Archaeological Outreach

Outreach

Children learning to excavate a fake skeleton

Beth allwn ni ei gynnig

Areithiau

Mae aelodau'r Ymddiriedolaeth ar gael i gynnig areithiau i grwpiau cymunedol, sefydliadau archaeolegol a hanesyddol neu sefydliadau eraill â diddordeb. Nid ydym yn codi ffi, ond rydym ni'n croesawu unrhyw gyfraniad at dreuliau.

Gall staff yr Ymddiriedolaeth roi darlithoedd ac areithiau ar waith diweddar yn ogystal â chipolwg rhanbarthol ac arferion archaeolegol.

Teithiau Cerdded

Mae'r Ymddiriedolaeth wedi llunio cyfres o deithiau cerdded hanesyddol i arddangos treftadaeth gyfoethog ac amrywiol de-ddwyrain Cymru. Yn aml, cynhelir y rhain fel rhan o Wyliau Cerdded rhanbarthol ac ar gyfer Gŵyl Archaeoleg Prydain.

Mae'r holl deithiau cerdded yn cael eu harwain gan staff profiadol a chymwys, gyda'r rhan fwyaf o deithiau cerdded yn addas i bobl o bob oedran. Rhowch eich esgidiau cerdded am eich traed a dewch am dro llawn difyrrwch a diddordeb.

Digwyddiadau a Gweithdai

Rydym yn cymryd rhan mewn amrywiaeth fawr o ddigwyddiadau ar draws de-ddwyrain Cymru. Os hoffech drefnu digwyddiad yn eich cymuned neu os hoffech wybod am y digwyddiadau y byddwn ni'n mynd iddyn nhw eleni, ewch i dudalen y calendr neu cysylltwch â ni.

Hefyd, rydym ni'n cynnig gweithdai archaeolegol sy'n helpu i esbonio rhai o brosesau archaeoleg, gyda phrofiad ymarferol yn cyd-fynd â nhw. Lluniwyd ein holl weithdai i ennyn chwilfrydedd pobl am y gorffennol a dangos sut gall darganfyddiadau archaeolegwyr gynnig cliwiau hanfodol am fywyd fel yr oedd 2,000 neu hyd yn oed 20,000 o flynyddoedd yn ôl.

Os hoffech drefnu taith gerdded, araith neu weithdy, neu os oes gennych ymholiad am ein gweithgareddau Allymestyn, cysylltwch â:

outreach@ggat.org.uk

Lawrlwythwch ein taflen Gweithdai Archaeoleg