We provide the full spectrum of archaeological services and are the 'one-stop-shop' for all of your archaeological needs

Archaeology for All

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd

An aerial view of an excavated Bronze Age cairn at Ffos-y-fran, Merthyr Tydfil

Ystod Gwasanaethau

Mae gan GGAT Projects brofiad helaeth o weithio mewn timau datblygu amlddisgyblaeth ar gyfer prosiectau mawr, a gall ddiwallu'r holl elfennau sy'n ofynnol ar gyfer agweddau archaeolegol ar waith o'r fath, gan gynnwys astudiaethau a wnaed yn y swyddfa ac Asesiadau o Effaith Amgylcheddol, ac asesiadau tirwedd fel ASIDOHL2, asesu nodweddion tirwedd hanesyddol a LandMap. Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau ymgynghorol, fel cynlluniau ymchwiliadau ysgrifenedig, dyluniadau prosiect a chyngor ar yr amgylchedd hanesyddol. Byddwn yn dod â'n profiad helaeth i'n gwasanaethau maes, sy'n cynnwys cloddio, gwerthuso, gorchwylion gwylio, arolygon adeiladau ac arolygon a dadansoddi geoffisegol. Mae mynd ymlaen â gwaith ar ôl cloddio a pharatoi/cyhoeddi adroddiadau yn ffocws cadarn ac mae gennym hanes profedig o reoli a chyflwyno'r math hwn o waith. Mae gennym ystod eang o arbenigwyr mewnol i gynorthwyo â'r gwaith cyflawni, o reolwyr prosiect profiadol, darlunwyr archaeolegol, arbenigwyr ar arteffactau unigol ac arbenigwyr palaeoamgylcheddol i olygyddion cyhoeddiadau.

Mae GGAT Projects yn deall sut y dylid integreiddio anghenion archaeolegol i'r broses ddatblygu, felly'n arbed colledion posibl o ran amser, cost ac enw da. Mae arweiniad proffesiynol yn galluogi cynigion datblygu i redeg yn hwylus ac osgoi oedi drud. Mae ymgynghori cynnar yn osgoi newidiadau diweddarach ac mae'n holl bwysig ar gyfer datblygiadau mawr. Rydym yn gwerthfawrogi bod angen deall nodau datblygu ein cleientiaid er mwyn darparu'n cyngor a'n gwasanaethau'n fwyaf effeithiol. Mae hyblygrwydd yr ymateb a'r gronfa arbenigedd yn nhîm GGAT Projects yn golygu bod pob prosiect yn cael ei gyflawni yn ôl safonau proffesiynol, fel y gall cleientiaid fod yn siŵr o wasanaeth o ansawdd uchel. Yn y byd datblygu modern, mae cael rhwydwaith effeithiol o ymgynghorwyr yn gwella llwyddiant prosiectau; mae GGAT Projects wedi ennill y profiad angenrheidiol i ddeall sut mae ymgynghorwyr eraill yn cyfrannu at ddatblygu prosiect.

Ydych chi eisiau hurio archaeolegydd?

Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion. Gallwn ddiwallu'r holl elfennau sy'n ofynnol ar gyfer eich anghenion archaeolegol, yn fawr neu'n fach

projects@ggat.org.uk

Make an enquiry