IFA Standards

Professional Standards in archaeology

An archaeologist survying

Darganfodwch mwy o'r safonau'r IFA yma

Visit the IFA website

Prosiectau

Safonau Proffesiynol

Adlewyrchir ymroddiad yr Ymddiriedolaeth i ddatblygiad arferion archaeolegol proffesiynol yn y Deyrnas Unedig gyda'i chefnogaeth i'r Athrofa o Archaeolegwyr Maes.

Fel rhan o fudiad sydd wedi Cofrestru gyda'r Athrofa o Archaeolegwyr Maes mae ein staff waeth beth yw eu hymlyniad personol yn glynu wrth Gôd Ymddygiad yr Athrofa a'i dogfennau cysylltiol.

Mae staff GGAT wedi gwasanaethu ar Weithgor Safonau Archaeolegol Prydeinig o Athrofa'r Archaeolegwyr Maes. Mae'r gweithgor SIBA wedi cynhyrchu dogfennau Safonau a Chanllawiau ar gyfer amryw o wahanol fathau o waith archaeolegol (asesiadau o ddesg mewn swyddfa, gwerthusiadau maes, cloddiadau, gorchwylion gwylio, cofnodi adeiladau sy'n sefyll), sydd wedi'u mabwysiadu'n Arfer Gorau gan yr Athrofa mewn Cyfarfod Cyffredinol. Roedd staff Prosiectau GGAT yn weithgar yn natblygiad y safonau hyn.

Mae nifer o staff yr Ymddiriedolaeth wedi gwasanaethu'n swyddogion yr Athrofa, ac mae'r profiad hwn wedi elwa datblygiad y cwmni.