The Portable Antiquities Scheme in South East Wales

The Portable Antiquities Scheme

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Refit plaque from Spitfire P7504 out from 53 OTU (operational training unit) Llandow

Ydych chi'n credu eich bod wedi dod o hyd i rywbeth?

Cyfeiriadau a Rhifau Ffôn Canolfannau Rhoi gwybod

(Cofiwch drefnu apwyntiad cyn mynd â'ch darganfyddiadau i ganolfan rhoi gwybod i'w cofnodi)

Casgliad diweddar o ddarganfyddiadau

(Cliciwch ar y delweddau isod i wneud y llun yn fwy)

button gun  A Henry III long cross penny

Rheoli Treftadaeth

Y Cynllun Hen Bethau Cludadwy

Bob blwyddyn caiff eitemau o bwysigrwydd archaeolegol eu darganfod gan aelodau o'r cyhoedd. Mae sawl un o'r darganfyddiadau hyn yn cael eu datguddio gan bobl wrth ddefnyddio datgelyddion metel, ond mae rhai'n darganfod pethau ar hap wrth weithio, garddio, neu wrth fod allan yn cerdded. Ni chofnodwyd llawer o'r deunydd hwn yn y gorffennol gan amgueddfeydd neu archaeolegwyr, a chollwyd swmp mawr o wybodaeth bosib am ein gorffennol.

Sefydlwyd y Cynllun Hen Bethau Cludadwy er mwyn cofnodi'r darganfyddiadau hyn a wnaed ar hap, ac i wneud pobl yn fwy ymwybodol o bwysigrwydd gwrthrychau o'r fath er mwyn deall ein gorffennol.

A PAS officer identifing finds for the public at one of GGATs Open Days

Os ydych chi wedi dod o hyd i unrhyw beth y credwch chi fod iddo ddiddordeb archaeolegol, cysylltwch â'ch canolfan rhoi gwybod, p'un ai'u bod wedi'u darganfod yma neu mewn ardal arall ym Mhrydain. Bydd staff y ganolfan yn falch o adnabod eich darganfyddiadau a sôn wrthych am y defnydd ohonynt yn y gorffennol. Byddant hefyd yn gallu cynnig cyngor i chi ar sut i ofalu amdanynt.

Mae hefyd yn bwysig cofnodi ymha le y gwnaethoch eu darganfod. Yn hyn o beth, gall archaeolegwyr greu darlun o ble roedd pobl yn byw, a'r modd yr oedd nwyddau'n cael eu prynu a'u gwerthu, a gall arwain at ddarganfod safleoedd pwysig newydd. Bydd manylion eich darganfyddiadau ar gael i'r cyhoedd drwy gylchlythyron, adroddiadau, amgueddfeydd lleol a'r rhyngrwyd, er na fydd eich manylion personol nac union leoliad eich darganfyddiadau'n cael eu datgelu.

Am ragor o wybodaeth am y Cynllun Cofnodi Darganfyddiadau Archaeolegol yng Nghymru, cysylltwch â:

Mark Lodwick Yr Adran Archaeoleg a Niwmismateg, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd. CFIO 3NP Ffôn: 02920 573226 Mark Lodwick

Neu ewch ar wefan y Cynllun: www.finds.org.uk