Cynlluniau amaeth amgylcheddol a choetiroedd

TirGofal

Better Woodlands for Wales

old farm machinary

Tir Gofal

Coetiroeddd Gwell i Gymru

The Forestry Commision deliver practical programmes to make sure that, as communities and individuals, we can get the most from them.

Rheoli Treftadaeth

Cynlluniau amaeth amgylcheddol a choetiroedd

Mae cynlluniau amaeth amgylcheddol Tir Gofal a Tir Cynnal, a ariennir ar y cyd gan Lywodraeth Prydain a'r Undeb Ewropeaidd yn cynnig taliadau i ffermwyr reoli eu tir yn ofalus. Anogir ffermwyr i reoli eu tir mewn ffordd sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Cynigir manteision ariannol er mwyn diogelu bywyd gwyllt a chynefinoedd sydd eisoes yn bodoli, creu cynefinoedd newydd, annog gwell mynediad i'r cyhoedd a diogelu'r dirwedd gan gynnwys nodweddion hanesyddol/archaeolegol. Mae'r cynlluniau hyn yn rhoi cyfle i ffermwyr ennill nawdd er mwyn parhau i warchod ein hetifeddiaeth gyfoethog a chyfyngedig ac mae nifer ohonynt wedi bod yn gwneud hyn ers cenedlaethau.

Mae cynllun y Comisiwn Coedwigaeth Gwell Coetiroedd i Gymru, yn rhoi cyfle tebyg i ddiogelu'r amgylchedd hanesyddol mewn coetiroedd newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli.

Beth yw Nodweddion Archaeolegol Hanesyddol?

Mae pob un ohonom yn gyfarwydd â nodweddion hanesyddol megis bryngaerau, meini hirion, carneddau a chestyll, ac mae llawer ohonynt wedi'u diogelu'n Gofadeiliau Hynafol Cofrestredig neu'n Adeiladau Rhestredig. Fodd bynnag, mae yna lawer iawn mwy o nodweddion sy'n dod o dan y categori lle nad ydynt wedi'u hadnabod ac mae angen cydnabyddiaeth a chadwraeth ar y rheiny hefyd. Efallai fod y rhain yn cynnwys olion diwydiannol, tystiolaeth o arferion amaethu cynnar, olion o adeiladau cynnar, odynau calch, chwareli, safleoedd ail ryfel byd, ceuffyrdd ac olion archaeolegol claddedig. Nid yw olion claddedig yn llai pwysig na nodweddion gweladwy, ond yn aml iawn maent yn fregus ac yn agored iawn i'w niweidio gan weithgareddau amaethu. Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent yn cadw'r Cofnod Amgylcheddol Hanesyddol, lle cedwir gwybodaeth am fwy na 25,000 o safleoedd hanesyddol archaeolegol yn ne ddwyrain Cymru. Yn ogystal â'r system wybodaeth ddaearyddol a gedwir ar gyfrifiadur mae'r casgliad yn cynnwys mwy na 7,000 o ffeiliau cofnod ar bapur gan gynnwys dogfennau, cynlluniau, mapiau a ffotograffau.

Gwasanaeth Ymgynghorol

Os hoffech chi edrych ar ein cofnodion i chwilio am nodweddion hanesyddol/archaeolegol ar eich tir, neu os ydych yn dymuno derbyn cyngor neu os ydych am ddweud wrthym am safleoedd newydd posib yna cysylltwch â Susan Hughes (Swyddog Rheoli Treftadaeth) neu e bost sue@ggat.org.uk