n ymestyn eich cartref, yn echdynnu mwynau ar raddfa fawr, yn datblygu seilwaith neu'n datblygu prosiectau adfywio rhanbarthol, gallwn ateb eich gofynion o ran archaeoleg a threftadaeth ddiwylliannol. Mae treftadaeth ddiwylliannol ac archaeoleg yn benodol yn adnodd gwerthfawr, meidrol nad oes modd ei ddarogan. Ein nod yw lleihau unrhyw risgiau posibl y mae treftadaeth ddiwylliannol yn eu peri i'ch datblygiad trwy gynnig strategaethau lliniaru cadarn, a sicrhau bod effaith eich datblygiad ar yr adnodd gwerthfawr hwn yn cael ei lleihau. Boed yn unigolyn preifat neu'n gwmni rhyngwladol mawr sy'n aelod o'r FTSE 100, cynigiwn wasanaeth o'r un ansawdd.

'GGAT Projects' yw enw masnachu adran archaeolegol fasnachol yr Ymddiriedolaeth. Ers ei sefydlu ym 1975, bu'n gyfrifol am fwy na 1400 o gloddiadau a thros 300 Asesiad o Effaith Amgylcheddol a phrosiectau cysylltiedig a wnaed yn y swyddfa. Yn ogystal, mae'r Ymddiriedolaeth wedi Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol y tirweddau hanesyddol yn ne Cymru ar ran Cadw ac mae wedi cyflawni gwaith uwchraddio LANDMAP ar draws de-ddwyrain Cymru. Rydym wedi creu corff o arbenigedd cydnabyddedig ar ymchwilio safleoedd o bob math a chyfnod. Mae'r profiad hwn yn cael ei adlewyrchu yn ein gwybodaeth arbenigol a'n hyblygrwydd o ran methodoleg.

Rydym yn falch o weithio'n rhywle yn y Deyrnas Unedig, ond mae ein gwaith yn canolbwyntio'n benodol ar dde Cymru lle mae gennym brofiad hir a gwybodaeth fanwl o'r rhanbarth, o Gymru a gorllewin Lloegr.

Ydych chi eisiau hurio archaeolegydd?

Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion. Gallwn ddiwallu'r holl elfennau sy'n ofynnol ar gyfer eich anghenion archaeolegol, yn fawr neu'n fach

projects@ggat.org.uk

Make an enquiry