The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Archaeological Work Experience

School students taking part in a monitoring visit with the Archaeological Planning Services division at the Princess Way excavation

Profiad Gwaith

Os oes diddordeb gyda chi yn archebu lle, cysylltwch â ni @ggat.org.uk am trafodaeth

Gallwch wneud cais drwy Gyrfa Cymru

Darllenwch am brofiadau myfyrwyr eraill yma.

Addysg

Profiad Gwaith gydag GGAT

Os ydych chi'n ystyried dilyn gyrfa mewn archaeoleg gallwn gynnig profiad gwaith i chi. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnig profiad gwaith i fyfyrwyr dros 15 oed.

Os hoffech wybod mwy am drefnu profiad gwaith gyda ni, gallwch wneud cais drwy Gyrfa Cymru, trwy eich ysgol neu gallwch gysylltu â ni'n uniongyrchol. Bydd angen inni gyfweld â chi (yng nghwmni rhiant neu warcheidwad os ydych chi dan 16 oed) cyn y gallwn gynnig lle i chi, fel bod eich cyfnod gyda ni'n fwy cynhyrchiol a gwerthfawr.

Myfyrwyr Prifysgol/Coleg a graddedigion diweddar

Gallwn hefyd gynnig lleoedd i fyfyrwyr prifysgol a choleg sy'n astudio archaeoleg neu bynciau perthnasol. Os ydych chi'n astudio'n lleol, mae modd i chi drefnu dod yn rheolaidd. Byddem yn disgwyl ymrwymiad wrthych i ddod ar adegau sydd wedi'u trefnu o flaen llaw. Gallwch hefyd dreulio cyfnod hir o amser yma yn ystod eich gwyliau, a fyddai hefyd yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd â'u cartrefi yn Ne Cymru ond sy'n astudio rywle arall. Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith sydd gennym i'w gynnig yn waith swyddfa.

Os oes gennych ddiddordeb mewn agwedd benodol o waith yr Ymddiriedolaeth, efallai gallwn deilwra'ch cyfnod yma er mwyn cynnig profiad i chi yn y maes hwnnw. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Students measuring a pillbox during a site visit in order to update the HER

Myfyrwyr Tramor

Mae lle i un neu ddau bob blwyddyn drwy Raglen Hyfforddeiaeth Swyddfa Gyfnewid Astudiaethau Americanaidd Abertawe a drefnwyd gan Brifysgol Abertawe (dylid gwneud cais drwy'r Brifysgol). Gallwn hefyd gynnig lleoliadau gwaith (hyfforddiaethau) i fyfyrwyr neu raddedigion diweddar mewn archaeoleg o'r UE dan nawdd rhaglen Leonardo da Vinci. Mae'r gallu i siarad ac ysgrifennu Saesneg da yn hanfodol.