Archaeological Education

Archaeology for All

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd

A Roman cook hard at work

Gweithdai Hanes Byw

Mae GGAT yn cefnogi'r Mudiad 'Hanes Byw', lle y mae pobl mewn gwisgoedd o'r cyfnod ac yn defnyddio copïau dilys o offer a thaclau yn arddangos agweddau ar fywyd bob dydd yn y gorffennol. Rydym yn gweithio gyda grwpiau ailberfformio sydd wedi'u hen sefydlu, ond mae gennym bobl yn yr Ymddiriedolaeth sy'n ailberfformio ac yn gallu cynnig arddangosiadau a gweithdai.

Un o'r arddangosiadau hanes byw mwyaf poblogaidd y gall yr Ymddiriedolaeth ei gynnig yw 'Y Cogydd Rhufeinig'.

Yma, gallwch ddysgu sut bobl oedd y Rhufeiniaid, drwy fwrw golwg ar eu bwyd! Anghofiwch y storïau am bysgod pwdr a phathewod – profwch ryseitiau Rhufeinig go iawn, wedi'u paratoi a'u coginio fel y byddai'r Rhufeiniaid wedi gwneud. Caiff y fwydlen ar gyfer pob arddangosiad ei dewis yn ofalus i ddangos cymaint o amrywiaeth o fwydydd a dulliau coginio â phosibl. Os nad yw'r lleoliad yn addas ar gyfer tân agored, gallwn ddangos amrywiaeth o ryseitiau oer.

I gael mwy o wybodaeth neu i drefnu arddangosiad, cysylltwch â:

Lawrlwythwch ein taflen Arddangosiadau Hanes Byw Taflen Hanes Byw

outreach@ggat.org.uk