Cofnod Amgylcheddol Hanesyddol
Defnyddio Gwybodaeth
Mae'r wybodaeth a geir yn y cofnod Amgylcheddol Hanesyddol ar gael i bawb sydd â diddordeb mewn archaeoleg yn ne ddwyrain Cymru.
Darperir y wybodaeth yn rhad ac am ddim i ymchwilwyr preifat neu academaidd ac i gyrff lleol a chenedlaethol. Fodd bynnag, o ran ymholiadau o natur masnachol, sydd o bosib yn ymwneud â datblygu a materion cynllunio, codir tâl ar gyfer costau staff i brosesu'r ymholiad, sef cyfradd o £50 yr awr neu ran o awr.
Croesewir ymholiadau naill ai ar y ffôn, trwy lythyr, e bost neu ffacs. Gofynnir i bob ymholydd lanw ffurflen ymholiadau a darllen a derbyn Canllawiau Defnyddio a Thalu ac Amodau Defnyddio sydd gan yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol yng Nghymru. Mae copïo yn amodol ar berchnogaeth hawlfraint ac mewn rhai achosion bydd yn rhaid trafod gyda'r sawl sy'n meddu ar yr hawlfraint cyn y gellir rhyddhau'r deunydd.
Fel arall gellir ymweld â'r CAH yn bersonol, ond gofynnir i chi wneud apwyntiad o flaen llaw. Darperir man gweithio swyddogol i'r cyhoedd gyda defnydd o'r cofnod digidol a mapio ar gael. Bydd staff wrth law i gynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau ac i chwilio am gofnodion papur. Hefyd gellir defnyddio ein harchif o adroddiadau a'n llyfrgell gyfeirio fechan.
Oriau agor:
Mae'r CAH ar agor i'r cyhoedd trwy apwyntiad ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30-1.00 a 2.00-4.30. Rydym ar gau ar Wyl y Banc.