Cofnod Amgylcheddol Hanesyddol
Cofnod Amgylcheddol Hanesyddol (CAH) Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent yw'r gofrestr swyddogol o safleoedd archaeolegol yn Ne Ddwyrain Cymru. Ar hyn o bryd rydym yn cadw tua 25,000 cofnod sydd o ddiddordeb archaeolegol a hanesyddol a hynny yn y deuddeg awdurdod unedol a fanylir amdanynt ar y map isod.
Mae'r wybodaeth a gedwir yn y CAH ar gael i bawb sydd â diddordeb, megis ymchwilwyr personol ac academaidd, datblygwyr, grwpiau hanes lleol, myfyrwyr a phlant ysgol. Gellir gweld mwy o fanylion ar ein tudalennau Defnyddio Gwybodaeth.


