Cofnod Amgylcheddol Hanesyddol
Wedi dod o hyd i rywbeth o ddiddordeb?
A ydych chi wedi digwydd darganfod rhywbeth trwy siawns neu hyd yn oed wedi darganfod safle newydd? Rydym yn diweddaru ac yn gwella ein Cofnod Amgylcheddol Hanesyddol yn barhaus, felly os oes gennych chi unrhyw wybodaeth newydd, cofiwch gysylltu â ni.
Ddim yn siwr beth yr ydych wedi'i ddarganfod? Byddwn yn ceisio ei adnabod i chi, a wnewch chi wneud apwyntiad i ymweld â'r Ymddiriedolaeth neu anfonwch ffotograffau atom. Dydych chi byth yn gwybod 'efallai fod gennych chi rywbeth arbennig iawn!'