Prosiectau GGAT
Mae Prosiectau GGAT yn dîm profiadol sydd wedi cyflawni mwy na 1400 o brosiectau archaeolegol a hwy yw'r darparwyr gwasanaethau archaeolegol mwyaf yn y Dywysogaeth, yn mwynhau amrywiaeth eang o gleientiaid, ac â phrofiad a thystiolaeth o fedru cyflwyno prosiectau a chyngor o safon hyd at safonau proffesiynol.
Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith yn canolbwyntio ar dde ddwyrain Cymru lle mae gennym lawer o brofiad a gwybodaeth fanwl o'r ardal. Hefyd rydym yn medru ymgymryd â gwaith ar hyd a lled y Dywysogaeth a hefyd yn Lloegr, yn enwedig yn y de orllewin a chanolbarth Lloegr. Lle bynnag y gallwn gynnig unrhyw arbenigedd yna rydym yn barod i weithio ymhellach i ffwrdd.
Mae ein hymwybyddiaeth o rôl archaeoleg yn y broses gynllunio wedi arwain at bwyslais ar reoli prosiectau'n effeithiol, a llwyddir i wneud hyn trwy gyflawni sicrwydd ansawdd ym mhob cam o'r ffordd. O ganlyniad i hyn, gallwn gwrdd â dyddiadau cau tra ar yr un pryd yn sicrhau bod y gwaith maes a'r adrodd yn ôl yn cwrdd â safonau proffesiynol.
Gellir ebostio ymholiadau cyffredinol at projects@ggat.org.uk.
Mae prosiectau gwaith maes sydd o bwys arbennig wedi cynnwys cloddio olion canoloesol ac ôl-ganoloesol cyn gwneud gwaith ail-ddatblygu mawr yn Abertawe, cloddio gweddillion Rhufeinig yn Bulmore, Casnewydd a hynny cyn ail-ddatblygu'r cwrs pencampwriaeth yn y Celtic Manor (lle y cynhelir Cwpan Ryder 2010), cloddio gweddillion Rhufeinig a chanoloesol cyn adeiladu canolfan ddehongli newydd yng Nghastell Caerdydd, a chloddio mewn safleoedd sy'n dyddio o ddiwedd yr Oes Efydd yn Lefelau 'Avon'.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y prosiectau hyn a gwaith archaeolegol arall mewn mannau eraill ar y wefan hon. Archif Prosiect