Cyngor treftadaeth i AU ac ardaloedd AONB

Heritage Advice

Advice on archaeological sites

View to the north across Merthyr Mawr warren showing the local flora with the sand dunes in the background

Darganfodwch mwy o'r gwaith o'r Adran Rheoli Treftadaeth am ragor o wybodaeth neu gyngor cysylltwch â ni yn

curatorial@ggat.org.uk

Rheoli Treftadaeth

Cyngor treftadaeth i AU ac ardaloedd AONB

Mae Ymddiriedolaeth Morgannwg-Gwent yn cynnwys deuddeg awdurdod lleol-

Yn ogsytal â rhan o'r Parc Cenedlaethol - Bannau Brycheiniog, a dwy Ardal o Harddwch Naturiol Neilltuol - Gwyr ac ochr Cymru o Ddyffryn Gwy

Fel ymgynghorydd archaeolegol i gynghorau, mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnig gwybodaeth a chyngor pan ofynnir amdanynt, nid yn unig o ran safleoedd a chofadeiliau unigol ond hefyd wrth ddatblygu polisïau i ofalu am yr amgylchedd hanesyddol. Rydym hefyd wedi bod yn ymwneud â chynorthwyo AONB Dyffryn Gwy gyda'i geisiadau i Gronfa Treftadaeth y Loteri ar gyfer y prosiect 'Overlooking the Wye', a Chynhadledd Jiwbilî Aur yr AONB a gynhaliwyd gan Gwyr yn 2006.

Mae gwaith a wnaed i awdurdodau lleol dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn cynnwys darparu gwybodaeth am safleoedd a chofadeiliau ar dir comin Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, helpu Cyngor Dinas Abertawe i ddiogelu eu safleoedd pwysig i smeltio copr a chloddio glo wrth i waith clirio rhododendron gael ei wneud yn Nyffryn Clyne, a chynghori Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar sut i ofalu am dramffordd yn Abersychan.