Rheoli Treftadaeth
Cyngor treftadaeth i unigolion a grwpiau lleol
Mae yna ymwybyddiaeth gynyddol heddiw o'r angen i gadw a chynnal treftadaeth ddiwylliannol i'r cenedlaethau sydd i ddod. Mae'r adain Rheoli Treftadaeth bob amser yn hapus i gynnig gwybodaeth, naill ai ar gyfer adnabod neu ar gyfer cadwraeth.
Os gofynnir am adnabod cofeb fel arfer byddwn yn gofyn i chi anfon ffotograffau atom - weithiau mae hyn yn ddigon er mwyn i ni adnabod, er os yw'n safle anarferol neu gymhleth mae'n debyg y byddwn yn gwneud ymweliad safle.
Mewn perthynas â chadwraeth, gallwn gynnig cyngor ar y mathau o bethau fydd yn rhaid i chi eu hystyried os ydych yn meddwl am adfer cofeb. Fodd bynnag, ni all adran Rheoli Treftadaeth lunio cynllun gwaith na darparu costau ar gyfer y math hwn o waith.