The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

GGAT offer a wide-range of archaeological work

Archaeological work

Archaeologists excavating at Cabot Park, Bristol

Mae'r mathau o brosiectau y mae Prosiectau GGAT i gleientiaid yn cynnwys:

Prosiectau

Gwaith Archaeolegol

Gall Prosiectau GGAT ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith archaeolegol o waith gwerthuso cychwynnol at gyhoeddi a dosbarthu.

Mae Prosiectau GGAT wedi datblygu llawlyfrau arfer gorau ar gyfer y gwahanol fathau o waith, yn arbennig Llawlyfr Technegau Cofnodi Cloddio/Canllawiau ar gyfer Cynnal Prosiectau Asesu. Mae'r ail ddogfen nid yn unig yn gosod y gofynion ar gyfer ymgymryd ac adrodd ar brosiectau asesu (gan gynnwys cloddiadau maes), ond mae hefyd yn cyfeirio'r hierarchaeth o pro-formas sy'n bodoli ac sydd yn ofynnol i sicrhau bod y swyddogaethau tracio ac archwilio yn cael eu cyflawni'n effeithiol.

Gall Prosiectau GGAT gynnig gwasanaethau technegol fel rhan o brosiectau neu'n unigol, a hynny ar gyfraddau rhesymol, a thrwy weithio tuag at ddyddiadau cau penodol sefydlog. Pan na all yr Ymddiriedolaeth ddarparu'r gwasanaeth gofynnol yn uniongyrchol gall alw ar ei rwydwaith o is-gontractwyr archaeolegol arbenigol, archaeotechnegol a phalaeoamgylcheddol. Yn ogystal â hyn, gall Prosiectau GGAT ofyn am gyngor o amrediad eang o ffynonellau er mwyn sicrhau, beth bynnag yw'r broblem, y gellir defnyddio dull proffesiynol. Felly gall Prosiectau GGAT gynnig gwasanaeth archaeolegol cynhwysfawr i gleientiaid.