Historic Environment Record

Access

A person using the range of facilities provided by the HER

Mynediad a Chyflwyno Data

Mae'r wybodaeth a geir yn y cofnod Amgylcheddol Hanesyddol ar gael i bawb sydd â diddordeb mewn archaeoleg yn ne ddwyrain Cymru.

TMae’r Ymddiriedolaeth yn derbyn grantiau sy’n caniatáu iddi roi gwybodaeth yn rhad ac am ddim i ymchwilwyr preifat a chyrff lleol a chenedlaethol. Ceidw CAH GGAT yr hawl i ildio ffioedd, fel arfer ni chodir ar ymchwilwyr unigol. Codir am ymholiadau gan gyrff neu unigolion sy’n gwneud gwaith masnachol. Y raddfa sylfaenol a godir i ddarparu gwybodaeth gan CAH yw £100+TAW yr awr neu ran o awr. Codir o leiaf £100+ TAW am ymholiad. Cynigir gwasanaeth blaenoriaethol os oes staff ar gael (dau ddiwrnod gwaith), am £130+TAW yr awr neu ran o awr. Mae CAH yn croesawu ymholiadau a gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Ein nod yw cwrdd â’r amseroedd cyflawni isod o ran ymholiadau: Ymholiad blaenoriaethol masnachol: dau ddiwrnod gwaith Ymholiad arferol masnachol: pump i saith diwrnod gwaith Ymholiad nad yw’n fasnachol: pymtheg diwrnod gwaith

Croesewir ymholiadau naill ai ar y ffôn, trwy lythyr, e bost neu ffacs. Gofynnir i bob ymholydd lanw ffurflen ymholiadau a darllen a derbyn Canllawiau Defnyddio a Thalu ac Amodau Defnyddio sydd gan yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol yng Nghymru. Mae copïo yn amodol ar berchnogaeth hawlfraint ac mewn rhai achosion bydd yn rhaid trafod gyda'r sawl sy'n meddu ar yr hawlfraint cyn y gellir rhyddhau'r deunydd.

Fel arall gellir ymweld â'r CAH yn bersonol, ond gofynnir i chi wneud apwyntiad o flaen llaw. Darperir man gweithio swyddogol i'r cyhoedd gyda defnydd o'r cofnod digidol a mapio ar gael. Bydd staff wrth law i gynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau ac i chwilio am gofnodion papur.

Roedd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn cynnwys mesurau (adrannau 35-37) i wella trefniadau gwarchod asedau hanesyddol heb eu dynodi drwy gadw Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol a darparu mynediad atynt. Ar hyn o bryd, mae Gweinidogion Cymru yn cyflawni rhai o'r dyletswyddau hyn drwy ymddiriedolaethau archaeolegol Cymru. Mae’r ddeddfwriaeth hon a darnau eraill o ddeddfwriaeth sy’n gymwys yng Nghymru, yn arbennig deddfwriaeth sy’n berthnasol i warchod yr Iaith Gymraeg a chefnogi Cenedlaethau’r Dyfodol, wedi arwain at gyflwyno Canllawiau ar gyfer Cyflwyno Data i Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol Cymru.

Mae amod tymor hir wedi bod wrth ganiatáu mynediad at y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol a gedwir gan ymddiriedolaethau archaeolegol Cymru bod rhaid i’r rheiny y darperir data iddynt o’r cofnodion ddarparu data yn ôl. Mae hyn yn cynnwys cywiriadau neu wybodaeth ychwanegol i gofnodion sy’n bod eisoes, cofnodion craidd newydd sydd eu hangen o ganlyniad i’r gwaith yr oedd y data a ddarparwyd yn ei gefnogi, a chofnodion digwyddiadau.

Mae gwybodaeth fanwl sy’n gysylltiedig â chyflwyniadau i’r Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol a gedwir gan ymddiriedolaethau archaeolegol Cymru hefyd wedi’i diwygio ac yn ystyried nid yn unig gofynion deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau newydd ond hefyd ychwanegiadau at safonau a chanllawiau proffesiynol ac adolygiadau ohonynt a gyhoeddwyd gan Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr, a’r meincnodau penodol y mae’n rhaid i’r Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru barhau i’w cyrraedd.

Mae’r manylebau cyflwyno newydd wedi’u nodi yn y Canllaw ar gyfer Cyflwyno Data i Gofnod Amgylchedd Hanesyddol Cymru a gellir eu cyrraedd drwy’r dolenni isod. Bydd y rhain yn dod yn weithredol ar 1af Hydref 2018, ond bydd pob Ymddiriedolaeth yn hapus i dderbyn data sy’n cydymffurfio â’r canllawiau cyn y dyddiad hwn. Wedi hynny, cânt eu hadolygu’n flynyddol.

Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch defnyddio’r Canllawiau ar gyfer Cyflwyno Data i Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol Cymru yn gywir gan y staff Cofnod Amgylchedd Hanesyddol ym mhob un o’r ymddiriedolaethau yng Nghymru.

Nod ein gwybodaeth ar waelod y dudalen yw egluro mwy am gynnwys y cofnod, y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu yn ogystal â thelerau ac amodau mynediad a chyfarwyddyd ar gyfer cyflwyno data i ni.

Oriau agor:

Mae CAH yn agored i’r cyhoedd trwy apwyntiad dydd Llun i ddydd Gwener 10.00-1.00 a 2.00-4.00. Rydym wedi cau ar Wyliau Banc.