Cofnod Amgylcheddol Hanesyddol
Pa wybodaeth y byddaf yn dod o hyd iddi yn y Cofnod?
Mae CAH yn cynnwys cronfa ddata sylfaenol o 25,000 cofnod archaeolegol, yn cynnwys safleoedd archaeolegol, gweddillion claddedig, darganfyddiadau siawns, cloddiadau, ardaloedd tirweddol arwyddocaol, adeiladau a chofadeiliau sy'n sefyll. Mae'r gronfa ddata hon yn cael ei diweddaru'n barhaus ac mae'n rhoi gwybodaeth am bob safle, gan gynnwys y math o safle, cyfeirnod grid, cyfnod, statws swyddogol a chymunedol. Trwy bartneriaeth graidd y Gronfa Ddata Genedlaethol gellir cael defnydd o gofnodion archaeolegol eraill (Cadw, Cofnod Cofadeiliau Cenedlaethol, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaethau Archaeolegol eraill). Gellir gweld cyfanswm o fwy na 25,000 cofnod.
Gellir gwneud ymholiadau i'r cofnodion hyn trwy system wybodaeth ddaearyddol a gefnogir gan gasgliad o fwy na 7,000 o ffeiliau papur lle cedwir mwy o wybodaeth fanwl ar safleoedd penodol gan gynnwys adroddiadau cloddio ac asesu, dogfennau, cynlluniau, mapiau a ffotograffau.
Hefyd, mae gennym lyfrgell gyfeirio fechan o ddeunyddiau perthnasol i archaeoleg Morgannwg a Gwent, sydd ar gael i ddefnyddwyr CAH.
