Historic Environment Record

Current and recent work

A person using the range of facilities provided by the HER

Gwaith cyfredol a diweddar

Mae gan CAH raglen waith barhaus i wella ansawdd a chynnwys y cofnod yn ogystal ag i wella hygyrchedd at wybodaeth. Dyma ychydig o’r gwaith yr ydym wedi’i wneud yn ddiweddar:

Prosiect Gwirfoddolwyr Mynediad at Archaeoleg - - dros y pum mlynedd diwethaf, mae gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio gyda thîm CAH i gofnodi gwybodaeth o oddeutu 2,000 o adroddiadau archaeolegol yn dyddio rhwng 1975 a 2006. Diolch yn fawr iawn i’n holl wirfoddolwyr! Er mwyn darllen mwy am y prosiect a phrofiadau’r gwirfoddolwyr, ewch i safle blog y prosiect http://accesstoarchaeology.blogspot.co.uk/. Fel rhan o’r prosiect, mae dros 1,000 o adroddiadau archaeolegol ar gael yn awr trwy Archwilio. Hoffem hefyd ddiolch i’r sefydliadau sydd wedi caniatáu bod eu hadroddiadau ar gael - ar hyn o bryd, mae’r adroddiadau ar gael gan Cotswold Archaeology, Monmouth Archaeology a Wessex Archaeology yn ogystal â’r rhai gan GGAT. Eleni fydd blwyddyn olaf y prosiect, a bydd cofnodion yn cael eu casglu ar gyfer gwybodaeth hyd at 2008 a mwy o adroddiadau digidol yn dod ar gael.

Disgrifiadau cofnodion digidol - dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf crëwyd disgrifiadau ar gyfer dros 3,500 o gofnodion digidol o ffeiliau ffynhonnell bapur i wella cynnwys a hygyrchedd y cofnod. Eleni bydd y 700 o gofnodion sy’n weddill yn cael eu cwblhau.

Cysylltiadau â chofnodion yr Eglwys yng Nghymru - gwnaed cysylltiadau rhwng y CAH a chofnodion yr asedau hanesyddol a gedwir gan yr Eglwys yng Nghymru, ac sydd i’w gweld yng Nghofnod Treftadaeth eu Heglwys https://churchheritagecymru.org.uk/.

Bydd rhai o dasgau mwyaf eraill eleni’n canolbwyntio ar:

Cysylltu â gwybodaeth Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd – ymarfer arbrofol a gynhaliwyd ar gyfer Camlas Abertawe. Bydd gwybodaeth am Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu’n cael ei hymgorffori.

Ymgorffori gweddill y safleoedd a restrir yn lleol – gwnaed y gwaith ar restr leol Caerdydd y llynedd a byddir yn gwneud gwaith ar y rhestri sy’n weddill eleni.

Gweithredu gwasanaeth Cymraeg – Mae croeso i ymholiadau a gohebiaeth ynghylch CAH yn Gymraeg a Saesneg.

IGwella cywirdeb lleoliad cofnodion –eleni byddir yn gwneud gwaith i wella cywirdeb lleoliad cofnodion yn Sir Fynwy.