Archaeological Education

Heritage Management

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd

An image of Pennard church on the Gower

Eglwysi

Sefydlwyd rhai o eglwysi plwyf Cymru dros fil o flynyddoedd yn ôl. Fel arfer, y rhain yw'r adeiladau hynaf yn eu cymunedau sy'n parhau i gael eu defnyddio, gan ddiogelu cyfoeth o wybodaeth ynghylch sut roedd y bobl o'u cwmpas yn teimlo ac yn meddwl, yn byw ac yn marw. Gallwn eistedd yn eu corau, ac edrych ar eu cofebion a'r testunau a'r delweddau a ddarparwyd i roi addysg ysbrydol iddynt. Mae angen curadu'r rhain yn weithgar.

Diolch i raglen ymchwil a ariannwyd gan Cadw yn y 1990au, mae gennym wybodaeth am ddatblygiad yr holl eglwysi canoloesol ym Morgannwg a Gwent, wedi'u crynhoi yn y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol ac ar gael i hysbysu'r bobl sydd â'r gwaith o wneud yn siŵr bod ein heglwysi'n parhau'n berthnasol yn yr oes fodern. Ers dros ddeng mlynedd, mae aelodau tîm treftadaeth yr Ymddiriedolaeth wedi bod yn aelodau o Bwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth, sy'n ystyried cynigion ynghylch datblygu a newid yn yr Eglwys yng Nghymru, i sicrhau bod yr amgylchedd hanesyddol yn cael ei warchod yn gywir. Mae gwybodaeth ar gael ar gais hefyd i'r esgobaethau eraill yn ein hardal (Llandaf a Mynwy).

Os hoffech wybodaeth ychwanegol, cysylltwch â:

hm@ggat.org.uk