Archaeological Illustration

Illustration

From academic monographs and journals to leaflet design

Ill

Darlunio

Mae'r Adran Ddarlunio bob amser wedi bod yn rhan annatod o waith yr Ymddiriedolaeth. Mae gan ein staff presennol dros 25 mlynedd o brofiad o gynhyrchu darluniadau o safon cyhoeddiadau ar gyfer monograffau a chyfnodolion academaidd, yn amrywio o luniadau arteffactau wedi'u mesur a diagramau technegol ac isomedrig, i gynlluniau, mapiau a thrawstoriadau safle. Mae eu profiad a'u dealltwriaeth o'r gynulleidfa archaeolegol ehangach yn eu galluogi nhw i ddarparu graffeg greadigol a hwylus at holl anghenion ein cleientiaid.

Hefyd, rydym yn cynhyrchu adluniadau darluniadol sy'n troi'r data craidd a gasglwyd o waith maes archaeolegol yn ddelweddau ystyrlon sy'n dod â phobl, gwrthrychau, lleoedd a thirweddau'r gorffennol yn fyw.

Enghreifftiau

Ar gyfer pob ymholiad yn ymwneud â Gwasanaethau Darlunio, cysylltwch â

Lawrlwythwch ein taflen ar yr Adran Ddarlunio

illustration@ggat.org.uk